Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn annog penaethiaid Prydain i fod yn barod i dalu’r Cyflog Byw Cenedlaethol

Mae cwmnïau yn cymryd camau syml yn awr wrth i arolwg barn ddatgelu bod 93% o benaethiaid yn cefnogi’r fenter, gyda’r mwyafrif yn credu y bydd yn rhoi hwb i gynhyrchiant ac yn fodd o gadw staff.

Mae penaethiaid Prydain yn cael eu hannog i gymryd 4 cam syml er mwyn paratoi eu hunain yn well ar gyfer cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd (CBC) y flwyddyn nesaf (2016), ar y diwrnod y mae’r offeryn statudol yn cael ei droi’n gyfraith.

Mae busnesau yn cael eu cynghori i baratoi’n gynnar am y newidiadau ar 1 Ebrill 2016, pan fydd y cyflog newydd yn dod yn gyfraith, a sicrhau eu bod yn dilyn y 4 cam syml hyn:

  • gwybod beth yw’r gyfradd gyflog gywir - £7.20 yr awr ar gyfer staff 25 oed neu’n hŷn
  • darganfod pa staff sy’n gymwys ar gyfer y gyfradd newydd
  • diweddaru cyflogres y cwmni erbyn 1 Ebrill 2016
  • hysbysu’r staff ynglŷn â’r newidiadau cyn gynted ag sy’n bosibl

Gall cyflogwyr ddarganfod mwy drwy fynd i www.livingwage.gov.uk.

Mae’r cyngor yn cyd-fynd ag arolwg barn newydd sy’n datgelu bod 93% o benaethiaid yn cytuno bod y cyflog newydd yn syniad da, gyda 88% yn credu y bydd yn arwain at gynhyrchiant uwch a 83% yn dweud y bydd yn gwneud staff yn fwy teyrngar i’w cwmni.

Dywedodd y Gweinidog Busnes, Nick Boles:

Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn darparu hwb uniongyrchol i dros ddwy filiwn a hanner o weithwyr yn y DU – a bydd yn gwobrwyo ac yn darparu sicrwydd ar gyfer pobl sy’n gweithio.

Rydw i’n annog busnesau i baratoi eu hunain yn awr i dalu’r raddfa newydd o £7.20 o 1 Ebrill 2016. Gyda llai na phedwar mis yn unig ar ôl, mae rhai camau hawdd y gall cyflogwyr eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod yn barod.

Drwy gymryd y mesurau hyn, bydd cwmnïau yn gallu gwobrwyo eu staff yn gywir ac osgoi torri’r gyfraith pan mae hwn yn dod i rym.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol a fydd yn rhoi codiad cyflog i 150,000 o bobl yng Nghymru erbyn 2020.

Rydw i eisiau busnesau fod yn barod am y raddfa newydd o £7.20 sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2016 ac osgoi’r cosbau sy’n bodoli ar gyfer cyflogwyr sy’n methu â thalu.

Gwneud i waith dalu a sicrhau bod pobl sy’n gweithio’n galed yn derbyn y cyflog y maen nhw’n ei haeddu yw prif flaenoriaeth Llywodraeth y DU. Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn mynd â ni un cam yn nes at fod yn gymdeithas gyda chyflog uwch, treth is a llai o fudd-daliadau.

Gofynnodd yr arolwg newydd a wnaed gan yr Adran Fusnes, Arloesi a Sgiliau i 1,000 o gyflogwyr drwy Brydain am y CBC. Pan ofynnwyd iddyn nhw a fyddai’r raddfa newydd yn dda i’w busnesau, nododd llawer o ymatebwyr amrediad o effeithiau cadarnhaol:

  • 93% o’r holl benaethiaid yn cytuno bod y Cyflog Byw Cenedlaethol yn syniad da
  • 88% yn dweud y byddai’n gwneud staff yn fwy cynhyrchiol
  • 83% yn credu y byddai’n gwneud staff yn fwy teyrngar tuag at eu cyflogwr
  • 86% yn dweud y byddai’n codi ysbryd y staff
  • 82% yn credu y byddai cwsmeriaid yn debygol o ddychwelyd pe bai’r busnes yn talu’r cyfraddau cyflog cywir

Er gwaethaf y gefnogaeth boblogaidd i’r mesur, datgelodd yr arolwg barn yn ogystal nad oedd llawer o gwmnïau wedi cymryd camau hyd yma i fod yn barod:

  • oddeutu 45% yn unig a oedd wedi diweddaru’r gyflogres er mwyn ystyried staff 25 oed neu’n hŷn ar 1 Ebrill 2016
  • 39% yn unig a oedd wedi hysbysu staff ynglŷn â’r newidiadau sydd i ddod
  • 29% yn unig a oedd wedi edrych ar-lein am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r hawl i Gyflog Byw Cenedlaethol

Daw hyn er bod 63% o benaethiaid yn dweud eu bod yn gwybod pwy a ddylai gael y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn eu busnes nhw.

Rhan allweddol o gynllun y llywodraeth yw’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd i barhau i symud at gymdeithas gyda chyflog uwch, treth is a llai o fudd-daliadau, gan greu Prydain sy’n fwy cynhyrchiol a rhoi sicrwydd i deuluoedd o waith sy’n talu’n dda.

Nodiadau i Olygyddion

Gwnaed yr arolwg o 1,000 o gyflogwyr drwy’r DU ar gyfer yr Adran Fusnes, Arloesi a Sgiliau gan Censuswide ym mis Tachwedd 2015.

Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dod yn dilyn codiadau diweddar yng ngraddfeydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i:

  • £6.70 ar gyfer y rhai hynny sy’n 21 oed neu’n hŷn
  • £5.30 ar gyfer y rhai hynny sydd rhwng 18 a 20 oed
  • £3.87 ar gyfer y rhai hynny sydd o dan 18 oed
  • £3.30 ar gyfer prentisiaid (mae’r gyfradd hon yn berthnasol ar gyfer yr holl brentisiaid yn ystod blwyddyn 1 o’r brentisiaeth, ac i brentisiaid 16 i 18 oed mewn unrhyw flwyddyn o brentisiaeth)

Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol wedi cael eu cynllunio er mwyn gwarchod gweithwyr ar incwm isel a darparu rheswm i weithio, drwy sicrhau bod pob gweithiwr yn cael cyflog mor hael ag sy’n bosibl.

Yn ogystal, y mae’r cyflog yn helpu busnesau drwy sicrhau bod y graddfeydd yn fforddiadwy a bod cystadleuaeth yn seiliedig ar ansawdd y nwyddau a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu ac nid ar brisiau isel yn seiliedig ar raddfeydd cyflog isel.

Ar gyfer eithriadau i’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ewch i: Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol: Pwy sy’n Derbyn yr Isafswm Cyflog.

Cyhoeddwyd ar 7 December 2015