Datganiad i'r wasg

Dymchwel rhwystrau uchelgeisiau allforio byd-eang Cymru

Alun Cairns yn cynnal cyfarfod Strategaeth Allforio yng Nghaerdydd

Exporting is GREAT

  • Llywodraeth y DU yn ceisio safbwyntiau busnesau Cymru ar sut i roi hwb i botensial allforio
  • Allforwyr byd-eang o Gymru Hiut Denim ac Aerfin i helpu i lunio adolygiad strategaeth allforio Llywodraeth y DU

Bydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn herio mentrau Cymreig i fod yn fwy uchelgeisiol o ran dyfodol byd-eang, pan fydd yn cynnull arweinwyr busnes o gylch y bwrdd i drafod y blaenoriaethau, y cyfleoedd a’r heriau y maent yn eu hwynebu ar eu teithiau allforio ledled y byd.

Mae’n rhan o gyfres o gyfleoedd ymgysylltu a gynhelir gan Lywodraeth y DU fel rhan o’i hadolygiad o’r Strategaeth Allforio.

Mae’r Llywodraeth yn gweithio’n agos â diwydiant i ddeall yr heriau a wynebir gan gwmnïau’r DU, cynyddu ymwybyddiaeth o gefnogaeth allforio a chyllid sydd eisoes ar gael, ac archwilio sut y gellir gwella hyn.

Bydd Hiut, gwneuthurwr denim o Aberteifi – sy’n allforio 25% o’u jîns ar draws y byd, a’r allforiwr sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, AerFin yng Nghaerffili, ymhlith y rhai hynny a fydd yn ymuno â’r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyfarfod ford gron cyntaf yng Nghaerdydd heddiw (15 Mawrth), gydag un arall wedi’i drefnu ar gyfer gogledd Cymru yn ddiweddarach y mis hwn.

Cododd allforion o Gymru o 12.3% i £16.4 biliwn yn y ffigurau blwyddyn ar ôl blwyddyn diweddaraf, a chymerodd 4,000 o gwmnïau o Gymru eu camau cyntaf ar eu taith allforio yn 2015.

Er hynny, mae yna gyfle mawr i fwy o fusnesau gyrraedd cwsmeriaid newydd trwy fodloni’r galw am nwyddau a gwasanaethau’r DU dramor.

O’r herwydd, mae Llywodraeth y DU yn galw ar fusnesau Cymru i gyfrannu at adolygiad o’r Strategaeth Allforio a rhannu eu barn ar sut y gall Llywodraeth y DU annog a chefnogi busnesau Prydain i fanteisio ar y potensial enfawr i dyfu.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae’r cynnydd mawr mewn allforion Cymru yn dangos bod ein cwmnïau cartref yn llwyddo ar lwyfan y byd ac mae defnyddwyr eisiau’r nwyddau a’r gwasanaethau o ansawdd uchel sydd gennym i’w cynnig.

Bydd yr adolygiad o’r Strategaeth Allforio yn tynnu ar arbenigedd o bob rhan o’r llywodraeth a’r sector preifat, gan ein helpu i ddeall y ffordd orau i gefnogi cwmnïau Prydain i fanteisio ar gyfleoedd mewn marchnadoedd tramor.

Drwy gydol y broses hon, rwyf am weld mewnbwn sylweddol gan fusnesau yng Nghymru, yn rhai mawr a bach, i sicrhau ein bod yn datblygu strategaeth sy’n diwallu eu hanghenion.

Daw’r cyfarfod yn yr wythnos cyn i Alun Cairns gychwyn ar daith fasnach i Ŵyl Arloesi Fawr Llywodraeth y DU yn Hong Kong (21-24 Mawrth) - digwyddiad a fydd yn arddangos pŵer arloesedd a thechnoleg y DU i’r byd.

Bydd y digwyddiad pedwar diwrnod yn dod â rhai o gwmnïau mwyaf arloesol y DU ac Asia ynghyd, i rannu camau arloesol a fydd yn hybu dyfodol masnach rydd ac i fusnesau adeiladu partneriaethau gydol oes.

Bydd Llywodraeth y DU yn adrodd ar y strategaeth allforio yn ystod y gwanwyn eleni.

Y 5 brif ffordd mae Llywodraeth y DU yn cefnogi busnesau i allforio:

  1. great.gov.uk – llwyfan allforio sy’n rhestru miloedd o gyfleoedd allforio gwerth miliynau o bunnoedd. Mae hefyd yn rhoi cwmnïau mewn cysylltiad â phrynwyr byd-eang drwy glic llygoden.
  2. Cyllid Allforio’r DU - mae asiantaeth credyd allforio’r DU yn darparu cymorth ariannol fel benthyciadau cyfalaf, i sicrhau na fydd unrhyw fargen allforio hyfyw yn methu oherwydd diffyg cyllid ac yswiriant. Yn ddiweddar, mae UKEF wedi ymuno â 5 o fanciau mwyaf y DU, er mwyn helpu busnesau bach i gael mynediad ariannol hawdd i gefnogaeth ariannol a gefnogir gan y llywodraeth.
  3. Cefnogaeth wyneb yn wyneb i allforwyr yn Lloegr - a gyflwynir trwy rwydwaith o tua 250 o ymgynghorwyr masnach rhyngwladol (ITA). Rheolir yr ymgynghorwyr hyn gan 9 o bartneriaid darparu sy’n gweithredu ym mhob un o’r 9 rhanbarth yn Lloegr.
  4. Sioeau masnach - mae DIT yn cefnogi sioeau masnach ledled y byd i arddangos y gorau o gwmnïau’r DU, o sectorau sy’n cynnwys gwyddorau bywyd, moduron a bwyd a diod.
  5. Bwrdd Masnach - gyda chynrychiolwyr o’r gymuned fusnes i fod yn ‘llygaid a chlustiau’ busnesau modern. Mae’n cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn, drwy ei gylchdroi o amgylch y DU, gan sicrhau bod pob rhan o’r undeb yn cael cyfle i godi’r materion sydd bwysicaf iddyn nhw.
Cyhoeddwyd ar 15 March 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 March 2018 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.