Datganiad i'r wasg

Y Canghellor yn cyhoeddi cyllideb sy'n cyflawni ar gyfer y genhedlaeth nesaf yng Nghymru

Stephen Crabb: "Mae’r gyllideb heddiw yn dangos maint yr uchelgais sydd gan y Llywodraeth hon i Gymru"

Mae Canghellor y Trysorlys, George Osborne wedi cyhoeddi’r cam nesaf yn ei gynllun economaidd hirdymor ar gyfer Cymru, gyda Chyllideb uchelgeisiol sydd â’r nod o wneud Prydain yn addas ar gyfer y dyfodol mewn byd sy’n wynebu ansicrwydd economaidd cynyddol.

Dangosodd Cyllideb 2016 fel mae cynllun economaidd y Llywodraeth yn dal i weithio i bobl Cymru. Mae’r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn uwch nag erioed. Mae’n 3.7% yn fwy na’r llynedd, ac mae’n codi’n gynt nag unrhyw ranbarth arall yn y DU, gyda 51,000 yn fwy o bobl mewn gwaith. Mae diweithdra wedi gostwng dros 35% er 2010.

Mae’r llywodraeth yn rhoi Cytundeb Dydd Gŵyl Ddewi ar waith ac mae wedi ymrwymo i ddarparu Cyfraddau Treth Incwm Cymru, yn ogystal â datganoli mwy o bwerau, gan gynnwys ynni a thrafnidiaeth. Cafodd cyllid gwaelodol ar gyfer Llywodraeth Cymru ei gyhoeddi yn yr Adolygiad o Wariant.

Bydd Cymru hefyd yn elwa o fuddsoddiadau mawr mewn cynlluniau dinesig ac o gyhoeddiadau i gefnogi busnesau a theuluoedd yn y Gyllideb gan gynnwys:

  • Bydd lwfans personol treth incwm yn £11,000 o fis Ebrill eleni ymlaen, gan gynyddu i £11,500 yn 2017-18. Bydd trothwy cyfradd uwch y dreth incwm yn £43,000 eleni ac yn codi i £45,000 yn 2017-18, sy’n gynnydd o £2000. Mae’r newidiadau hyn yn golygu y bydd 1.4m o unigolion yng Nghymru, erbyn 2017-18, ar eu hennill £182 a bydd 61,000 o unigolion na fyddant yn gorfod talu treth incwm o gwbl, o’i gymharu â 2015-16. Bydd 25,000 o unigolion na fyddant bellach yn gorfod talu treth incwm ar y gyfradd uwch o’i gymharu â 2015-16.
  • I leihau costau i fusnesau a theuluoedd sy’n gweithio’n galed yng Nghymru bydd y llywodraeth yn haneru tollau Croesfannau Afon Hafren, ar ôl iddynt drosglwyddo i ddwylo’r cyhoedd ac ar ôl cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.
  • Ochr yn ochr â hyn, bydd y llywodraeth yn adolygu’r ddadl dros system casglu tollau awtomatig ar y Croesfannau.
  • Cynllun £1.2 biliwn ar gyfer Rhanbarth Prifddinas Caerdydd a gytunwyd gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol. Bydd cyfraniad llywodraeth y DU o £500 miliwn at y cynllun yn darparu cronfa fuddsoddi ar gyfer y rhanbarth ac yn cefnogi’r gwaith o drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd, sy’n rhan ganolog o’r prosiect Metro uchelgeisiol.
  • Bydd y llywodraeth yn agor trafodaethau â Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol ar Gynllun Dinesig posibl ar gyfer Rhanbarth Dinas Bae Abertawe a bydd yn agor y drws ar gyfer cynllun twf ar gyfer gogledd Cymru i gryfhau economi’r rhanbarth ac i fanteisio i’r eithaf ar ei gysylltiad â Phwerdy’r Gogledd.
  • Mae £500,000 yn cael ei ddarparu i wasanaethau Newid Cam CAIS Cymru i Gyn-filwyr sy’n gweithredu ledled Cymru. Bydd yr ymrwymiad hwn yn darparu llwybr cyfeirio newydd ar gyfer 800 o gyn-filwyr ar draws Cymru, gan roi iddynt gefnogaeth wedi’i theilwra’n arbennig gan gyd-filwyr ynghyd ag ymyrraeth arbenigol.
  • Mae £497,000 yn cael ei ddarparu ar gyfer prosiect SAIL Gweithredu dros Blant Abertawe i gefnogi mamau ifanc a menywod beichiog. Mae hwn yn cael ei ariannu gan y Gronfa Treth Tampons.
  • Bydd y llywodraeth hefyd yn darparu cyllid ar gyfer Amgueddfa Lloyd George yng ngogledd Cymru er mwyn helpu i ddathlu canmlwyddiant ei amser fel Prif Weinidog.
  • Archwiliad gwyddoniaeth ac arloesi, a fydd yn rhoi budd i dde-ddwyrain Cymru a de-orllewin Lloegr, i fapio cryfderau ymchwil yr ardal a chanfod meysydd o fantais gystadleuol fyd-eang posibl.

Meddai Canghellor y Trysorlys, George Osborne:

Os ydym am weld Prydain sy’n barod am y dyfodol, mae angen inni roi i’n gwledydd gwych gymhellion gwirioneddol i dyfu’r sector preifat, a mwynhau’r manteision pan ddônt.

