Stori newyddion

Newidiadau i gofnod 1 yn y Gofrestr Eiddo ar gyfer teitlau prydlesol

Newidiadau diweddar i’r ffordd rydym yn creu cynlluniau teitl ar gyfer llawer o gofrestriadau prydlesol sy’n cynnwys lefel llawr.

O 23 Mawrth, gwneir dau newid i gofnod rhif 1 yn y gofrestr eiddo.

Lle y mae cofrestriad prydlesol yn ddarostyngedig i lefel llawr, ychwanegir nodyn gwybodaeth ar wahân ar ôl disgrifiad yr eiddo. Dangosir enghraifft o gofnod isod:

“Y tir Prydlesol a gynhwyswyd yn y brydles y cyfeirir ati isod sydd o fewn yr ardal a amlinellir yn goch ar gynllun y Teitl uchod a ffeilir yn y Gofrestrfa sef Fflat 4, Stryd Jones, Rhywle, (DA1 4XX).

NODYN: Mae’r fflat ar y llawr cyntaf.”

Mae rhai cofrestri sy’n bodoli eisoes yn cyfeirio at barseli ychwanegol o dir, megis garejys, mannau parcio a thir gardd o fewn disgrifiad yr eiddo yng nghofnod 1 yn y Gofrestr Eiddo. O 23 Mawrth, byddwn yn cyfeirio yn y gofrestr at unrhyw barseli ychwanegol a brydlesir gan brydles dim ond os ydynt yn ddarostyngedig i gyfyngiad lefel llawr megis man parcio mewn islawr o fewn adeilad, neu lle y mae’r parsel ychwanegol yn ddarostyngedig i gynnwys neu eithrio strata. Mewn achosion o’r fath, cyfeirir atynt mewn nodyn gwybodaeth. Dangosir enghraifft o gofnod isod:

“Y tir Prydlesol a gynhwyswyd yn y brydles y cyfeirir ati isod sydd o fewn yr ardal a amlinellir yn goch ar gynllun y Teitl uchod a ffeilir yn y Gofrestrfa sef 26 Twyn Teg, Ffordd Richmond, Unlle (CK3 8RN).

NODYN 1: Mae’r fflat ar y llawr cyntaf.

NODYN 2: Mae’r man parcio yn yr islawr wedi ei gynnwys yn y teitl ac mae’n eithrio’r isbridd islaw.”

Nid yw hyn yn newid ein polisi ar gyfer creu cynlluniau teitl. Bydd parseli ychwanegol o dir sydd y tu allan i ôl-troed yr adeilad yn cael eu dangos ar gynllun teitl y tenant o hyd trwy amlinellu coch neu gyfeiriad addas arall.

Fel gyda phob teitl prydlesol, rhaid darllen y gofrestr a’r cynllun teitl ar y cyd â’r brydles er mwyn deall y cytundeb a wnaed rhwng y partïon gwreiddiol.

Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar wasanaethau megis SIMs, MapSearch neu Chwiliadau Swyddogol.

Nid yw’r polisi hwn yn cynnwys cofrestri rhydd-ddaliol ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd ar 23 March 2015