Firws y Tafod Glas: o hysbysiad i ganlyniadau
Yn egluro beth y gall ceidwaid da byw ei ddisgwyl ar ôl hysbysu am achosion a amheuir o'r Tafod Glas, o asesu a samplu i ganlyniadau profion.
Mae nifer yr achosion o’r Tafod Glas wedi bod yn cynyddu’n sylweddol yn ddiweddar, sy’n golygu ein bod yn cael ein hysbysu am fwy o achosion a bod mwy o samplau yn cael eu hanfon atom i’w profi. Er mwyn helpu ffermwyr a milfeddygon yn y broses hon, mae ein Pennaeth Milfeddygol ar gyfer Cyflawni Achosion, Sascha Van Helvoort, yn ein tywys drwy’r camau perthnasol o’r adeg y byddwch yn rhoi gwybod am achos o glefyd hysbysadwy a amheuir i gam cadarnhau a yw clefyd yn bresennol yn eich da byw a sut y gallwch helpu i wneud y broses hon mor effeithlon â phosibl.
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi roi gwybod am achos o’r Tafod Glas
Os ydych wedi rhoi gwybod am achos o’r tafod glas a amheuir a’ch bod yn aros am ganlyniadau profion, efallai eich bod yn gofyn i’ch hun beth sy’n digwydd nesaf.
O’r adeg yr amheuir clefyd hyd at yr adeg y cyhoeddir canlyniad, cymerir sawl cam pwysig er mwyn sicrhau bod canlyniadau profion yn cael eu cofnodi a’u cyfleu’n gywir. Gall deall y broses hon helpu i osgoi oedi a sicrhau bod samplau yn cael eu prosesu cyn gynted â phosibl.
Mae’r Tafod Glas yn glefyd hysbysadwy sy’n golygu bod gofyniad cyfreithiol i roi gwybod i APHA am unrhyw achosion o’r clefyd a amheuir. Mae hyn yn rhan bwysig o weithgarwch gwyliadwriaeth ar gyfer clefydau a’u rheoli. Mae cynnal profion yn ein galluogi i gadarnhau ai’r tafod glas yw’r clefyd mewn gwirionedd , nodi’r straen dan sylw a diystyru unrhyw glefydau eraill a all fod ag arwyddion clinigol tebyg, fel Clwy’r traed a’r genau.
Cadarnhau clefyd – o roi gwybod am glefyd i’r canlyniad
Cam 1: Rhoi gwybod am glefyd ac asesiad milfeddygol
Mae APHA yn cael nifer mawr o adroddiadau am achosion o’r tafod glas a amheuir gan geidwaid da byw a milfeddygon ledled Prydain Fawr bob dydd. Yn ystod pob galwad mewn ymateb i adroddiad , bydd un o filfeddygon APHA yn gofyn nifer o gwestiynau er mwyn deall a yw’r arwyddion clinigol y rhoddir gwybod amdanynt yn awgrymu achos o’r tafod glas neu glefyd hysbysadwy arall, er enghraifft Clwy’r Traed a’r Genau. Mae’r asesiad cychwynnol hwn yn helpu i sicrhau bod yr ymchwiliadau priodol yn cael eu cynnal, yn cefnogi diagnosis cyflym ac yn helpu i greu darlun gwell o weithgarwch clefydau ledled Prydain Fawr.
Cyn cysylltu ag APHA, gwnewch yn siŵr bod rhif eich daliad, manylion y ceidwad, manylion adnabod yr anifeiliaid, nifer y stoc yn fras, manylion yr anifeiliaid yr effeithir arnynt, arwyddion clinigol a welwyd a hanes brechu diweddar rhag y Tafod Glas ar gael.
Cam 2: Samplu ar gyfer clefyd
Os bydd yr asesiad yn awgrymu bod yr achos y rhoddwyd gwybod amdano yn debygol o fod yn achos o’r tafod glas, bydd y cam nesaf yn dibynnu ar ble mae eich daliad wedi’i leoli gan fod gofynion samplu gwahanol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Noder: ni ddylid cymryd samplau o fewn saith diwrnod i frechu anifeiliaid rhag y Tafod Glas. Dylai ceidwaid a milfeddygon ystyried hyn wrth drefnu ymweliadau samplu.
Safleoedd yn Lloegr
Os ydych yn gymwys, gallwch drefnu i’ch milfeddyg preifat gasglu a chyflwyno samplau gwaed o hyd at dri anifail yr effeithir arnynt gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod a ddarparwyd gan APHA. APHA fydd yn talu ffioedd y labordy, ond bydd angen i chi dalu i’ch milfeddyg gymryd y samplau. Os bydd tair sampl wedi’u hawdurdodi, dylid cyflwyno’r holl samplau gyda’i gilydd. Os cyflwynir rhan o’r set o samplau awdurdodedig yn unig gall hynny arwain at oedi cyn cynnal profion a rhoi gwybod am ganlyniadau.
