Datganiad i'r wasg

Fforwm Ymgynghorol y Gymdeithas Fawr: Ymgais Gweinidog Swyddfa Cymru i Sicrhau Gweithredu Cymdeithasol

Heddiw [16eg Ionawr 2012], fe wnaeth David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, agor cyfarfod cyntaf y fforwm sy’n gyfrifol am bwyso a mesur sut …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [16eg Ionawr 2012], fe wnaeth David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, agor cyfarfod cyntaf y fforwm sy’n gyfrifol am bwyso a mesur sut gall y Gymdeithas Fawr ddatblygu yng Nghymru.

Mae’n dilyn seminar a gynhaliwyd dan arweiniad Swyddfa Cymru yn YMCA Casnewydd fis Medi y llynedd - ‘Seminar y Gymdeithas Fawr’. Fe wnaeth y rhai a oedd yn bresennol fynegi diddordeb mewn ymuno a fforwm arbennig i ystyried y syniadau ymhellach. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp ym Marics Maindy, Caerdydd, i drafod syniadau newydd a dulliau ar gyfer sicrhau bod cymunedau’n ymgysylltu a phrosiectau, partneriaethau a mentrau cymdeithasol.   

Dywedodd Mr Jones: “Gan fod blwyddyn newydd yn arwydd o ddechrau newydd i nifer o bobl, mae’r cyfarfod hwn wedi bod yn arwydd o her newydd - i helpu mudiadau, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol mewn unrhyw ffordd. Rwyf am weld rhagor o gyfleoedd i fudiadau gysylltu a’i gilydd a rhannu gwybodaeth ac arbenigedd. Mae’r grŵp a wnaeth gyfarfod heddiw wedi ymrwymo i edrych ar ffyrdd newydd o helpu cymunedau i deimlo eu bod wedi’u grymuso, a’u bod yn rhan o’u dyfodol eu hunain. Dyma un o’r meysydd y mae’r Ddeddf Lleoliaeth yn rhoi sylw iddynt.

“Mae gennym eisoes ymdeimlad cryf ac angerddol o gymuned yma yng Nghymru, ond mae pob un ohonom yn ymwybodol bod angen i ni gynyddu’r gefnogaeth, y cyfleoedd a’r rhwydweithiau cymdeithasol sydd ar gael. Gall y Gymdeithas Fawr helpu i roi sylw i rai o’r materion hyn, ochr yn ochr a mentrau eraill. Bydd y Fforwm yn fodd o ddatblygu syniadau newydd ar gyfer y sector, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r aelodau er mwyn datgloi potensial Cymdeithas Fawr Cymru.”

Cyhoeddwyd ar 16 January 2012