Stori newyddion

Cheryl Gillan yn Llongyfarch Athletwyr o Gymru a Ddewiswyd ar gyfer y Gemau Olympaidd Ieuenctid Cyntaf

Mae pedwar athletwr ifanc o Gymru sy’n paratoi i gystadlu ar ran Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd Ieuenctid cyntaf erioed, a fydd yn agor yn…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae pedwar athletwr ifanc o Gymru sy’n paratoi i gystadlu ar ran Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd Ieuenctid cyntaf erioed, a fydd yn agor yn Singapore ddydd Sadwrn, i gyd wedi derbyn negeseuon o gefnogaeth oddi wrth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Bydd Carian Scudamore, Zack Davies, Elinor Thorogood a Jade Jones ymysg hyd at 3,600 o athletwyr ifanc eraill rhwng 14 a 18 oed a fydd yn cymryd rhan yn y Gemau a gynhelir o’r 14-26 Awst.Mae Mrs Gillan wedi gwahodd y pedwar athletwr i dderbyniad arbennig yn Nhŷ Gwydyr pan fyddant yn dychwelyd er mwyn anrhydeddu eu gorchestion.

Dywedodd Mrs Gillan : “Llongyfarchiadau i Carian, Zack, Elinor a Jade ar gael eu dewis i gynrychioli Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd Ieuenctid cyntaf erioed yn Singapore.  Gallant i gyd fod yn hynod falch o’r gwaith caled, yr ymroddiad a’r penderfyndod sydd wedi sicrhau’r cyfle iddynt gynrychioli eu gwlad ar y lefel hon.

“Mae hon yn antur ffantastig iddynt, ac rwy’n sicr y byddant yn dod yn ol o Singapore gydag atgofion y byddant yn eu trysori am byth.  Rwy’n hyderus y bydd Cymru gyfan, yn ogystal a’r gweddill o’r Deyrnas Unedig yn eu cefnogi ac yn dilyn eu hymdrechion gan groesi bysedd. Rwy’n gwybod yn bendant y byddaf i.

“Mae gan Gymru doreth o dalent chwaraeon ac nid yw athletau yn fymryn gwahanol.  Fis diwethaf yn unig, bu i athletwyr o Gymru ennill tair medal yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd yn Barcelona, sy’n argoeli’n dda ar gyfer  Gemau’r Gymanwlad a gynhelir yn hwyrach eleni.

“Bydd digwyddiadau fel y Gemau Olympaidd Ieuenctid yn meithrin a datblygu dawn pobl ifanc Prydain i sicrhau ein bod ar y trywydd iawn am lwyddiant  yn y Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain,  a thu hwnt i hynny.”

Fel rhan o’r tim o 40 sy’n cynrychioli Prydain Fawr, bydd Carian o Geredigion yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth neidio ceffylau;  bydd Zack o Lanelli’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth bocsio;  bydd Jade, o’r Fflint yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth Taekwondo, a bydd Eli o Aberystwyth yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth triathlon.

Cyhoeddwyd ar 11 August 2010