Os nad ydych yn gymwys i gael profion am ddim, gall eich milfeddyg eich hun ddal i gyflwyno samplau’n breifat i Sefydliad Pirbright ar eich traul eich hun.
Mae profi am y tafod glas yn parhau i fod yn wirfoddol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi roi gwybod am achosion a amheuir o hyd er mwyn cefnogi gweithgarwch gwyliadwriaeth ar gyfer clefydau a’u monitro.
Safleoedd yng Nghymru
Bydd APHA yn trefnu ymchwiliad swyddogol. Caiff y gwaith samplu a phrofion labordy ar gyfer achosion a amheuir eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu nad oes unrhyw gost i chi fel y ceidwad am yr ymchwiliad na’r profion sy’n gysylltiedig ag amheuaeth y rhoddir gwybod amdani.
Mae’n bwysig gofyn i’ch milfeddyg drin unrhyw anifeiliaid y mae angen gofal arnynt, p’un a gymerir samplau ai peidio. Dylech hefyd drafod brechu rhag y tafod glas gyda’ch milfeddyg er mwyn helpu i ddiogelu eich da byw, os nad ydych eisoes wedi brechu eich diadell/buches.
Os nad oes profion a ariennir gan y llywodraeth ar gael, gall milfeddygon preifat gyflwyno samplau i Sefydliad Pirbright o hyd ar eich traul eich hun.
Safleoedd yn yr Alban
Os amheuir achos o’r tafod glas ac er mwyn diystyru unrhyw glefyd hysbysadwy arall, bydd APHA yn cynnal ymchwiliad ar y safle ac yn cymryd samplau os oes angen, heb unrhyw gost i chi fel y ceidwad.
Cam 3: Cyflwyno i Labordy Cyfeirio Pirbright
Safleoedd yn Lloegr
Os byddwch yn penderfynu cymryd samplau i’w profi, bydd y rhain yn cael eu cymryd gan eich milfeddyg a ddylai nodi cyfeirnod ERZ APHA yn glir ar y tu allan i’r parsel a’u hanfon i Sefydliad Pirbright, sef labordy cyfeirio’r Tafod Glas. Gall gwaith papur anghyflawn a cham-labelu parseli arwain at oedi cyn cynnal profion gan y gallai fod angen gwybodaeth ychwanegol.
Safleoedd yng Nghymru
Bydd y milfeddyg sy’n cynnal yr ymchwiliad i’r clefyd yn cyflwyno’r samplau i Sefydliad Pirbright i’w profi, ynghyd â’r gwaith papur gofynnol.
Safleoedd yn yr Alban
Caiff samplau a gesglir fel rhan o’r ymchwiliad i’r clefyd eu pecynnu a’u hanfon i labordy cyfeirio’r Tafod Glas, Sefydliad Pirbright gan APHA.
Symud anifeiliaid i’r Alban – profion cyn symud
Os bydd angen cynnal prawf cyn symud am y Tafod Glas, dylid cyflwyno samplau cyn gynted â phosibl a nodi ‘Pre-movement samples’ yn glir ar y tu allan i’r parsel. Mae samplau wedi’u labelu’n gywir a gwaith papur yn helpu’r labordy i nodi a blaenoriaethu profion o fewn cyfnod profi saith diwrnod y drwydded ac, felly, dylech ganiatáu o leiaf dri diwrnod gwaith yn y labordy ar gyfer profion. Mae rhagor o arweiniad ar symud anifeiliaid ar gael drwy ddilyn y dolenni isod.
Cam 4: Profion labordy
Safleoedd yng Nghymru a Lloegr:
Unwaith y bydd y samplau yn y labordy, os bydd y pecyn wedi’i labelu’n glir a bod y gwaith papur yn gywir, bydd y labordy yn eu prosesu ac yn cynnal profion arnynt cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Os bydd canlyniadau’r profion yn negatif am y tafod glas, bydd Sefydliad Pirbright yn eich hysbysu’n uniongyrchol. Fodd bynnag, rhaid i APHA gael ei hysbysu am ganlyniadau positif clefyd hysbysadwy a chadarnhau’r canlyniadau hynny, sy’n golygu ei bod yn cymryd mwy o amser i ddychwelyd canlyniadau positif.
