Datganiad i'r wasg

Cyllideb 2015: Diogelu Dyfodol Cymru

Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru: “Mae ein cynllun economaidd hirdymor yn gweithio i Gymru.”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (18 Mawrth), croesawodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru, Gyllideb i ddiogelu adferiad economaidd Cymru, sy’n cefnogi busnesau, ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl sy’n gweithio’n galed ledled y wlad.

Dywedodd Mr Crabb fod y Gyllideb yn dangos bod Llywodraeth y DU yn gwobrwyo gwaith caled a bod ei chynllun economaidd hirdymor yn gweithio i Gymru.

Dywedodd Stephen Crabb:

Mae hon yn Gyllideb a fydd yn helpu i ddiogelu dyfodol Cymru. Mae’n Gyllideb a fydd yn rhoi seiliau cadarn i adferiad economaidd Cymru, sy’n cefnogi busnesau yng Nghymru, ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl sy’n gweithio’n galed ledled ein gwlad. Daw hyn ar ddiwrnod lle gwelwyd gostyngiad mewn diweithdra ac mae mwy o bobl yng Nghymru yn elwa o sicrwydd swydd ystyrlon, cyflog rheolaidd a gwell safon byw.

Mae’n Gyllideb ar gyfer busnesau yng Nghymru. Bydd y penderfyniad i leihau’r tollau ar Bont Hafren yn rhoi hwb sylweddol i’r miloedd o bobl sy’n croesi’r bont yn ddyddiol. Yn naturiol, bydd hyn yn helpu’r bobl hynny sy’n teithio i’r gwaith dros y bont, ond bydd hefyd yn helpu’r 1.7 miliwn o ddynion a menywod busnes sy’n dibynnu ar groesi’r bont mewn faniau bach i gynnal eu busnesau bob blwyddyn.

Drwy ddechrau ar drafodaethau am Gynllun Dinesig i Gaerdydd, rydym yn rhoi hwb i botensial ein prifddinas i greu swyddi, hybu twf a denu buddsoddiad.

Drwy leihau’r dreth ar gwrw a gwirodydd, gall busnesau eiconig o Gymru fel Wisgi Penderyn, yn ogystal â bragdai llai fel Tiny Rebel, dyfu eu busnesau ac allforio cynnyrch o Gymru i bedwar ban byd.

Gallai’r ymrwymiad pellach mae’r Canghellor wedi’i wneud i brosiect Morlin Llanw Abertawe olygu newid mawr i economi Cymru ac economi’r DU. Mae gennym gyfle unwaith mewn oes i greu diwydiant ynni adnewyddadwy o’r radd flaenaf yma yng Nghymru, ac rydw i wrth fy modd bod y Canghellor wedi ategu ei ymrwymiad i’r prosiect pwysig hwn.

Ond nid Cyllideb i fusnesau yng Nghymru yn unig yw hi – rydym heddiw wedi cyhoeddi camau pendant i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

Drwy gynyddu’r lwfans treth personol, rydym yn gwneud yn siŵr y bydd miloedd yn fwy o bobl ledled Cymru yn talu llai o dreth neu ddim treth o gwbl. Bydd yr ISA Cymorth i Brynu newydd yn helpu dros 45,000 o brynwyr tro cyntaf i gamu ar yr ysgol dai yng Nghymru, a bydd bron pawb yn elwa o fesurau cynilo di-dreth newydd.

Mae hefyd yn gyllideb ar gyfer y rheini sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru wledig. Bydd newidiadau treth i ffermwyr yn rhoi hwb i’r economi wledig a bydd rhewi’r dreth ar danwydd yn lleihau costau i’r 1.5 miliwn o bobl sy’n berchen ar geir yng Nghymru. Mae’r gefnogaeth a gyhoeddwyd ar gyfer ambiwlansys awyr yn newyddion gwych i’r rheini mewn ardaloedd anghysbell sy’n dibynnu ar y gwasanaeth hanfodol hwn.

Mae’r Gyllideb hon yn dangos bod gennym Brif Weinidog sy’n deall Cymru, Canghellor sy’n gwrando ar fusnesau yng Nghymru, a thîm yn Swyddfa Cymru sy’n cyflawni dros Gymru.

Nid yw’r gwaith ar ben, ond mae ein cynllun economaidd hirdymor yn gweithio ac mae’n hanfodol ein bod yn glynu wrtho fel bod pobl ym mhob rhan o Gymru wir yn gallu teimlo manteision yr adferiad economaidd.

Mesurau’r Gyllideb i Gymru:

  • Codi’r lwfans personol i £10,800 yn 2016-17 ac i £11,000 yn 2017-18. Ers 2010, bydd Llywodraeth y DU wedi eithrio 167,000 o bobl yng Nghymru rhag talu treth incwm o gwbl. Erbyn 2017-18, bydd dros 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru wedi profi cynnydd mewn termau real o £561 ar gyfartaledd.

