Datganiad i'r wasg

Buddsoddiad y Business Bank yn help llaw i fusnesau bach

Ysgrifennydd Cymru yn annog busnesau Cymru i fanteisio ar gefnogaeth newydd sydd ar gael

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Pound coins

Mae’r buddsoddiad ychwanegol o filiynau o bunnoedd yn y British Business Bank yn dangos yn glir unwaith eto ymrwymiad Llywodraeth y DU i rymuso busnesau bach, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.

Heddiw mae Llywodraeth y DU wedi addo buddsoddi £250m ychwanegol yn y British Business Bank, mewn ymgais i helpu cwmnïau bach a chanolig eu maint i fuddsoddi ac ehangu.

Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at y cyfalaf newydd o £1 biliwn a gafodd ei ymrwymo gan y Canghellor yn Natganiad yr Hydref y llynedd.

Bydd y cyllid yn cefnogi amrywiaeth o ymyriadau newydd arloesol, gan gynnwys cefnogaeth gyfalaf i gwmnïau newydd yn y farchnad, cyfalaf mentro yn nes ymlaen a chyllid seiliedig ar asedau.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn annog busnesau bach a newydd Cymru i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, i rymuso’r gymuned o fusnesau bach.

Dywedodd Mr Jones:

Mae busnesau bach a chanolig wedi bod yn asgwrn cefn yr adferiad economaidd yng Nghymru ers amser maith, gan gyfrannu 36% o holl drosiant y sector preifat ac yn gyfrifol am bron i 630,000 o swyddi. Ers 2010, mae mwy na 1,000 o fusnesau bach a chanolig wedi cael eu sefydlu yng Nghymru, gan brofi bod dawn entrepreneuraidd a hyder cynyddol i’w weld yn y sector busnes.

Ond rydyn ni eisiau gwneud mwy i gefnogi busnesau bach a newydd sydd wedi ei chael yn anodd efallai i sicrhau cyllid drwy brif fanciau’r stryd fawr. Mae arnynt angen buddsoddiad i gyflogi mwy o bobl, i gymryd archebion newydd ac i brynu offer newydd.

Bydd y British Business Bank yn eu helpu i wneud hynny. Bydd yn cynnig dewis i fusnesau llai sy’n ceisio sicrhau cyllid hanfodol i helpu gyda buddsoddi, ehangu eu gweithredoedd a sbarduno twf economaidd y mae ei wir angen.

Byddwn yn annog busnesau mentrus yng Nghymru i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael iddynt i helpu i roi Cymru ar sylfaen gadarn yn y ras fyd-eang.

Yn ogystal â mynediad at y buddsoddiad yn y Business Bank, mae busnesau Cymru’n gallu elwa o’r canlynol hefyd:

  • Cynllun mentora newydd gwerth £1 miliwn sy’n sector benodol a fydd yn galluogi cwmnïau i fanteisio ar gefnogaeth a chyngor gan bobl fusnes brofiadol yn eu maes gwaith eu hunain.

  • Cronfa sefydlu busnes gwerth £10 miliwn sydd wedi cael ei lansio gan BBSRC (Y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol) i helpu gwyddonwyr entrepreneuraidd yn y maes hwn i sefydlu eu busnes

  • Benthyciadau Sefydlu – cefnogaeth hanfodol ar ffurf benthyciad i’w dalu’n ôl a hefyd mentor busnes ar gyfer entrepreneuriaid ledled y wlad.

NODIADAU I OLYGYDDION

Ffeithiau Allweddol am y British Business Bank

  • Lansiwyd y British Business Bank yn ffurfiol fis Hydref a nawr mae ganddo gyfalaf o £1.25 biliwn ar gyfer rhaglenni newydd i gefnogi busnesau bach a chanolig. Mae hefyd wedi cymryd yr awenau gyda nifer o raglenni etifeddiaeth. Mae’r cynlluniau etifeddiaeth hyn yn cynhyrchu mwy na £600m o arian benthyg a buddsoddiadau newydd i fusnesau bach a chanolig y DU yn flynyddol. Dyma gynnydd o 85% ar yr un cyfnod y llynedd.

  • Mae’r British Business Bank yn gwneud cynnydd da gyda helpu i sicrhau bod cyllid yn cyrraedd y busnesau llai ac mae eisoes wedi gwneud ei ddau ymrwymiad cyntaf fel rhan o’i raglen fuddsoddi newydd – gwerth cyfanswm o £45 miliwn. Bydd hyn yn rhyddhau cyllid o £125 miliwn – oherwydd mae arian y Business Bank wedi denu £80m o gyllid ychwanegol gan y sector preifat.

  • Mae’r sefydliad eisoes yn gweithredu ar ffurf interim. Daw’n gwbl weithredol yn hydref 2014, unwaith y bydd cymeradwyaeth Cymorth y Wladwriaeth y Gymuned Ewropeaidd wedi’i glirio.

  • Mae’n fwriad i’r ymyriadau sy’n cael eu rhoi yn eu lle yn awr gael effaith barhaus a gwneud gwahaniaeth mawr i fenthyca i fusnesau am flynyddoedd i ddod.

  • Mae’r banc bellach yng ngofal y mynediad BIS presennol i gynlluniau cyllid a bydd yn adeiladu ar y rhain, gan sicrhau eu bod yn parhau’n hyblyg ac yn diwallu gofynion y farchnad.

  • Bydd y banc yn cael ei reoli’n broffesiynol gyda nod masnachol. Bydd yn gweithredu hyd braich oddi wrth weinidogion. Bydd yn cael mandad i sicrhau’r effaith orau posib o’r cyfalaf sydd o dan ei reolaeth, gan sicrhau nad yw’n cael ei ddefnyddio’n llwyr. Ni fydd yn sicrhau’r elw mwyaf posib – bydd unrhyw elw naill ai’n cael ei ailgylchu i fwy o gyllid i fusnesau bach a chanolig neu’n cael ei ddychwelyd i’r trysorlys.

Mae’r British Business Bank wedi gwneud cynnydd sylweddol eisoes:

  • Mae ein cynlluniau cyllido wedi arwain eisoes at gynnydd o 82 y cant yng nghyfanswm y cyllido (gan gynnwys y sector preifat) i fusnesau drwy ddatrysiadau’r Business Bank (Q2/Q3 2013 o gymharu â Q2/Q3 2012).

  • Elwodd 10,000 o fusnesau llai o ddatrysiad y Business Bank yn ystod y flwyddyn hyd at fis Hydref 2013.

  • Drwy fynd i’r afael â chyflenwi cyllid a thirlun cystadleuol y farchnad cyllid busnes, dylai’r British Business Bank helpu i ryddhau hyd at £10 biliwn pellach o gyllid ychwanegol ar gyfer busnesau llai.

  • Bydd gweithgarwch y Business Bank yn cynnwys cefnogi banciau her, cystadleuwyr newydd a darparwyr cyllid eraill.

Cyhoeddwyd ar 2 December 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 December 2013 + show all updates
  1. Adding Welsh translation

  2. First published.