Stori newyddion

Newidiadau i’n llawlyfr cosbau ffeilio hwyr

Rydym wedi diweddaru’r canllawiau a ddefnyddiwn i asesu apeliadau yn erbyn cosbau a wneir gan fusnesau. Daw’r llawlyfr diwygiedig i rym ar 1 Hydref 2019.

A laptop showing the late filing penalties guidance screen.

Bob blwyddyn rydym yn cynnal archwiliadau rheolaidd o’n harferion er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn dal i fanteisio ar wasanaethau o ansawdd da.

Mae un o’r adolygiadau diweddaraf yn canolbwyntio ar ein llawlyfr cosbau ffeilio hwyr, a ddefnyddir gan ein tîm fel canllaw wrth asesu apeliadau yn erbyn cosbau. Roeddem eisiau sicrhau bod y cynnwys yn gyfredol ac yn defnyddio iaith glir a chyson drwyddo draw. O ganlyniad, rydym wedi gwneud newidiadau i rai o’n polisïau.

Daw’r llawlyfr diwygiedig i rym ar 1 Hydref 2019.

 Beth yw’r newidiadau

 Diweddarwyd y polisi ar gyfer cyfrifon sy’n cael eu gwrthod ond nad ydynt yn dod i law’r cwmni neu’r cyflwynydd

Ni fyddwn mwyach yn arfer disgresiwn pan rydym wedi gwrthod cyfrifon o fewn amser digonol ond nad ydynt wedi dod i law’r cwmni neu’r cyflwynydd. Mae hyn oherwydd bod ffeilwyr yn gyfrifol am sicrhau y caiff dogfennau eu cyflwyno i’w cofrestru mewn fformat electronig neu bapur derbyniol. Ymdrinnir â hyn yn Rhan 17, Senario 1 yn y llawlyfr.

 Estyn yr amserau prosesu ar gyfer dogfennau papur

Rydym wedi estyn y cyfnod prosesu o 5 diwrnod i 8 diwrnod er mwyn adlewyrchu ein targed prosesu mewnol ar gyfer dogfennau papur yn fwy cywir. Mae hyn yn golygu, yn y dyfodol, os ydym yn cymryd mwy nag 8 diwrnod gwaith i archwilio a gwrthod cyfrifon papur, gallwn arfer ein disgresiwn i beidio â chasglu unrhyw gosb ganlyniadol. Ymdrinnir ag amserau prosesu yn Rhan 17, Senarios 4, 5 a 6 yn y llawlyfr.

 Awgrymiadau a nodiadau atgoffa ynghylch ffeilio

Rydym yn atgoffa ein holl gwsmeriaid i:

  • gynllunio at y dyfodol – peidiwch â gadael eich cyfrifon tan y funud olaf
  • sicrhau bod eich cyfrifon yn gywir cyn eu ffeilio
  • gwirio statws yr holl ddogfennau yr ydych wedi’u ffeilio trwy ddefnyddio gwasanaeth Tŷ’r Cwmnïau (gwasanaeth Saesneg)

Hefyd dylech ddefnyddio ein gwasanaeth ffeilio ar-lein lle bynnag y bo modd.

  • mae cwblhau a chofrestru’n gyflymach (gall gymryd oddeutu 10 diwrnod i brosesu cyfrifon papur ar yr adegau prysuraf)
  • mae’n defnyddio llai o bapur ac yn fwy ecogyfeillgar
  • mae’n lleihau’r risg y byddwch yn cael cosb, gan fod cwmnïau’n cael cadarnhad electronig bod eu cyfrifon wedi dod i law, ac a ydynt wedi cael eu derbyn neu eu gwrthod
  • mae ganddo gyfraddau gwrthod is na chyfrifon sy’n cael eu ffeilio ar bapur (0.5% o’r cyfrifon electronig o’i gymharu â 6% o’r cyfrifon sy’n cael eu ffeilio ar bapur)
Cyhoeddwyd ar 3 July 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 August 2019 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.