Cyllideb 2026: Cyfle i anadlu i deuluoedd a busnesau yng Nghymru
Bydd cyfle i anadlu i deuluoedd a busnesau yng Nghymru o ganlyniad i’r camau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2026.
The Budget 20206
- Gostyngwyd costau ynni drwy ddileu tariffau olew gwresogi cartrefi ac wrth ymestyn y cyfnod 0% TAW ar drydan i gartrefi.
- Cefnogir y twf drwy fuddsoddiad newydd yng ngorsaf Parcffordd Caerdydd, gogledd Cymru a Phort Talbot.
- Bydd gan Lywodraeth Cymru £450 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd cyfle i anadlu i deuluoedd a busnesau yng Nghymru o ganlyniad i’r gweithredoedd a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2026.
Mewn cyfnod o ansicrwydd byd-eang, costau ynni cynyddol a phwysau ar gyllid aelwydydd, mae’r Canghellor John Healey wedi gweithredu mewn perthynas â chostau byw, prisiau tanwydd a swyddi lleol - ochr yn ochr â’r cyllid parhaus i Lywodraeth Cymru ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Yn y Gyllideb, cyhoeddodd John Healey:
-
Costau ynni: Bydd dileu’r tariff o 4% ar Gerosîn yn cefnogi’r 105,000 o aelwydydd yng Nghymru sy’n dibynnu ar olew gwresogi i wresogi eu cartrefi. Bydd llywodraeth y DU yn ymestyn y cyfnod 0% TAW ar filiau trydan cartrefi am dri mis, hyd at 30 Mehefin 2027. Bydd Cynllun Rhyddhad Dyledion yn dileu dyledion mewn cyfnod o argyfwng i aelwydydd sy’n gymwys.
-
Tanwydd: Ymestyn y toriad o 5c i’r dreth tanwydd am chwe mis arall tan 30 Mehefin 2027. Mae’r toriad o 3.7c yn y dreth diesel coch yn parhau, ac mae hyn yn bwysig i ffermwyr, cwmnïau cludo gwledig a defnyddwyr eraill sy’n gwneud defnydd mawr ar danwydd ledled Cymru. Cyhoeddodd hefyd gynnydd parhaol yn y cyfraddau costau teithio hael i gefnogi’r rheini sy’n gyrru yn eu gwaith.
-
Prisiau bwyd: Diddymwyd tariffau ar dros 100 o gynhyrchion bwyd, gan gynnwys siocled a sudd ffrwythau. Ynghyd ag atal tariffau dros dro a gyflwynwyd yn gynharach eleni, bydd hyn yn arbed hyd at £21 y flwyddyn i aelwydydd.
-
Pensiynau: Erbyn diwedd y Senedd hon, bydd tua 64,000 o bensiynwyr ag incymau isel yng Nghymru yn talu llai o dreth neu ddim yn talu treth o gwbl ar eu hincwm, o ganlyniad i leihau’r baich gweinyddol anghymesur o dalu symiau bach o dreth
-
Cyflogau: Cynyddu’r Cyflog Byw Cenedlaethol o 3.9% i £13.21 yr awr a chodi’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o 3.9% i £11.27 yr awr i bobl ifanc 18 i 20 oed a 3.9% i £8.31 yr awr i bobl ifanc 16 i 17 oed a phrentisiaid cymwys. Helpwyd 170,000 o bobl yng Nghymru gan y cynnydd diwethaf yn yr isafswm cyflog.
Cefnogi twf yng Nghymru
- Bydd £30 miliwn yn ariannu cam nesaf gorsaf drenau Parcffordd Caerdydd, gan sbarduno twf ar hyd coridor yr M4
- £2.5 miliwn i ehangu parc gwyddoniaeth M-SParc ar Ynys Môn, yn amodol ar achos busnes, gan ddarparu gofod a chymorth ychwanegol i fusnesau bach a chanolig eu maint.
- £11 miliwn o gyllid newydd i ddisodli Pont Aberafan Port Talbot - rhan o adfywiad y dref - yn amodol ar achos busnes.
- Ymestyn cyfnodau gohirio tollau ar gyfer 350 o nwyddau i helpu busnesau yn y sectorau cemegion, plastigau, hydrogen, moduron a bwyd a diod.
- Mae’r Gyllideb yn cryfhau diogelwch gwladol Prydain drwy roi cyllid llawn i’r Cynllun Buddsoddi mewn Amddiffyn gwerth £15 biliwn, gan gynnwys £4.7 biliwn nad oedd wedi’i ariannu o’r blaen. Mae gwariant ar amddiffyn yn cefnogi 7,800 o swyddi yng Nghymru, gan gynnwys 4,900 o swyddi diwydiannol, cynnydd o 26% ers 2025.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Kinnock:
Rydym ni’n gweithredu drwy roi cyfle i anadlu i aelwydydd yng Nghymru y mae gwir ei angen arnynt, drwy leihau cost bwyd ac ynni a rhoi mwy o arian ym mhocedi pensiynwyr a gweithwyr ar incwm is.
Ar ôl sicrhau cynnydd o £6.5 biliwn yn flaenorol i gynyddu cyllideb Cymru i’r lefelau uchaf erioed, rydym nawr yn darparu £450 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru i ariannu gwasanaethau cyhoeddus fel y GIG. Ac yn y cyfnod hwn o ansicrwydd, rwyf hefyd yn hynod falch o’n buddsoddiad newydd mewn amddiffyn a fydd yn sail i’n diogelwch ar y cyd ac yn cefnogi miloedd o swyddi yng Nghymru.
Mae llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddiad unwaith mewn cenhedlaeth ledled Cymru - o ynni niwclear newydd, i amddiffyn a’r rheilffyrdd - a bydd Cyllideb heddiw yn ein helpu i wireddu’r ffigurau hynny.
Cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus
Mae Cymru’n cael arian drwy’r grant bloc ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r arian hwn yn cael ei gasglu gan drethdalwyr ledled y DU, gan gynnwys pobl yng Nghymru, a gall Llywodraeth Cymru wedyn ei wario ar wasanaethau datganoledig fel iechyd, addysg a thai.
Mae’r Gyllideb hon yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru o leiaf 20% yn fwy o gyllid y person na’r gwariant cyfatebol yng ngweddill y DU. Am bob £1 o wariant cyfatebol Llywodraeth y DU yng ngweddill y DU, mae gan Lywodraeth Cymru o leiaf £1.20 i’w wario fesul person yng Nghymru. Mae’r swm uwch yn adlewyrchu bod darparu gwasanaethau ledled Cymru wir yn costio mwy, ac yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael mwy o arian na’r hyn y mae arbenigwyr yn dweud sydd ei angen ar Gymru, gan ystyried ffactorau fel daearyddiaeth.
Bydd gan Lywodraeth Cymru £450 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ar ben yr £1 biliwn ychwanegol o Gyllideb 2025 a Rhagolwg y Gwanwyn 2026, sy’n golygu bod Cymru’n parhau i gael cyllid sy’n llawer uwch na lefel yr anghenion a aseswyd ar ei chyfer.