Datganiad i'r wasg

Mae’r Gymdeithas Fawr eisoes yn ffynnu yng nghalon Cymru, yn ôl Gweinidog Swyddfa Cymru

Cafodd ysbryd Cymdeithas Fawr Canolbarth Cymru ei ganmol heddiw gan David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wrth iddo ymweld a mudiadau cymunedol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cafodd ysbryd Cymdeithas Fawr Canolbarth Cymru ei ganmol heddiw gan David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wrth iddo ymweld a mudiadau cymunedol a gwirfoddol i gydnabod eu cyfraniadau at y cymunedau lleol.     

Ymwelodd Mr Jones a’r mudiad Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn y Trallwng i ddysgu rhagor am sut y mae’r mudiad yn cefnogi ac yn hyrwyddo cyfranogiad yn y celfyddydau yn ogystal a chryfhau cydlyniant cymunedol, cyn symud i Drefeglwys a’r Drenewydd i gwrdd a chynrychiolwyr o brosiect Cydweithredol Trefeglwys ac Undeb Credyd Robert Owen (Y Drenewydd).  

Roedd y Gweinidog yn y Canolbarth i weld enghreifftiau o’r Gymdeithas Fawr ar waith, lle mae grwpiau cymunedol wedi mynd ati i weddnewid gwasanaethau cymunedol a chreu mentrau cymdeithasol llewyrchus yr un pryd. Mae Swyddfa’r Post a Siop Gymunedol Trefeglwys wedi cael eu datblygu gan y pentrefwyr i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ogystal a chyfleusterau hamdden ar gyfer y gymuned gerllaw ac ymwelwyr a’r ardal. A hwythau’n gweithredu drwy gyfrwng ‘Prosiect Cydweithredol Cymunedol’, mae cymdeithas gyfeillgar o wirfoddolwyr yn rhedeg cangen o swyddfa’r post, siop y pentref, caffi, siop gwerthu blodau a phympiau petrol. 

Dywedodd Mr Jones: “Mae’r gwasanaethau a gynigir gan y Prosiect Cydweithredol Cymunedol yn Nhrefeglwys yn dyst i benderfyniad yr aelodau i weithredu’n gadarnhaol i sicrhau’r newidiadau y gwyddant sydd eu hangen ar eu cymunedau. Maent yn ysbrydoliaeth i gymunedau gwledig eraill ac yn dangos gwir hanfod yr hyn y mae’r Gymdeithas Fawr yn anelu ato - mwy o ymreolaeth i gymunedau a mwy o benderfyniadau’n cael eu gwneud gan gymunedau.”

Undeb Credyd Robert Owen (Y Drenewydd) Cyf oedd yr undeb credyd gwledig cyntaf yn y DU ac erbyn hyn caiff unrhyw un sy’n byw yn Sir Drefaldwyn ddefnyddio’i wasanaethau. 

Ychwanegodd Mr Jones:  “Rwyf wedi gweld prawf go iawn heddiw o ymroddiad a brwdfrydedd mawr y bobl sy’n byw yma yng nghalon Cymru, wrth iddynt ddod at ei gilydd i redeg gwasanaethau er budd y gymuned a dangos bod cwmniau cydweithredol a mentrau cymdeithasol cymunedol yn ffynnu. Mae’r Gymdeithas Fawr yn ymwneud a grymuso pobl i gymryd perchnogaeth o’u cymunedau ac mae’r enghreifftiau a welais heddiw yn dangos grym gwirfoddoli yn newid bywydau pobl er gwell.”

Cyhoeddwyd ar 25 February 2011