Datganiad i'r wasg

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael gwerth o leiaf £30m o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i ddatgloi arloesi lleol a thyfu'r economi

• Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o dair dinas a rhanbarth yn y DU sy’n cael eu cefnogi drwy gronfa arloesi leol gwerth £500m.

Aerial view of Cardiff.

  • Bydd partneriaethau lleol yn cyfeirio cyllid at amrywiaeth o flaenoriaethau, o wyddorau bywyd i ddeallusrwydd artiffisial, neu gallent fanteisio ar gryfderau presennol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel y rheini yn y maes technoleg moduron i gefnogi dyfodol mwy gwyrdd
  • Mae’n adeiladu ar y setliad ymchwil a datblygu uchaf erioed o £86bn tan 2030 ac yn cefnogi sgiliau lleol i gyflawni twf economaidd fel rhan o’n Cynllun ar gyfer

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o dair dinas a rhanbarth yn y DU sy’n cael o leiaf £30m yr un gan Lywodraeth y DU i ddatgloi arloesi newydd dan arweiniad lleol sy’n gallu gwella bywydau ledled y wlad, fel y mae’r Gweinidog Gwyddoniaeth y DU, yr Arglwydd Vallance wedi cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth 29 Gorffennaf). 

Bydd partneriaethau rhwng awdurdod y ddinas-ranbarth, busnesau a sefydliadau ymchwil yn gweithio gydag Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) i fuddsoddi’r cyllid mewn amrywiaeth o flaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg - o wyddorau bywyd i atebion ynni gwyrdd, deallusrwydd artiffisial i beirianneg, a thu hwnt.

Gallai hyd yn oed adeiladu ar gryfderau presennol Caerdydd, a Chymru’n ehangach, o’i rôl yn datblygu cydrannau cerbydau trydan a fydd yn ein helpu i adeiladu byd mwy gwyrdd i’w alluoedd gwyddor data a all wella bywydau, o gael gwasanaethau cyhoeddus gwell i wella ein hiechyd. 

Mae’r cyllid yn rhan o’r Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol (LIPF) gwerth hyd at £500m, a gyhoeddwyd cyn yr Adolygiad o Wariant y mis diwethaf i rymuso arweinwyr lleol sydd â rhan i’w chwarae yn y gêm. Bydd yn helpu i dargedu buddsoddiad mewn arloesi a manteisio i’r eithaf ar arbenigedd eu cymunedau i ryddhau darganfyddiadau sydd o fudd i bob un ohonom a thyfu’r economi fel rhan o’n Cynllun ar gyfer Newid.

Penderfynwyd clustnodi o leiaf £30m i dair ardal â photensial mawr sef Glasgow, Belfast-Derry/Londonderry a Chaerdydd yn dilyn cydweithio rhwng Llywodraeth y DU a llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cyhoeddwyd fis diwethaf y byddai saith rhanbarth yn Lloegr hefyd yn derbyn cyllid - yn ymestyn o Ogledd-ddwyrain Lloegr i Fanceinion Fwyaf, ac o Lerpwl i Lundain.

Cyhoeddwyd y cyllid fel rhan o’r setliad ymchwil a datblygu uchaf erioed o £86bn tan 2030 a bydd yn helpu’r Llywodraeth i gyflawni ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern drwy gefnogi sectorau twf uchel a hybu partneriaethau â diwydiant ar gyfer twf economaidd hirdymor.

Dywedodd Gweinidog Gwyddoniaeth y DU, yr Arglwydd Vallance: 

O sbarduno datblygiad cydrannau cerbydau trydan a fydd yn helpu i ddarparu planed wyrddach i waith gwyddoniaeth data arloesol, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn chwarae rhan flaenllaw yn nhechnolegau’r dyfodol a all ddod â budd i bobl ledled y DU.

Drwy dargedu’r cyllid hwn gydag arweinwyr lleol at amrywiaeth o sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg, gallwn fanteisio i’r eithaf ar yr arbenigedd ledled Caerdydd a Chymru’n ehangach i dyfu’r economi fel rhan o’n Cynllun ar gyfer Newid.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r cyllid hwn gan Lywodraeth y DU yn hanfodol i gefnogi prif sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg Cymru. Rydym eisoes yn cystadlu â’r goreuon mewn meysydd sydd â photensial enfawr ar gyfer hyd yn oed mwy o dwf. 

Mae gan Gymru’r ddawn a’r arbenigedd i ddatblygu atebion uwch-dechnoleg i amrywiaeth o heriau, a bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sbarduno arloesi, creu swyddi newydd sy’n talu’n dda a thyfu economi Cymru.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

Mae’r buddsoddiad hwn yn bleidlais arall o hyder ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae’n adeiladu ar ein gwaith yn cefnogi ei thwf, ecosystem ymchwil prifysgol gref, sylfaen diwydiant a chlystyrau arloesi dros nifer o flynyddoedd.

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Chyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru a Llywodraeth y DU i fanteisio ar gryfderau’r rhanbarth, denu buddsoddiad preifat sylweddol, cryfhau partneriaethau rhanbarthol a sicrhau manteision go iawn i bobl ledled De-ddwyrain Cymru a thu hwnt.

Bydd clystyrau arloesi â photensial uchel mewn lleoedd nad ydynt wedi’u clustnodi ar gyfer cyllid hefyd yn gallu gwneud cais i gystadleuaeth, a bydd Ymchwil ac Arloesi yn y DU yn cyhoeddi canllawiau ar y gystadleuaeth hon yn fuan.

Mae’r Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol yn newid sylweddol mewn polisi arloesi sy’n seiliedig ar leoedd, gan roi mwy o reolaeth i ranbarthau dros sut mae buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu’n cael ei gyfeirio mewn modd sy’n manteisio i’r eithaf ar eu potensial arloesi a sbarduno twf economaidd.

Mae’n adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd o raglenni sydd eisoes ar y gweill i gefnogi clystyrau arloesi posibl mewn rhanbarthau ledled y DU, gan gynnwys y Gronfa Strength in Places a chynllun peilot y Cyflymydd Arloesi a chystadleuaeth Lansio Innovate UK.  

Mae cynllun peilot y Cyflymydd Arloesi yn unig wedi denu gwerth dros

£140 miliwn mewn buddsoddiad preifat newydd, wedi creu cannoedd o swyddi ar draws Gorllewin Canolbarth Lloegr, Manceinion Fwyaf a Dinas-Ranbarth Glasgow, ac wedi cefnogi amrywiaeth o dechnolegau newydd.

Mae’n cynnwys y rheini a ddatblygwyd gan gyflymydd diagnostig datblygedig Manceinion Fwyaf, sy’n canfod clefydau’r afu, y galon a’r ysgyfaint yn gyflymach ac yn rhatach, ac mae Moonbility o Orllewin Canolbarth Lloegr yn defnyddio meddalwedd deallusrwydd artiffisial i helpu cwmnïau trenau i efelychu, mewn amser real, amhariad posibl ar y rhwydwaith er mwyn iddynt allu rhoi gwybod i deithwyr am hyd unrhyw oedi, a rhoi cyngor ar ail-gynllunio teithiau.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Gorffennaf 2025