Datganiad i'r wasg

Annog busnesau Cymru i hawlio grantiau gwerth £3,000 i gael band eang gwell

Busnesau Caerdydd a Chasnewydd tan Mawrth 2015 i geisio am grant i fyny at £3,000 gan Lywodraeth y DU i sicrhau mynediad cyflymach i’r rhyngrwyd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r cynllun yn galluogi i fusnesau wneud cais am grantiau gwerth hyd at £3,000 yr un i dalu costau gosod band eang cyflymach a gwell yn ei le.

Hyd yma, mae mwy na 170 o fusnesau yng Nghaerdydd ac yng Nghasnewydd wedi cael grantiau, gyda llawer mwy’n rhan o’r broses ymgeisio ar hyn o bryd.

Mae’r grant, sydd ar ffurf taleb, yn rhan o’r gwaith o drawsnewid band eang y mae’r Llywodraeth yn ei wneud ar hyd a lled y wlad.

Y nod yw helpu dinasoedd i greu a denu swyddi a buddsoddiad newydd a gwneud y DU y lle gorau yn y byd i wneud busnes.

Dywedodd Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae’r Llywodraeth yma’n gwybod mai busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru. Nhw ydi’r peirianwaith creu swyddi ar hyn o bryd, yn sbarduno twf ar hyd a lled Cymru.

Mae mynediad at fand eang cyflymach a gwell yn hanfodol fel bod ein busnesau’n gallu ehangu a chystadlu yn y ras fyd-eang. Dyna pam ein bod ni’n rhoi’r grant yma i fusnesau, i dalu costau sefydlu ac i’w galluogi nhw i fanteisio ar y cyfleoedd busnes y mae band eang cyflym iawn yn eu cynnig.

Ymhlith y manteision i fusnesau o ganlyniad i fand eang cyflymach a gwell mae:

  • Ehangu a mynediad i farchnadoedd newydd drwy well cyfathrebu â chwsmeriaid a chyflenwyr
  • Gwella diogelwch drwy gefnogi data’n gyflym ac yn ddiogel
  • Gwell cynhyrchiant a gwella gwasanaethau i gwsmeriaid drwy gyflymder lanlwytho a lawrlwytho llawer mwy
  • Costau meddalwedd a chaledwedd is drwy elwa o opsiwn storio data a cheisiadau ar-lein
  • Gwella eich dull chi o gyfathrebu a chydweithio drwy roi sylw i gydweithwyr, cleientiaid a phartneriaid ar alwadau fideo amser real, a thrwy rannu gwybodaeth ar feddalwedd cwmwl

Caiff busnesau ragor o wybodaeth am y cynnig hwn, a gwneud cais, drwy’r wefan talebau cyswllt band eang

Mae’r rhaglen dinasoedd Cysylltiad Cyflym yn cael ei gweithredu ochr yn ochr â gwaith Llywodraeth y DU yn ehangu band eang cyflym iawn i ardaloedd gwledig, sydd eisoes wedi sicrhau mynediad cyflym iawn i fwy nag 1 miliwn o gartrefi a busnesau. Erbyn 2017, bydd 95% o’r DU yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Medi 2014 show all updates
  1. Added Welsh language translation.

  2. First published.