Datganiad i'r wasg

Hwb band eang i 1,126 o fusnesau Cymreig

Annog mwy o fusnesau i ymgeisio tra pery’r grant

Superfast broadband

Mae dros 1,000 o fusnesau bach a chanolig (BBaCH) yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe yn awr wedi elwa ar gynllun taleb Band Eang Llywodraeth y DU, yn ôl y ffigurau diweddaraf a welwyd heddiw.

Mae’r grant, ar ffurf taleb, yn caniatáu i fusnesau ymgeisio am nawdd o hyd at £3,000 yr un i gwrdd â chostau gosod band eang cyflymach a mwy effeithiol. Mae’r cynllun yn rhan o fwriad y llywodraeth i weddnewid band eang ar hyd gwledydd Prydain, gan helpu dinasoedd i greu a denu swyddi a buddsoddiadau newydd, a gwneud y DU y lle gorau yn y byd i gynnal busnes.

Hyd yn hyn, mae 1,126 o fusnesau yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe wedi derbyn grantiau. Ar hyd a lled y DU, mae dros 25,000 o fusnesau, yn y 50 o ddinasoedd sy’n rhan o’r cynllun, wedi elwa, gyda miloedd mwy yn y broses o ymgeisio.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae’r ffigurau hyn yn garreg filltir bellach yn ein nod o wella cyswllt band eang yng Nghymru. Mae cael llwybr cyflymach a mwy dibynadwy at gyswllt band eang yn allweddol o ran sbarduno twf a hybu’r economi lleol.

Bu’r cynllun taleb band eang yn hynod lwyddiannus o ran galluogi busnesau yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe i ganolbwyntio ar yr hyn a wnânt orau - arloesi, braenaru tir ac - yn anad dim - creu swyddi sy’n rhoi’r sicrwydd economaidd hirdymor sydd ei angen arnom.

Dywed y Gweinidog dros Economi Digidol, Ed Vaizey:

Mae cynllun taleb cyswllt band eang y Llywodraeth yn profi’n hynod o boblogaidd, ac rydym yn awr yn cyhoeddi oddeutu 1000 o dalebau bob wythnos.

Mae angen i fusnesau gael eu harfogi’n briodol ar gyfer holl sialensiau’r byd digidol yr ydym yn byw o’i fewn, ac rwyf yn annog pob busnes cymwys i ymgeisio cyn gynted ag y gallant, i wneud yn siŵr nad ydynt yn methu’r cynnig euraid hwn.

Rhanbarth Nifer y talebau a gynhyrchwyd
Yr Alban 1043
Cymru 1126
Gogledd Iwerddon 1356
Gogledd Orllewin Lloegr 4188
Gogledd Ddwyrain Lloegr 653
Swydd Efrog a Humber 3781
Canoldir Lloegr 2660
Llundain 8857
Dwyrain Lloegr 601
De Ddwyrain Lloegr 1047
De Orllewin Lloegr 845

Mae’r buddiannau y mae busnesau bach yn eu mwynhau o ganlyniad i gyswllt cyflymach yn cynnwys:

  • Meithrin a chael mynediad at farchnadoedd newydd drwy gyfrwng cyfathrebu mwy effeithiol â chwsmeriaid a chyflenwyr
  • Mwy o ddiogelwch gan fod data’n cael ei storio’n fwy cyflym
  • Mwy o gynhyrchedd a gwella gwasanaeth cwsmeriaid drwy lanlwytho a lawrlwytho’n gyflymach

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun talebau cyswllt ar gael yma

Nodiadau i Olygyddion

  • Rheolir y Cynllun gan Broadband Delivery UK (BDUK), rhan o’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae BDUK hefyd yn rheoli’r gwaith o gyflwyno band eang cyflym iawn sydd ar waith drwy’r gwledydd ar hyn o bryd, a bydd yn cyrraedd 95 y cant o’r Deyrnas Unedig erbyn 2017.

  • Mae’r tabl isod yn dangos faint o dalebau a gyhoeddwyd ym mhob dinas (hyd at Fehefin 2015). Dylid nodi bod dinasoedd wedi ymuno â’r cynllun ar wahanol adegau, ac fe adlewyrchir hynny yn nifer y talebau a gyhoeddwyd. Ymunodd y dinasoedd sydd â seren wrth eu henw â’r cynllun yn Ebrill eleni.

Dinasoedd Nifer y talebau
Aberdeen 168
Dundee* 5
Caeredin 686
Glasgow* 105
Inverness* 7
Perth 57
Stirling* 15
Caerdydd 961
Casnewydd 115
Abertawe* 50
Belffast 1,119
Derry/Londonderry 237
Manceinion 2,924
Salford 556
Lerpwl* 657
Preston* 51
Middlesbrough* 26
Newcastle 614
Sunderland* 13
Hull* 266
Leeds-Bradford 3,085
Sheffield* 188
Caerefrog 242
Derby 211
Caerlŷr* 64
Nottingham* 55
Birmingham 1,621
Coventry 641
Stoke on Trent* 40
Wolverhampton* 28
Caergrawnt 451
Ipswich* 23
Milton Keynes* 78
Norwich* 17
Peterborough* 32
Llundain 8,857
Brighton a Hove 412
Bournemouth* 80
Chelmsford* 14
Rhydychen 233
Portsmouth 254
Reading* 20
Southend on Sea* 11
Southampton* 23
Bryste 742
Caerwysg* 37
Caerloyw* 28
Plymouth* 23
Swindon* 15
Cyhoeddwyd ar 24 June 2015