Cyflwyno teitl Athro Regius i Brifysgol Caerdydd
Yr Ysgol Cemeg yn derbyn gwobr glodfawr gyda gwarant frenhinol gan y Gweinidog dros y Cyfansoddiad.
Heddiw (9 Rhagfyr 2016) cyflwynodd y Gweinidog dros y Cyfansoddiad, Chris Skidmore, Warant Frenhinol a lofnodwyd gan Ei Mawrhydi y Frenhines i Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd i gyflwyno teitl Athro Regius Cemeg yn swyddogol, yr anrhydedd gyntaf o’i fath i gael ei rhoi i Brifysgol yng Nghymru.
Mae teitl Athro Regius yn ddyfarniad prin a mawreddog a roddir gan Ei Mawrhydi y Frenhines i gydnabod ymchwil o safon eithriadol o uchel mewn sefydliad.
Ym mis Mehefin eleni, roedd Prifysgol Caerdydd yn un o 12 o brifysgolion a anrhydeddwyd i nodi Pen-blwydd Ei Mawrhydi yn 90 oed. Cyn hyn, dim ond 14 oedd wedi’u dyfarnu ers teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Credir bod y teitl Athro Regius cyntaf wedi’i roi i Brifysgol Aberdeen yn 1497 gan y Brenin James IV.
Rhoddwyd y fraint brin hon i gydnabod ymchwil ac addysgu eithriadol yr Ysgol Cemeg dros flynyddoedd lawer, yn ogystal â’i rôl yn sbarduno twf a gwella cynhyrchiant yn y DU.
Mae’r Ysgol ar flaen y gad yn y modd y mae’n troi gwaith ymchwil cemegol sylfaenol yn amrywiaeth eang o gymwysiadau sy’n cael effaith gymdeithasol o bwys ym meysydd gwyddorau gofal iechyd, puro dŵr, newid yn yr hinsawdd ac amddiffyn, ymhlith llu o rai eraill.
Rhoddwyd Teitl Athro Regius i’r Athro Graham Hutchings, cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) ac un o arbenigwyr mwyaf rhagorol y byd ym maes catalysis – y broses o gyflymu adweithiau cemegol er mwyn gwneud cynhyrchion yn rhatach, glanach, mwy diogel a mwy cynaliadwy.
Ar ôl cyflwyno’r warant cafodd y Gweinidog ei dywys o gwmpas y cyfleusterau o’r radd flaenaf yn CCI a chyfarfu â’r Athro Hutchings i glywed mwy am weithgaredd ymchwil a rhaglenni addysg yr Ysgol Cemeg. Dewiswyd deiliaid newydd y teitl Athro Regius drwy gystadleuaeth agored, gyda phanel beirniad annibynnol arbenigol o arbenigwyr busnes ac academaidd. Mae statws Athro Regius yn adlewyrchiad teilwng o ansawdd eithriadol o uchel yr addysgu a’r ymchwil mewn sefydliad.
Dywedodd Chris Skidmore, y Gweinidog dros y Cyfansoddiad:
Yn y DU y mae rhai o brifysgolion gorau’r byd ac rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i allu eu cydnabod gyda gwobr uchel ei bri fel hon. Mae ymchwil Prifysgol Caerdydd yn batrwm ac yn golygu y gall ein gwlad barhau’n arloesol ac yn hyblyg yn y farchnad fyd-eang am genedlaethau i ddod.
Gall pob un o’r prifysgolion sy’n derbyn teitl Athro Regius eu hystyried eu hunain yn gwbl haeddiannol o’r anrhydedd mawr hwn, rwy’n hapus iawn i weld Prifysgol o Gymru yn derbyn yr anrhydedd am y tro cyntaf.
Dywedodd Lord Bourne y Gweinidog Llywodraeth u Du yng Cymru:
Fel Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, mae’n rhoi pleser aruthrol i mi ddathlu Athro Regius cyntaf Cymru - un o’r anrhydeddau mwyaf uchel ei barch a phrin ym maes addysg yn y DU. Mae’n cydnabod nid yn unig ymchwil o ansawdd uchel ond yr addysg o safon rhagorol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd yr Athro Graham Hutchings:
Mae cael teitl Athro Regius heddiw yn anrhydedd enfawr i fi. Cyflwynir yr anrhydedd ar sail rhagoriaeth academaidd ac effaith, ac rydym yn rhagori yn y naill faes fel y llall yn Sefydliad Catalysis Caerdydd. Mae catalysis yn gysylltiedig â phopeth a wnawn, ac mae’n cynnig atebion i’r rhai o’r problemau mwyaf dybryd megis darparu bwyd, canfod cyffuriau, ynni glân a chynhesu byd-eang.
Heb os nac oni bai, bydd yr anrhydedd mawreddog hwn yn tynnu hyd yn oed yn fwy o sylw at ein gwaith arloesol wrth geisio ymateb i’r heriau hyn.
Yn y gorffennol, cyflwynwyd cadeiriau Regius pan sefydlwyd neu pan noddwyd cadair prifysgol gan noddwr Brenhinol. Yn flaenorol, fe’u cyfyngwyd i lond llaw o brifysgolion hynafol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn unig, sef Rhydychen, Caergrawnt, St Andrews, Glasgow, Aberdeen, Caeredin a Choleg y Drindod Dulyn. Cyhoeddwyd y Cadeiriau Regius newydd yng Nghynllun Cynhyrchedd y llywodraeth ym mis Gorffennaf, ac maent yn dathlu rôl gynyddol bwysig ymchwil academaidd yn sbarduno twf a gwella cynhyrchedd dros y 90 mlynedd diwethaf.