Stori newyddion

Newidiadau i sut rydym yn trin ceisiadau cynhennus

Er mwyn osgoi anghydfodau hir, heb eu datrys, rydym yn newid y ffordd rydym yn trin ceisiadau cynhennus.

O fis Ionawr 2016 byddwn yn caniatáu chwe mis ar gyfer datrys cais cynhennus cyn ei gyfeirio at y Tribiwnlys Haen Gyntaf. Ar hyn o bryd nid ydym yn nodi faint o amser a ganiateir.

O dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (DCT 2002), os cawn wrthwynebiad cyfiawnadwy, rhaid i ni gyflwyno rhybudd am y gwrthwynebiad i’r ceisydd.

Os bydd anghydfod yn codi o ganlyniad i wrthwynebiad ac ni ellir dod i gytundeb, rhaid i ni ei gyfeirio at y Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Gwybodaeth ar gyfer gweithwyr cyfraith proffesiynol

Mae’r broses y mae’r Gofrestrfa Tir yn ei dilyn i ddelio â cheisiadau cynhennus cyn eu cyfeirio at adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Tribiwnlys Haen Gyntaf (y Tribiwnlys) wedi bod yn destun adolygiad mewnol ac o ganlyniad cyflwynir rhai newidiadau ym mis Ionawr 2016.

Mae’r prif newidiadau fel a ganlyn:

Cyfyngir y cyfnod ar gyfer cyd-drafodaethau er mwyn gweld a all y partïon i gais cynhennus ddod i gytundeb cyn ei gyfeirio at y Tribiwnlys i chwe mis. Bydd cyfreithwyr y Gofrestrfa Tir yn gallu ymestyn y cyfnod hwn yn ôl eu disgresiwn o dan amodau eithriadol na ellir eu hosgoi pan roddir rhesymau grymus dros yr angen am amser ychwanegol.

Yn ystod y cyfnod chwe mis hwnnw, dim ond dwywaith y bydd y Gofrestrfa Tir yn cysylltu â’r partïon: pan fydd tri mis o’r chwech wedi mynd heibio, ac ar ôl pum mis. Bydd y Gofrestrfa Tir yn holi a yw cyd-drafodaethau’n parhau. Os bydd un parti, neu’r holl bartïon, yn dweud nad ydynt, neu os na fyddant yn ymateb, caiff yr anghydfod ei gyfeirio at y Tribiwnlys.

Yn ychwanegol, anfonir talfyriad achos drafft at y partïon ar gyfer eu sylwadau ar ôl pum mis, cyn cyfeirio at y Tribiwnlys unwaith y bydd y cyfnod chwe mis wedi dod i ben.

Caiff Gwrthwynebiadau ac anghydfodau: ymarferiad a threfniadaeth y Gofrestrfa Tir, cyfarwyddyd ymarfer 37 ei ddiweddaru.

Cefndir

O dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (DCT 2002) ni all y Gofrestrfa Tir benderfynu ar gais lle y ceir gwrthwynebiad, gan dybio bod y Gofrestrfa Tir yn fodlon nad yw’r gwrthwynebiad yn ddi-sail. Rhaid rhoi rhybudd am y gwrthwynebiad i’r ceisydd. Mae’n ofynnol i’r Gofrestrfa Tir gyfeirio unrhyw anghydfod sy’n codi o ganlyniad i wrthwynebiad mewn perthynas â chais (oni bai fod y gwrthwynebiad yn ddi-sail) i’r Tribiwnlys os nad yw’n bosibl cael gwared ar y gwrthwynebiad trwy gytundeb.

Bydd y Gofrestrfa Tir yn gohirio cyfeirio at y Tribiwnlys er mwyn gweld a yw’n bosibl i’r partïon gael gwared ar y gwrthwynebiad trwy gytundeb, a rhoddir cyfnod ar gyfer cyd-drafodaethau i’r perwyl hwn. Caiff y cyfnod hwn ei bennu i chwe mis nawr, yn hytrach na bod yn fwy pen agored fel o’r blaen. Teimlir nad yw anghydfod hir heb ei ddatrys o fudd i unrhyw un.

Mae adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu:

(1) Yn ddarostyngedig i isadrannau (2) a (3), gall unrhyw un wrthwynebu cais i’r cofrestrydd.

(2) Yn achos cais o dan adran 18, dim ond yr unigolyn a gyflwynodd y rhybuddiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef, neu unrhyw berson arall y mae’r rheolau’n darparu ar ei gyfer, sy’n gallu gwrthwynebu.

(3) Yn achos cais o dan adran 36, dim ond yr unigolyn a ddangosir yn y gofrestr fel buddiolwr y rhybudd y mae’r cais yn ymwneud ag ef, neu unrhyw berson arall y mae’r rheolau’n darparu ar ei gyfer, sy’n gallu gwrthwynebu.

(4) Mae’r hawl i wrthwynebu o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i reolau.

(5) Lle y gwneir gwrthwynebiad o dan yr adran hon, rhaid i’r cofrestrydd: (a) roi rhybudd am y gwrthwynebiad i’r ceisydd, a (b) ni all benderfynu ar y cais hyd nes y bydd y gwrthwynebiad wedi’i waredu.

(6) Nid yw isadran (5) yn berthnasol os yw’r gwrthwynebiad yn un y mae’r cofrestrydd yn fodlon y mae’n ddi-sail.

(7) Os nad yw’n bosibl cael gwared ar wrthwynebiad y mae isadran (5) yn berthnasol iddo trwy gytundeb, rhaid i’r cofrestrydd gyfeirio’r mater at y [Tribiwnlys].

(8) Mae’n bosibl y gall rheolau ddarparu ar gyfer cyfeirnodau o dan isadran (7).

Cyhoeddwyd ar 16 December 2015