Datganiad i'r wasg

Llysoedd barn Caerdydd ar flaen y gad yn y rhaglen ddiwygio

Bydd dioddefwyr camdriniaeth ddomestig yn cael cefnogaeth ychwanegol yn Llys Ynadon Caerdydd, fel y gwelodd Lucy Frazer, y gweinidog dros gyfiawnder, yn ystod ei hymweliad â’r ddinas.

External building photograph of Cardiff Magistrates' Court
  • Llys camdriniaeth ddomestig arloesol yn y ddinas
  • Llys Ynadon ar flaen y gad wrth ddefnyddio dulliau digidol o weithio
  • Defnyddio cysylltiadau fideo i gyflwyno tystiolaeth o ben draw’r byd yn Llys y Goron

Achosion o gamdriniaeth ddomestig yn unig yr ymdrinnir â hwy yn y Llys Camdriniaeth Ddomestig Arbenigol, y mwyaf o’i fath yng Nghymru, a hynny er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â’r achosion hyn mewn modd amserol ac effeithiol gan sicrhau bod dioddefwyr yn cael y warchodaeth a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen.

Mae ymchwil yn awgrymu bod llysoedd camdriniaeth ddomestig arbenigol yn cynnig dull mwy effeithiol o erlyn tramgwyddwyr a chadw dioddefwyr yn ddiogel ar hyd y broses yn y llys. Mae staff yng Nghaerdydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol ac mae nifer o eiriolwyr trais domestig annibynnol wrth law i gefnogi dioddefwyr a thystion.

Meddai Lucy Frazer, y gweinidog dros gyfiawnder, ar ei hymweliad â Llysoedd Barn Caerdydd heddiw (4 Ebrill 2019):

Rwyf wrth fy modd yn cael cyfle fel hyn i weld y gwaith hanfodol y mae Llys Ynadon Caerdydd yn ei wneud i gefnogi dioddefwyr camdriniaeth ddomestig.

Mae dioddefwyr yn eithriadol o ddewr yn dod ymlaen a’n dyletswydd ni yw sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael cefnogaeth briodol yn ystod y broses yn y llys.

Mae llysoedd Caerdydd ar flaen y gad yn y rhaglen ddiwygio ac maent yn enghraifft ragorol o sut y gall dulliau modern o weithio wella mynediad at gyfiawnder i bawb.

Un enghraifft yw’r llysoedd camdriniaeth ddomestig o sut mae llysoedd Caerdydd yn cael eu trawsnewid er budd pobl leol. Mae Llys Ynadon Caerdydd hefyd yn un o’r rhai cyntaf yn y DU i ddefnyddio’r system gofnodi ddigidol. Mae’r gwasanaeth hwn yn caniatáu cofnodi canlyniadau’n uniongyrchol ar system reoli achosion ar-lein, gan wella effeithiolrwydd ar gyfer defnyddwyr y llys a gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith.

At hynny, defnyddir cysylltiadau fideo yn Llys y Goron mewn saith allan o’r naw ystafell lys i wella mynediad at gyfiawnder ar gyfer defnyddwyr ledled Cymru a Lloegr. Mae hyn yn caniatáu i dystion bregus roi tystiolaeth o leoliad diogel ac yn galluogi trosglwyddo tystiolaeth o ben draw’r byd yn syth i’r ystafell lys – yn ddiweddar rhoes un tyst dystiolaeth o Awstralia.

Mae Rhaglen Ddiwygio uchelgeisiol GLlTEM, sydd werth £1bn, yn cyflwyno technoleg newydd a dulliau modern o weithio i’r system gyfiawnder ac yn 2018 defnyddiwyd ein gwasanaethau ar-lein gan dros 150,000 o bobl.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2019