Datganiad i'r wasg

Comisiwn Elusennau i gynnal cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerdydd

Bydd William Shawcross, Cadeirydd, ac Eryl Besse, Dirprwy Gadeirydd, yn agor ac yn cadeirio’r cyfarfod cyn cyflwyniadau gan y Prif Swyddog Gweithredu, David Holdsworth, bydd yn trafod trawsnewidiad digidol y Comisiwn.

This news article was withdrawn on

No longer current.

Cardiff City Stadium

Event Venue

Bydd y Comisiwn Elusennau, rheoleiddiwr annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr, yn cynnal ei gyfarfod cyhoeddus nesaf ar 29 Mehefin 2017. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal 11:30yb - 3:30yp yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Leckwith Rd, Caerdydd CF11 8AZ.

Bydd William Shawcross, Cadeirydd, ac Eryl Besse, Dirprwy Gadeirydd, yn agor ac yn cadeirio’r cyfarfod cyn cyflwyniadau gan y Prif Swyddog Gweithredu, David Holdsworth, bydd yn trafod trawsnewidiad digidol y Comisiwn. Hefyd, bydd cyflwyniad gan David Teague o ICO Cymru.

Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar arwain ymddiriedolwyr a’u helusennau drwy heriau data a’r oes ddigidol, rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein canllawiau allweddol ar gyfer ymddiriedolwyr, a gwersi pwysig o’n gwaith achos. Bydd mynychwyr hefyd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau’r Comisiwn gan gael cyfleoedd i ofyn cwestiynau cyn i’r cyfarfod ddirwyn i ben.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac fe anogir ymddiriedolwyr elusen, gweithwyr a chynghorwyr i fod yn bresennol.

Cofrestrwch i fod yn bresennol trwy Eventbrite. Mae lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, ac yn cael eu cyfyngu i 2 o fynychwyr o bob sefydliad. Mae hefyd croeso i aelodau o’r wasg fynychu a gofynnir iddynt gofrestru eu diddordeb gyda swyddfa’r wasg yn uniongyrchol ar pressenquiries@charitycommission.gsi.gov.uk.

Agenda Cymraeg

Diwedd

PR 45/17


Nodiadau i olygyddion

  1. I gael gwybod mwy am ein gwaith, ewch i’n gwefan: GOV.UK.

  2. Chwilio am elusennau ar ein cofrestr ar-lein.

Press office

E-bost pressenquiries@charitycommission.gov.uk

Out of hours press office contact number: 07785 748787

Cyhoeddwyd ar 1 June 2017