Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a hithau’r fenyw gyntaf i gamu i rôl Ysgrifennydd Cymru

Bu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cynnig ei chefnogaeth i 100fed Diwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw, wrth i ddigwyddiadau gael…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cynnig ei chefnogaeth i 100fed Diwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw, wrth i ddigwyddiadau gael eu cynnal ledled Cymru i gydnabod canmlwyddiant y dathliad byd-eang hwn.

Dechreuodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei diwrnod yng Nghymru, lle bu’n cyfarfod a’r Heddlu ac asiantaethau eraill er mwyn trafod y ffordd yr ymdrinnir a throseddau rhyw.  Yn ddiweddarach, ymunodd Mrs Gillan ag aelodau benywaidd eraill Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn Neuadd San Steffan i ddathlu’r diwrnod, ac ymunodd hefyd a Llysgennad UDA yn Llundain mewn digwyddiad i anrhydeddu menywod ym mhedwar ban byd.

Dywedodd Mrs Gillan fod menywod yn creu argraff wrth arwain y ffordd ym myd gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Dywedodd: “Fel Cymraes, rwy’n ymfalchio yn y ffaith mai fi yw’r fenyw gyntaf i gamu i rol Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Pan dderbyniais y swydd 10 mis yn ol, roeddwn yn benderfynol o fabwysiadu dull synnwyr cyffredin a syml o ddelio a’m cydweithwyr.

“Mae fy mhenodiad i, yn ogystal a dewis Kirsty Williams fel y fenyw gyntaf i arwain plaid yn y Cynulliad, a phenodi pedair menyw fel Gweinidogion y Cynulliad, yn dangos gwir gynnydd ar ran menywod ar frig bywyd gwleidyddol yng Nghymru.”

I gydnabod thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2011: ‘Dathliad o’r hyn a gyflawnwyd gan fenywod dros y 100 mlynedd diwethaf’, bu Mrs Gillan yn cynnig ei chefnogaeth hefyd i ‘Network She’, grŵp sy’n trefnu pedwar o ddigwyddiadau codi arian ar yr un pryd ledled Cymru. Bu hefyd yn canmol ymdrechion grwpiau cymdeithasol a chymunedol sy’n codi arian ar gyfer yr achos.

Dywedodd: “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yn amser i ddathlu llwyddiannau menywod a’r hyn maent wedi’i gyflawni, ond mae hefyd yn amser i oedi a meddwl, gan atgoffa ni ein hunain o’r sialensiau niferus sy’n wynebu menywod mewn gwledydd datblygedig a gwledydd sy’n datblygu, yn benodol o ran iechyd, addysg a chyflogaeth.

“Mae trefnwyr Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nghymru wedi paratoi rhaglen drawiadol o raliau, cyngherddau, gweithdai, cynadleddau a pherfformiadau er mwyn cyfleu’r neges bod angen gweithredu a chodi ymwybyddiaeth o hyd er mwyn sicrhau cydraddoldeb i fenywod ym mhob agwedd ar fywyd, a chynnal y cydraddoldeb hwnnw, er bod agweddau gwledydd datblygedig wedi newid yn aruthrol.   

“Gall menywod gyflawni pethau mawr os cant y grym i wneud hynny, ac mae’r dathliadau sy’n rhan o’r digwyddiad blynyddol hwn yn helpu i hyrwyddo’r neges bod gan fenywod ddyfodol disglair, diogel a llawn boddhad o’u blaenau.” **

Cyhoeddwyd ar 8 March 2011