Gall yr amser prosesu cyfan (gan gynnwys amseroedd postio) gymryd hyd at bythefnos oherwydd y camau unigol a amlinellwyd uchod ond y nod yw rhoi’r canlyniadau cyn gynted â phosibl.
I gyflymu pethau, dylech bob amser labelu’r pecyn yn briodol a chwblhau’r ddogfennaeth yn gywir a pheidiwch â ffonio Pirbright i gael canlyniadau gan na all ryddhau canlyniadau i chi dros y ffôn na thrwy e-bost.
Mae’n werth nodi nad oes unrhyw gyfyngiadau’n cael eu gosod ar ffermydd yn rhoi gwybod am achosion o glefyd ar unrhyw gam o’r broses, gan gynnwys rhoi gwybod am achosion, amheuaeth, ymchwilio neu gadarnhau haint BTV-3 ar y fferm.
Safleoedd yn yr Alban:
Unwaith y byddant yn y labordy, rhoddir blaenoriaeth i samplau a gymerwyd oherwydd achos o’r tafod glas a amheuir er mwyn cadarnhau a yw’r clefyd yn cylchredeg. Anfonir canlyniadau i APHA. Caiff canlyniadau positif ar gyfer clefydau hysbysadwy eu cadarnhau gan y Prif Swyddog Milfeddygol yn yr Alban. Unwaith y byddant wedi’u cadarnhau, bydd APHA yn rhannu’r canlyniadau â chi ac yn trafod y camau nesaf. Gall hyn gymryd hyd at 2-3 diwrnod. Os bydd y samplau yn negatif, bydd APHA yn eich hysbysu am y canlyniadau.
Diogelu anifeiliaid drwy frechu
Mae’r Tafod Glas yn cael ei ledaenu gan wybed ac nid yn uniongyrchol o anifail i anifail ac, felly, y ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu anifeiliaid sy’n agored i’r clefyd yw drwy eu brechu. Mae tri brechlyn BTV-3 wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio ym Mhrydain Fawr ers y llynedd a gellir eu harchebu drwy’ch milfeddyg. Er bod cynnal profion yn ein helpu i ddeall ble mae’r clefyd yn bresennol a sut mae’n lledaenu, brechu yw’r unig fesur rheoli hirdymor ymarferol ar gyfer y tafod glas. Trafodwch strategaeth frechu gyda’ch milfeddyg, a all roi cyngor i chi ar y camau priodol ar gyfer eich sefyllfa unigol.
Mae galw mawr iawn ar hyn o bryd. Felly, mae’n bwysig bod ffermwyr a milfeddygon yn archebu brechlynnau nawr, er mwyn i wneuthurwyr brechlynnau allu sicrhau bod cyflenwadau ar gael. Mae rhagor o wybodaeth am frechiadau ar gael hefyd yn GOV.UK Yn agor yn Saesneg.
Helpwch ni i’ch helpu chi
Mae pob ffurflen wedi’i chwblhau’n gywir, sampl wedi’i labelu’n briodol ac adroddiad amserol yn ein helpu i greu darlun cliriach o’r ffordd y mae’r tafod glas yn lledaenu ledled Prydain Fawr ac yn ei gwneud yn bosibl i ganlyniadau profion gael eu cadarnhau cyn gynted â phosibl. Drwy gydweithio, rhoi gwybod am glefyd yn brydlon a thrafod brechu gyda’ch milfeddyg preifat, gallwn helpu i ddiogelu da byw a lleihau effaith y tafod glas.
Mae achosion o glefydau yn achosi straen i geidwaid da byw, milfeddygon a’u teuluoedd. Os byddwch yn ei chael hi’n anodd ymdopi, mae cymorth ar gael drwy sefydliadau fel y Rhwydwaith Cymunedol Ffermio (FCN), RABI ac elusennau cymorth gwledig eraill.
Mae’r sefyllfa o ran lledaeniad y tafod glas yn newid drwy’r amser ac rydym yn parhau i adolygu ein gweithgarwch profi a’n hymateb, ewch i www.gov.uk/bluetongue (Yn agor yn Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Rhagor o wybodaeth
- Bluetongue: latest situation (Yn agor yn Saesneg)
- Get bluetongue testing (Yn agor yn Saesneg)
- Non-vesicular disease diagnostic testing – The Pirbright Institute (Yn agor yn Saesneg)
- Bluetongue: moving animals within the restricted zone (Yn agor yn Saesneg)
- Apply to move animals out of bluetongue zones (Yn agor yn Saesneg)
- Bluetongue movement restrictions for animals – GOV.Scot (Yn agor yn Saesneg)
- Feirws y tafod glas: cyfyngiadau cyfredol