Datganiad i'r wasg

Busnesau yng Nghymru yn braenaru’r tir ar gyfer twf, medd Ysgrifennydd Cymru adeg rhyddhau ystadegau’r ILO

Heddiw [14eg Medi], dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, fod busnesau yng Nghymru’n parhau i wneud yn dda er gwaethaf yr hinsawdd economaidd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [14eg Medi], dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, fod busnesau yng Nghymru’n parhau i wneud yn dda er gwaethaf yr hinsawdd economaidd anodd.  Daw ei geiriau wrth i baratoadau fynd rhagddynt ar gyfer Cinio’r 50 Fast Growth a gaiff ei gynnal nos Wener yma [16eg Medi] i wobrwyo’r 50 cwmni sy’n tyfu gyflymaf ac i ddathlu twf busnesau cynhenid o Gymru.

Dywedodd Cheryl Gillan er bod yr Ystadegau Marchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw yn siomedig, mae arwyddion bod twf yn rhoi hwb i’r sector busnes. Yn ei dro, bydd hyn yn arwain at fwy o gyfleoedd i weithwyr yng Nghymru.  Dywedodd ei bod yn “bryderus” am nad oes penderfyniad o hyd am y Parthau Menter yng Nghymru a heriodd Llywodraeth Cymru i sefydlu Parthau Menter er mwyn rhoi hwb i dwf.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng, a bod lefelau diweithdra wedi cynyddu.  Mae’r arolygon ILO yn dangos bod y lefel cyflogaeth a’r gyfradd cyflogaeth, ill dau, wedi gostwng, tra bod y lefel a’r gyfradd diweithdra wedi codi.  Y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru oedd 67.7%, sy’n ostyngiad o 1.0%. Y gyfradd diweithdra oedd 8.4%, sy’n gynnydd o 0.6% ar y chwarter diwethaf. Y gyfradd Anweithgarwch Economaidd oedd 26.0%, sy’n gynnydd o 0.7% ar y chwarter diwethaf.  Roedd yr arolwg ILO hefyd yn dangos bod cyfradd nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra yn 5.5% ym mis Awst, sydd 0.1% yn uwch na mis Gorffennaf 2011.

Dywedodd Mrs Gillan: “Er bod ffigurau heddiw yn cyfleu darlun siomedig ledled y Deyrnas Unedig, mae’r hinsawdd economaidd yn parhau i brofi nad yw adferiad gwirioneddol byth yn rhwydd.  Mae’n hanfodol bod Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu’n ddiymdroi i sicrhau bod busnesau Cymru yn cael yr un cyfleoedd a’r busnesau hynny dros y ffin. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno Parthau Menter, er mwyn rhoi hwb i’r posibilrwydd o dwf mewn ardaloedd sydd wedi’u targedu. 

“Rydyn ni’n dal i ddisgwyl clywed cynlluniau Llywodraeth Cymru yn hyn o beth ac rwy’n bryderus am nad oes penderfyniad wedi’i wneud.  Credaf fod ffigurau heddiw yn dangos bod angen i ni dorchi llewys a gweithio gyda’n gilydd at un nod cyffredin: mwy o swyddi a mwy o fuddsoddiad yng Nghymru.  Rydyn ni eisoes yn cydweithio’n agos a busnesau a sefydliadau i ddarparu’r amodau cywir ar gyfer twf, er mwyn sicrhau bod eu llwyddiannau’n creu cyfleoedd gwirioneddol i bobl Cymru. Mae’n hanfodol nad yw Cymru ar ei hol hi o ran yr agenda twf.

“Mae’r 320 cwmni a enwebwyd ar gyfer y Fast Growth 50 yng Nghymru hefyd yn dangos bod busnesau Cymru yn chwarae rhan bwysig yn economiau Cymru a’r DU, gan gynhyrchu symiau sylweddol o refeniw - dros £5biliwn, a dros 18,000 o swyddi rhyngddynt.  Mae angen i ni adeiladu ar y llwyddiannau hyn a rhoi mwy fyth o gymorth i fusnesau i gynyddu nifer y swyddi yn y sector preifat yng Nghymru, yn enwedig gan ein bod mor ddibynnol ar y sector cyhoeddus ar hyn o bryd.

“Mae ystadegau heddiw’n dangos bod talcen caled o’n blaenau, ond rwy’n hyderus bod busnesau Cymru yn braenaru’r tir ar gyfer twf, a fydd yn arwain at economi cryfach a marchnad lafur mwy iachus.”

**Dywedodd y Gweinidog Cyflogaeth, Chris Grayling: **“Mae ffigurau heddiw yn tanlinellu graddfa’r her a wynebwn, yn enwedig yn wyneb twf arafach ledled Ewrop a Gogledd America. Mae diweithdra’n dal yn is nag ydoedd chwe mis yn ol ond mae’n amlwg bod rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ein hymdrechion ar gefnogi twf busnesau a sicrhau bod y bobl hynny sydd yn colli’u swyddi yn cael y cymorth gorau posib i fynd yn ol i gyflogaeth.”

Nodiadau i Olygyddion:

1.)   Bydd Ysgrifennydd Cymru yn rhoi’r brif araith yn y cinio gala Fast Growth 50 nos Wener (16eg Medi) yng Ngwesty’r Holland House, Caerdydd, a fydd yn dechrau am 19.00.

2.)   Ceir rhagor o fanylion am y Gwobrau Busnes Fast Growth 50 yma

3.)   Ceir rhagor o wybodaeth am Ystadegau’r Farchnad Lafur ILO yma

Cyhoeddwyd ar 14 September 2011