Felly mae fy Nghyllideb heddiw yn rhoi’r genhedlaeth nesaf yng Nghymru yn gyntaf. Rydym yn cyflwyno gostyngiad yn y dreth i 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru, diolch i gynnydd yn lwfans personol y Dreth Incwm ac yn nhrothwy’r gyfradd uwch, ynghyd â gostyngiad yn y dreth ar gyfer 25,000 o fusnesau yng Nghymru diolch i ostyngiad yn y Dreth Gorfforaeth i 17% yn 2020-21.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi Cynllun Dinesig arloesol gwerth £1.2bn i Gaerdydd, y byddwn yn haneru’r tollau i groesi Afon Hafren, ac y byddwn yn agor trafodaethau gydag Abertawe a Gogledd Cymru ar gynlluniau tebyg yn yr ardaloedd hynny.

Mae hon yn Gyllideb sy’n cyflawni ar ein cynllun ar gyfer pobl sy’n gweithio yng Nghymru ac mae’n datgan y camau nesaf ar gyfer creu economi gryfach yng Nghymru.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

Mae’r gyllideb heddiw yn dangos maint yr uchelgais sydd gan y Llywodraeth hon i Gymru.

Mae cynlluniau ar gyfer twf yn y gogledd a’r de, cymorth aruthrol i fusnesau ynghyd â golwg o’r newydd ar wyddoniaeth ac arloesi yn datgan ton o optimistiaeth i Gymru gyfan.

Er gwaetha’r sialensiau byd-eang, mae’r lefelau cyflogaeth yng Nghymru yn uwch nag erioed ac rwy’n hyderus y gall Cymru ddod drwy unrhyw stormydd sydd o’n blaenau.

Mae hon yn gyllideb ar gyfer y genhedlaeth nesaf a fydd yn cael effaith ar bob cwr o Gymru.

Am Gynllun Twf Gogledd Cymru, meddai’r Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb:

Mae rhaglen Cynlluniau Dinesig a Chynlluniau Twf y Llywodraeth wedi helpu ardaloedd lleol i ffynnu drwy bartneriaethau arloesol rhwng y llywodraeth ganol a phenderfynwyr lleol.

Bydd cynllun twf yn sicrhau bod Gogledd Cymru wedi’i pharatoi i sicrhau ffyniant hirdymor i’r ardal ac i fanteisio i’r eithaf ar Bwerdy’r Gogledd.

Am y £500K a addawyd i Cais, meddai’r Ysgrifennydd Gwladol:

Mae ein dyled i gyn-filwyr Cymreig yn fawr oherwydd iddynt aberthu cymaint i ddiogelu ein gwlad.

Bydd dros 800 o gyn-filwyr yng Nghymru yn elwa o’r £500,000 a roddir i Cais i ddarparu iddynt y gefnogaeth o safon y maent yn ei haeddu.

Mae’r gwirfoddolwyr yn Cais yn rhoi i bobl ym mhob cwr o Gymru gefnogaeth o’r radd flaenaf ac rwy’n gobeithio y bydd cyhoeddiad heddiw yn cryfhau’r gwasanaeth holl bwysig hwn.

Am dollau Pont Hafren, meddai’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae Pont Hafren yn borth holl bwysig i Gymru – mae’n llwybr cyfarwydd i fodurwyr sy’n teithio i mewn ac allan o Gymru ar fusnes, i fynd i weld cyrchfannau twristiaid neu i ymweld â’u teulu.

Mae’r ymrwymiad heddiw gan Lywodraeth y DU i haneru’r tollau yn dangos bod Cymru yn croesawu eich busnes ac ni all ond gryfhau’r cysylltiadau economaidd gyda de-orllewin Lloegr.

Am y £27K a addawyd i Amgueddfa David Lloyd George, meddai’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru yr Arglwydd Bourne:

Mae ein hamgueddfeydd yn rhoi cyfle unigryw i bobl ddysgu am sut mae ein hanes cyfoethog a balch wedi helpu i lunio Cymru yn yr 21ain Ganrif.

Mae gan dwristiaeth a lletygarwch ran bwysig i’w chwarae i sicrhau twf economaidd ar gyfer y DU a Chymru. Mae ymwelwyr o bob cwr o’r byd yn teithio i Gymru i weld yr arteffactau hanesyddol a’r gelfyddyd o’r radd flaenaf sydd i’w gweld ac rwy’n falch dros ben o weld y cyrchfannau pwysig hyn yn elwa o gyhoeddiad y Canghellor heddiw.

Rwy’n falch iawn y bydd Amgueddfa Lloyd George yn fuan yn derbyn £27,000 y flwyddyn i helpu i warchod yr adnodd gwerthfawr, addysgol hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r trysor diwylliannol hwn a leolir yng Ngogledd Cymru, yn rhoi i bobl o bob cwr o Gymru ac o bob cwr o’r byd gipolwg diddorol ar ein hanes cyfoethog ac amrywiol. Mae’n gyhoeddiad sy’n cael ei groesawu’n arbennig oherwydd eleni rydym yn dathlu canmlwyddiant ei gyhoeddi’n Brif Weinidog.

Cyhoeddwyd ar 16 March 2016