Busnesau a chymunedau gwledig yn cael dweud eu dweud ar Brosiect yr Economi Wledig
Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi diolch i fusnesau a chymunedau gwledig ar hyd a lled Cymru am eu cyfraniadau tuag at brosiect…
Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi diolch i fusnesau a chymunedau gwledig ar hyd a lled Cymru am eu cyfraniadau tuag at brosiect economi wledig Swyddfa Cymru.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf bu gweithlu Swyddfa Cymru yn ymgynghori a chasglu barn ac awgrymiadau ar ba faterion penodol sy’n dal cymunedau gwledig yn ol, a pha bolisiau y dylai’r Llywodraeth glymblaid ystyried eu rhoi ar waith er mwyn eu cynorthwyo.
Dywedodd Mr Jones: “Rydym wedi cael ymateb da i’n galwad am dystiolaeth i gefnogi’n prosiect - diolch i bawb a gymerodd saib er mwyn cymryd rhan. Roedd ystod eang yr ymatebion yn amlygu myrdd o faterion sy’n bwysig i’r rhai sy’n byw a gweithio yng Nghymru wledig.”
“Mae materion yn amrywio o ddarpariaeth a chyflymder band eang, pris tanwydd a threth tanwydd i dreth car. Thema arall ymysg yr ymatebion oedd pwysigrwydd busnesau bach i’r economi wledig, a’r pryderon sydd ynghlwm a ffawd Busnesau bach a chanolig fel argaeledd credyd gan y banciau, dirywiad yng ngwasanaethau lleol fel banciau a swyddfeydd post a rheoliad gor eithafol.
“Mae’r economi wledig yn hanfodol bwysig i Gymru, ac mae’r Ysgrifennydd Gwladol a minnau’n cydnabod y pwysigrwydd o gymunedau gwledig - dyna pam rydym wedi cychwyn y prosiect hwn i edrych ar y materion sy’n effeithio arnynt. Mae fy swyddogion a minnau’n barod wedi cychwyn ymchwilio ymhellach i’r casgliadau, ac rydym yn edrych ar y datrysiadau a awgrymwyd gyda’r bwriad o hysbysu’n cydweithwyr yn y Llywodraeth o’n casgliadau.”
Nodiadau
Mae copi o’r llythyr oddi wrth Weinidog Swyddfa Cymru at y rhai a gyfrannodd i’r prosiect i’w weld yma.