  • O fis Ebrill 2016, bydd 1.2 miliwn o drethdalwyr ar y gyfradd safonol yng Nghymru yn elwa o lwfans cynilo personol newydd o £1,000.

  • Gan roi hwb i fodurwyr, bydd dros 1.5 miliwn o bobl sy’n berchen ar geir yng Nghymru yn elwa o’r bwriad i beidio â chynyddu’r dreth ar danwydd ym mis Medi 2015.

  • Pan ddaw Pont Hafren dan berchnogaeth gyhoeddus ar ôl 2018, ni chodir Treth ar Werth ar y tollau i groesi’r bont. Bydd lorïau bach a bysus bach yn talu £5.40 – yr un faint â cheir a charafannau – yn hytrach na £13.10. Bydd cerbydau nwyddau trwm a bysus yn talu £16.30 – yn hytrach na £19.60.

  • O Hydref 2015, bydd 539,000 o bobl sydd ag ISA yng Nghymru yn gallu tynnu arian allan a’i ail-fuddsoddi mewn ISA arian parod heb fod hynny’n cyfrannu at eu huchafswm ariannol ar gyfer y flwyddyn.

  • Bydd dros 45,000 o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn elwa o ISA Cymorth i Brynu newydd. Ar gyfer pob £200 a gaiff ei gynilo er mwyn rhoi blaendal ar gartref, bydd Llywodraeth y DU yn cyfrannu £50, hyd at gap o £3,000.

  • Gallai tua 3,050 o ffermwyr yng Nghymru elwa o estyniad i’r cyfnod ar gyfer cyfrifo eu helw at ddibenion treth incwm, o 2 flynedd i 5 mlynedd.

  • Bydd y Cynllun Talebau Cysylltiad Band Eang, sy’n galluogi busnesau bach ac elusennau i wneud cais am grantiau o hyd at £3,000 i dalu costau gosod band eang cyflymach a gwell, yn cael ei ymestyn 12 mis. Hyd yma, mae 385 o dalebau wedi’u rhoi yng Nghaerdydd a 64 yng Nghasnewydd. Bydd y cynllun yn dod i rym yn Abertawe erbyn 1 Ebrill.

  • Caiff y dreth ar wirodydd ei thorri 2% gan gefnogi gweithgynhyrchwyr o Gymru, megis Distyllfa Penderyn yng Nghymru.

  • Bydd Llywodraeth y DU yn dechrau ar gam cyntaf trafodaethau ar Gontract Gwahaniaeth ar gyfer Morlin Bae Abertawe. Mae posibilrwydd y bydd y cynllun hwn yn creu miloedd o swyddi ac yn tywallt miliynau o bunnoedd i economi Cymru drwy gyfleoedd cadwyn gyflenwi, adfywio a thwristiaeth.

  • Caiff trafodaethau cychwynnol eu cynnal gyda Chaerdydd a phartneriaid lleol ar gyfer sefydlu Cynllun Dinesig i Gaerdydd er mwyn helpu i roi hwb i economi Cymru. O dan y cynllun, caiff dinasoedd ryddid a phwerau penodol i helpu i roi hwb i dwf economaidd, i greu swyddi neu i fuddsoddi mewn prosiectau lleol.

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £18 miliwn o gyllid ychwanegol yn 2015-16. Mae hyn yn golygu y bydd gan Lywodraeth Cymru dros £1.3 biliwn o rym gwario ychwanegol ers adolygiad gwariant 2010.

  • Bydd diwydiannau sy’n defnyddio llawer o ynni yng Nghymru yn elwa o gyflwyno’n gynnar gynllun iawndal gan Lywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gystadleuol mewn marchnadoedd rhyngwladol. Caiff costau uniongyrchol eu digolledu ar gyfer y Tariff Cyflenwi Trydan ar raddfa fach ar gyfer diwydiannau ynni-ddwys eu cyflwyno’n gynharach na’r disgwyl ym mis Hydref eleni.

  • Bydd y Gronfa Buddsoddi mewn Sgiliau yn cael £4 miliwn i gefnogi datblygu sgiliau a hyfforddiant o’r radd flaenaf yn y sectorau teledu, animeiddio, gemau fideo ac effeithiau gweledol. Ar hyn o bryd mae un cwmni ar ddeg yng Nghymru yn manteisio ar y Gronfa Buddsoddi mewn Sgiliau.

  • Bydd y diwydiant ffilm yng Nghymru yn elwa ar godi’r ostyngiad yn y dreth i 25%. Ar hyn o bryd, y gyfradd yw 25% ar gyfer yr £20 miliwn gyntaf ac 20% wedyn.

  • Bydd datblygwyr gemau fideo yng Nghymru yn elwa o Gronfa Prototeip Gemau Fideo Newydd ledled y DU gwerth £4 miliwn er mwyn galluogi busnesau gemau newydd i ddatblygu eu syniadau i brototeipiau gweithredol.

Cyhoeddwyd ar 18 March 2015