Datganiad i'r wasg

Y Canghellor yn addo £50 miliwn ar gyfer canolfan arloesi newydd yng Nghymru

Stephen Crabb: "Buddsoddiad yn bleidlais enfawr o hyder yn y sector yng Nghymru”

George Osborne

Bydd busnesau, peirianwyr ac arbenigwyr blaenllaw o Brydain yn dod at ei gilydd mewn canolfan arloesi genedlaethol newydd yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar led-ddargludyddion cyfansawdd, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys George Osborne heddiw, gan ddod â buddsoddiad a swyddi hanfodol i’r ardal.

Ar ymweliad â Phrifysgol Caerdydd cyn araith bwysig ar economïau’r Deyrnas Unedig a Chymru, cyhoeddodd Mr Osborne gynlluniau pellach i roi gwyddoniaeth ac arloesi wrth wraidd twf economaidd drwy greu ‘Catapwlt Ceisiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd’ newydd, sy’n cael ei gyllido gan £10 miliwn y flwyddyn o fuddsoddiad gan y llywodraeth hyd at 2020.

Bydd y Catapwlt newydd wedi ei leoli yng Nghymru, gyda’r lleoliad penodol a’r aelodau sefydlu i’w cadarnhau maes o law.

Dywedodd Canghellor y Trysorlys, George Osborne:

Mae cefnogi gwyddoniaeth arloesol ac arloesi wrth wraidd ein cynllun tymor hir i gefnogi pobl Cymru ar bob cam o’u bywydau. Dyna pam rwy’n cyhoeddi £50 miliwn o arian newydd heddiw ar gyfer canolfan genedlaethol arloesi â lled-ddargludyddion, i ddod â gwyddonwyr a busnesau blaenllaw at ei gilydd mewn un ganolfan yng Nghymru.

Bydd y buddsoddiad rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn arweinydd byd-eang ym maes gwyddoniaeth ac arloesi, ac yn creu swyddi newydd hanfodol yn yr ardal.

Dywedodd y Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth, Jo Johnson:

Mae’r Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd newydd yn cydnabod enw da Cymru fel arweinydd mewn electroneg uwch. Bydd dod ag academyddion a busnesau ynghyd i ddatblygu technolegau newydd yn cefnogi agweddau ar ein bywydau bob dydd, o rwydwaith symudol 5G y genhedlaeth nesaf i wella sganwyr diogelwch meysydd awyr.

Bydd ein buddsoddiad yn y dechnoleg hon yn helpu busnesau yn y Deyrnas Unedig i fanteisio ar farchnad fyd-eang, yr amcangyfrifir y bydd hi’n werth hyd at £125 biliwn erbyn 2020, gan greu swyddi ac atgyfnerthu safle’r Deyrnas Unedig fel y lle gorau yn Ewrop i arloesi.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae cyhoeddiad heddiw yn hwb enfawr i’r diwydiant technoleg sydd ar gynnydd yma yng Nghymru, gan ei roi ar flaen y gad yn y chwyldro uwch-dechnoleg.

Mae’n bleidlais enfawr o hyder mewn sector sy’n cynhyrchu buddsoddiadau ac sy’n cefnogi swyddi ledled Cymru.

Mae’r newyddion yn dilyn ymrwymiad y Canghellor yn yr adolygiad o wariant i gynyddu’r cyllid ar gyfer Catapyltiau fel rhan allweddol o dwf economaidd ym Mhrydain.

Cafodd canolfannau catapwlt eu lansio yn 2011, gan ddod â busnes ac ymchwilwyr ynghyd, gyda’r nod o helpu busnesau newydd i ddod â syniadau i’r farchnad a allai fel arall fod wedi ei chael hi’n anodd oherwydd diffyg cyllid, arbenigedd neu gyfleusterau.

Mae naw catapwlt arall ar waith yn y Deyrnas Unedig, gyda chyfanswm buddsoddiad cyhoeddus a phreifat yn fwy na £1.6 biliwn yn ystod eu pum mlynedd gyntaf o weithredu.

Mae cyfleusterau cyfalaf ychwanegol yn cael eu cyflwyno dros y ddwy neu dair blynedd nesaf mewn ymateb i fuddsoddiad strategol gan y llywodraeth.

Bydd y catapwlt yn amodol ar gymeradwyaeth berthnasol.

Yn ystod yr ymweliad, fe wnaeth y Canghellor hefyd ailddatgan cefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i Fargen Dinas ar gyfer Caerdydd. Yn ei araith, cyfeiriodd at ei uchelgais i weld y fargen yn cael ei llofnodi erbyn y Gyllideb ym mis Mawrth.

Ychwanegodd Stephen Crabb:

Mae Cymru ar i fyny, ac mae’r Canghellor wedi nodi’n glir ei fod am weld bargen Dinas Caerdydd yn cael ei sicrhau cyn gynted ag y bo modd. Yr her i Lywodraeth Cymru yn awr yw cyd-fynd â’r uchelgais honno er mwyn helpu Caerdydd i sicrhau ei lle ym mhrif gynghrair prifddinasoedd Ewrop.

Cyhoeddwyd ar 7 January 2016