Gwiriwch eich pasbort i osgoi rhuthr y Nadolig
Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ymweld â Swyddfa Basbort Casnewydd
Mae Swyddfa Basbort Ei Mawrhydi yn annog teithwyr sy’n meddwl trefnu taith dramor ar ôl y Nadolig i arbed amser ac arian drwy wneud yn siŵr eu bod yn gwneud cais am basbort mewn da bryd.
Bu’r Gweinidog Mewnfudo, Mark Harper a Stephen Crabb, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, ar ymweliad â Swyddfa Basbort Casnewydd heddiw (15 Tachwedd) i weld sut mae’r staff yn mynd ati i baratoi ar gyfer un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn.
Wrth i nifer o bobl feddwl am deithio yn yr wythnosau yn dilyn y Nadolig, mae Swyddfa Basbort EM yn rhagweld y bydd y galw am basbortau newydd ac am adnewyddu pasbortau yn cynyddu mwy na thair gwaith, o gymharu â’r galw yn ystod cyfnodau llai prysur.
Mae Swyddfa Basbort EM yn annog cwsmeriaid i wirio eu pasbortau mewn da bryd ac i wneud cais yn gynnar drwy’r post. Gall oedi gostio hyd at £55.50 yn fwy i chi a gall olygu na fydd eich pasbort yn cyrraedd mewn pryd.
Dywedodd Mark Harper, y Gweinidog Mewnfudo:
“Os ydych yn bwriadu mynd i ffwrdd dros y Nadolig neu yn y Flwyddyn Newydd, dyma’r amser i wneud cais am eich pasbort.
“Mae ein staff yng Nghasnewydd a ledled y DU yn gweithio’n galed i brosesu dros 5.5 miliwn o geisiadau y flwyddyn.
“Ond gallwch chi helpu drwy wirio eich pasbort a gwneud cais yn gynnar er mwyn osgoi siwrne munud-olaf i’r swyddfa basbort.”
Yn ystod yr ymweliad â Swyddfa Basbort Casnewydd, manteisiodd Mr Harper a Mr Crabb ar y cyfle i fynd ar daith o amgylch y swyddfa a chwrdd â staff yn y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid ac yn y Ganolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid.
Cawsant hefyd gyfle i gyfarfod â staff yr Uned Gweithrediadau Atal Twyll lle rhoddwyd trosolwg o’r gwaith maent yn ei wneud yno.
Dywedodd Stephen Crabb, Gweinidog Swyddfa Cymru:
“Mae Casnewydd yn parhau i fod yn ganolfan basbort bwysig sy’n prosesu miloedd o geisiadau am basbort bob wythnos. Nid yn unig maent yn rhoi gwasanaeth amhrisiadwy, ond maent hefyd yn cyflawni rôl allweddol yng nghyswllt atal twyll, gan wneud y broses gwneud cais am basbort mor ddiogel ac mor gadarn â phosibl.
“Pleser mawr i mi oedd cael cyfarfod y staff yn eu swyddfa newydd yn Nhŷ Nexus lle maent yn parhau i gynnig y gwasanaeth personol, proffesiynol a hanfodol hwn.”