Newidiadau i’r broses fewngofnodi ar gyfer y gwasanaeth ‘Dod o Hyd i wybodaeth am gwmni a diweddaru gwybodaeth’
GOV.UK One Login fydd y prif ffordd o fewngofnodi ar gyfer y gwasanaeth ‘Dod o Hyd i wybodaeth am gwmni a diweddaru gwybodaeth’
Gelwir y cyfrif a ddefnyddiwch i gael mynediad at y gwasanaeth Dod o Hyd i wybodaeth am gwmnïau a diweddaru gwybodaeth yn gyfrif Tŷ’r Cwmnïau.
Bydd y sgrin mewngofnodi yn newid ddiwedd mis Awst. GOV.UK One Login fydd y prif ffordd o fewngofnodi.
Os oes gennych chi gyfrif eisoes, gallwch chi barhau i fewngofnodi gyda’ch manylion presennol am y tro. Bydd yr opsiwn hwn dal ar gael tuag at waelod y dudalen mewngofnodi. Fodd bynnag, bydd angen GOV.UK One Login ar bob defnyddiwr newydd i gael mynediad at wasanaethau Tŷ’r Cwmnïau.
Yn y dyfodol, bydd angen i bob defnyddiwr symud i GOV.UK One Login. Byddwn yn rhoi digon o rybudd i chi cyn i hynny ddigwydd.
Mae’r newid hwn yn berthnasol i’r broses fewngofnodi yn unig - nid oes gofyn i chi gwblhau gwiriad hunaniaeth.
Beth yw GOV.UK One Login?
Mae GOV.UK One Login yn caniatáu i chi gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau’r llywodraeth gan ddefnyddio un cyfeiriad e-bost a chyfrinair. I fewngofnodi, bydd angen eich cyfeiriad e-bost, cyfrinair, a phroses ddilysu aml-ffactor, fel ap dilysu neu god a anfonir drwy neges destun. Mae defnyddio GOV.UK One Login hefyd yn helpu i wneud eich cyfrif Tŷ’r Cwmnïau yn fwy diogel.
Dechreuon ni symud ein gwasanaethau ar-lein i GOV.UK One Login yn hydref 2024.
Nodyn pwysig i ddefnyddwyr sydd â chyfrifon a rennir
Rhaid i bob GOV.UK One Login fod yn gysylltiedig ag un unigolyn, gan ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost a’u rhif ffôn eu hunain.
Os yw eich tîm yn rhannu cyfrif Tŷ’r Cwmnïau ar hyn o bryd, dylech ddechrau cynllunio sut y byddwch yn rheoli mynediad pan fydd GOV.UK One Login yn orfodol. Er mwyn osgoi tarfu, dylai pawb sydd angen mynediad greu eu cyfrif Tŷ’r Cwmnïau eu hunain a’i gysylltu â’u GOV.UK One Login eu hunain. Gall nifer o bobl sy’n mewngofnodi i’r un cyfrif arwain at fesurau rheoli diogelwch a gall arwain at gloi defnyddwyr allan.