Stori newyddion

Hwb i bobl ifanc di-waith gan y Contract Ieuenctid yng Nghymru

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn annog busnesau ledled Cymru i wneud eu rhan o ran mynd i’r afael a diweithdra ymysg pobl ifanc…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn annog busnesau ledled Cymru i wneud eu rhan o ran mynd i’r afael a diweithdra ymysg pobl ifanc drwy fanteisio ar y ffaith bod y cynllun Contract Ieuenctid wedi’i ymestyn.

Mae cynllun Llywodraeth y DU, a lansiwyd ym mis Ebrill eleni, yn darparu cyfleoedd am leoliadau profiad gwaith gwirfoddol a phrentisiaethau newydd i bobl ifanc 18-24 oed.

O ddydd Llun, 17 Rhagfyr, bydd cyflogwyr hyd a lled Prydain Fawr yn cael cynnig cymhelliant cyflog o hyd at £2,275 pan fyddant yn derbyn person ifanc sydd wedi bod yn derbyn budd-daliadau am o leiaf chwe mis. Mae’n bosibl defnyddio’r cymhelliant i dalu am gostau cyfraniadau yswiriant gwladol neu i dalu am hyfforddiant neu oruchwyliaeth ychwanegol a all fod eu hangen.

Tan nawr, dim ond i bobl ifanc ar y Rhaglen Waith neu drwy Ganolfan Byd Gwaith mewn 20 ardal benodol ledled y DU, gan gynnwys Blaenau Gwent, Caerffili a Merthyr Tudful yng Nghymru, oedd y cymhelliant cyflog ar gael.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, sy’n ymweld a ffatri gosod adenydd Airbus ym Mrychdwn, Gogledd Cymru gyda’r Prif Weinidog heddiw, yn annog busnesau Cymru i fanteisio ar y cyfle i helpu i roi cychwyn da i bobl ifanc yn y farchnad lafur.

Dywedodd Mr Jones:

“Er bod y ffigurau diweddar wedi dangos bod lefelau diweithdra ymysg pobl ifanc yn gostwng yn raddol yng Nghymru, mae nifer y bobl ifanc sy’n ddi-waith yn dal i fod yn annerbyniol o uchel.

“Mae gan fusnesau lleol hyd a lled y wlad ran bwysig i’w chwarae o ran mynd i’r afael a diweithdra ymysg pobl ifanc, ac rwyf am wneud yn siŵr eu bod yn manteisio ar bob cyfle sydd ar gael iddyn nhw.

“Mae’r cynllun Contract Ieuenctid yn hwb i’w groesawu ar gyfer pobl ifanc a chyflogwyr yng Nghymru. Mae’n cynnig lleoliadau profiad gwaith ychwanegol a chymhelliant cyflog sy’n rhoi’r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc ddod o hyd i waith. Mae hefyd yn lleihau’r costau i’r busnesau eu cyflogi.

“Gan fod y Contract Ieuenctid wedi’i ymestyn yng Nghymru, rwy’n annog busnesau mawr neu fach i ymrwymo i’n pobl ifanc a rhoi cyfle iddyn nhw ddangos eu sgiliau i ddarpar gyflogwyr.”

NODIADAU I OLYGYDDION 

• Lansiwyd y Contract Ieuenctid ym mis Ebrill 2012 gan y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg, ac mae’n cefnogi busnesau i gael pobl ifanc i ennill cyflog neu ddysgu. 

• Bydd y cynllun £1biliwn yn darparu bron i hanner miliwn o gyfleoedd newydd i bobl ifanc 18-24 oed, gan gynnwys prentisiaethau a lleoliadau profiad gwaith gwirfoddol.

Cyhoeddwyd ar 13 December 2012