Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Yr ymgyrch 'Business is GREAT' ar fin rhoi hwb i fusnesau bach mentrus yng Nghymru

Llywodraeth y DU yn lansio ymyrch i gefnogi busnesau bach ledled y wlad

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Business is GREAT

Mae lansio’r ymgyrch ‘Business is Great’ yn dangos yn glir ymrwymiad Llywodraeth y DU i rymuso busnesau bach, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.

Heddiw (6 Tachwedd) mae’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, wedi cychwyn ton o weithgarwch wedi’i anelu at ddatblygu a gwella’r ffordd y mae’r Llywodraeth yn cefnogi busnesau bach ledled y wlad.

O heddiw ymlaen, bydd busnesau yng Nghymru yn gallu manteisio ar y canlynol:

  • Cynllun mentora newydd gwerth £1 miliwn sy’n sector benodol a fydd yn galluogi cwmnïau i fanteisio ar gymorth a chyngor oddi wrth bobl fusnes brofiadol yn eu maes gwaith eu hunain
  • Cronfa cychwyn busnes gwerth £10 miliwn sydd wedi cael ei lansio gan BBSRC (Y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol) i helpu gwyddonwyr entrepreneuraidd yn y maes hwn i sefydlu’u busnes
  • Rhaglen Fuddsoddi’r Banc Busnes a fydd yn rhoi hwb i fusnesau bach, gan roi cyfle iddynt gael at gyfalaf mawr ei angen ar gyfer buddsoddi a datblygu

Mae gwefan newydd yr ymgyrch Business is GREAT wedi cael ei lansio hefyd. Yma mae’r holl gefnogaeth o bob rhan o’r Llywodraeth wedi cael ei dwyn at ei gilydd, gan ei gwneud yn hawdd i fusnesau gael mynediad i’r gwasanaethau a’r cynnyrch y mae eu hangen arnynt i ddatblygu.

Ar hyn o bryd mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn cynrychioli Llywodraeth y DU ar ymweliad pedwar diwrnod â Singapore ac Indonesia, lle bydd yn chwilio am ragor o gyfleoedd i gwmnïau’r DU ehangu ac allforio i’r rhanbarth.

Dywedodd:

Mae gan sector busnesau bach uchelgeisiol a ffyniannus rôl allweddol yn llywio’r adferiad economaidd i’r cyfeiriad iawn.

Yng Nghymru, rydym wedi gweld cwmnïau yn dangos yn gyson nad dim ond goroesi y maent ond, yn hytrach, yn ffynnu. Yn wir, mae hyder ymysg busnesau ledled y DU ar ei uchaf erioed, ac ar ei uchaf yng Nghymru ers 2009.

Mae Village Bakery yn Wrecsam wedi cadarnhau ei statws fel y busnes bach sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru drwy gyhoeddi y bydd yn dyblu ei weithlu i gyd-fynd â chynnydd £1.8 miliwn yn y farchnad cyfanwerthu.

Yn y de, mae’r cwmni glanhau domestig a masnachol, Mrs Bucket, a sefydlwyd gan Rachel Flanagan yn 2006 pan oedd yn 18 oed, wedi tyfu a hwn bellach ydy’r cwmni glanhau domestig mwyaf yn ne Cymru, gan gyflogi dros 90 o staff mewn pum lleoliad.

Mae’r sector yn cael ei wthio gan benderfyniad, creadigrwydd a doniau perchnogion busnesau bach fel y rhain. Ond, mae’n rhaid i’r Llywodraeth hefyd greu’r amgylchedd iawn i helpu busnesau i ffynnu ac i symud i farchnadoedd newydd a marchnadoedd tramor.

Ym mis Rhagfyr, bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi strategaeth ar draws y Llywodraeth ar gymorth i fusnesau bach a fydd yn ystyried:

*Creu cyfleoedd drwy alluogi BBaCh i fanteisio ar gyfleoedd caffael cyhoeddus yn haws * Hybu gallu busnesau drwy wella’r cymorth busnes y mae’r Llywodraeth yn ei gynnig fel bod busnesau’n gallu canfod beth sydd ei angen arnynt i gychwyn a datblygu’u busnes. * Hybu twf mewn marchnadoedd newydd drwy wasanaethau UKTI (Masnach a Buddsoddi y DU) sy’n cynnig cymorth, cynllunio a hyfforddiant teilwredig i helpu i baratoi BBaCh ar gyfer allforio dramor. * Gwella gallu busnesau i gael at gyllid drwy helpu busnesau i gael mynediad at gyllid ecwiti a chyllid dyledion a sefydlu’r Banc Busnes. * Arbed amser i fusnesau drwy leihau biwrocratiaeth a symleiddio ein system dreth

Ychwanegodd Mr Jones:

Rhoddodd Cyllideb y Canghellor eleni ddogn da o hyder i fusnesau a defnyddwyr yma yng Nghymru.

Bydd y gostyngiad ym mhrif gyfradd y dreth gorfforaeth a lwfans cyflogaeth newydd yn hwb sylweddol i fusnesau llai a chanolig eu maint – gan annog mwy ohonynt i recriwtio. Byddant hefyd yn elwa o fesurau i wella mynediad i gyllid drwy’r Banc Busnes, y cynllun Gwarant Cyllid Menter a Benthyciadau i Gychwyn Busnes, sydd bellach wedi’i ymestyn i Gymru.

Mae UKTI hefyd yn adnodd gwerthfawr i fusnesau ledled y DU, gan gynnwys Cymru. Maent yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni cymorth masnach, gan gynnwys help gydag ymchwil marchnad a chanfod contractau dramor. Byddwn yn annog busnesau mentrus yng Nghymru i fanteisio ar yr holl gymorth sydd ar gael iddynt i helpu i roi Cymru ar sylfaen gadarn yn y ras fyd-eang.

Yr Athro Dylan Jones-Evans yw sylfaenydd Fast Growth 50 - y seremoni wobrwyo sy’n anrhydeddu’r busnesau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Dywedodd:

Mae helpu entrepreneuriaid i gychwyn, i ddatblygu ac i adnewyddu’u busnesau yn un o’r pethau pwysicaf y gall unrhyw lywodraeth leol, ranbarthol neu genedlaethol ei wneud i helpu i greu swyddi a gwella safonau byw, yn enwedig mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Wrth i economi Cymru wella o effeithiau dirwasgiad byd-eang, bydd angen rhoi cefnogaeth lawn i’n cymuned o fusnesau bach yng Nghymru er mwyn iddynt barhau â’u cyfraniad anferthol at ein heconomi a’n cymdeithas, o greu swyddi i arloesi a datblygu cymunedau lleol cynaliadwy.

Nodiadau i Olygyddion

  • Bydd y 192,745 o Fusnesau Bach a Chanolig eu Maint yn gallu manteisio ar y Banc Busnes. Bydd y sefydliad hwn yn:
    • Defnyddio £1 biliwn o gyfalaf newydd i wella cynlluniau cyfredol a datblygu sefydliad newydd parhaus i gefnogi twf BBaCh erbyn diwedd 2014.
    • Creu dwy gronfa cyfalaf menter newydd ar gyfer £75 miliwn.
    • Cefnogi mwy o ddarparwyr benthyciadau i gynyddu’r cyllid i BBaCh drwy’r Warant Cyllid Menter - mae 895 o fenthyciadau wedi’u dyfarnu i fusnesau yng Nghymru a’r rheini’n werth £83.4 miliwn.
Cyhoeddwyd ar 6 November 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 November 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.