Datganiad i'r wasg

Penodi Aelod ar ran Cymru i Fwrdd y BBC

Mae Elan Closs Stephens wedi cael ei phenodi yn Aelod o Fwrdd y BBC i gynrychioli Cymru

Mae’r Llywodraeth heddiw wedi cyhoedd enw’r sawl sydd wedi’i benodi i gynrychioli Cymru ar Fwrdd newydd y BBC, yn dilyn proses recriwtio agored a chystadleuol. Cadarnhawyd mai Elan Closs Stephens fydd yr aelod ar ran Cymru ar Fwrdd newydd y BBC.

Mae Bwrdd newydd y BBC, sy’n gyfrifol am oruchwylio BBC cryf ac annibynnol, yn cynnwys 14 o aelodau.

  • Cadeirydd a benodir drwy broses penodiadau cyhoeddus wedi’i chydlynu gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Cadeiriwyd y panel dewis ar gyfer y penodiad hwn gan Asesydd Penodiadau Cyhoeddus, a enwebwyd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus
  • pedwar aelod anweithredol o’r bwrdd yn cynrychioli pob un o’r gwledydd datganoledig, hefyd wedi’u penodi drwy broses penodiadau cyhoeddus wedi’i chydlynu gan DCMS
  • pum aelod anweithredol o’r bwrdd wedi’u penodi gan Fwrdd y BBC
  • a phedwar aelod gweithredol wedi’u penodi gan y BBC, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall

Elan Closs Stephens yw Comisiynydd Etholiadol Cymru ar hyn o bryd, ac mae’n Athro Emeritws Cyfathrebu a’r Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n arbenigo ym maes polisi rheoleiddio darlledu a diwylliannol. Hi oedd Cadeirydd Adolygiad Stephens i Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae wedi bod yn Gadeirydd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, yn Llywodraethwr Sefydliad Ffilm Prydain a bu’n Gadeirydd S4C, Sianel Pedwar Cymru, am ddau dymor.

Dywedodd Karen Bradley, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Digidol a Chwaraeon:

Mae gan Elan Closs Stephens record arbennig o dda o feithrin talent ac o hyrwyddo’r diwydiannau creadigol ledled Cymru. Mae ganddi gyfoeth o brofiad ac rwy’n siŵr y bydd y penodiad yn gam gadarnhaol ymlaen i ddyfodol y BBC yng Nghymru.

Dywedodd Elan Closs Stephens:

Mae’n fraint cael fy newis yn Gyfarwyddwr Anweithredol y BBC dros Gymru ar adeg gyffrous o ffurfio’r Bwrdd newydd. Mae gen i ddau ddyhead sylfaenol. Rwyf am gyfrannu at sicrhau bod y BBC yn cael ei lywodraethu’n gadarn a fydd yn helpu i’w wneud yn un o’r darlledwyr uchaf ei barch yn y byd. Ac rwy’n benderfynol o weld Cymru yn cael ei phortreadu’n fwy cyflawn yma yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Rwy’n falch iawn fod Elan Closs Stephens wedi cael ei phenodi ar Fwrdd Unedol y BBC. Mae ganddi gyfoeth o brofiad yn y cyfryngau a’r diwydiannau creadigol a bydd yn sicrhau bod llais y gynulleidfa yng Nghymru yn cael ei glywed yn glir ac yn uchel o gwmpas y bwrdd.

Mae’r BBC yn sefydliad Prydeinig gwych sy’n diddanu ac yn addysgu ac sydd hefyd yn helpu i ddangos Prydain ar ei gorau ar draws y byd. Yn ddiamau bydd ei phenodiad o fudd enfawr i’r darlledwr a dymunaf bob llwyddiant iddi yn y rôl.

DIWEDD

Ymholiadau’r cyfryngau: Swyddfa’r Wasg yn DCMS 020 7211 6145

Nodiadau i Olygyddion:

Elan Closs Stephens ydy’r Athro Emeritws Cyfathrebu a’r Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ystod ei chyfnod yn Aberystwyth, bu’n dysgu ac yn cefnogi llawer o bobl ifanc sydd, ers hynny, wedi cael gyrfaoedd disglair fel awduron, actorion, cyfarwyddwyr a chomisiynwyr rhaglenni. Mae’n arbenigo ym maes polisi rheoleiddio darlledu a diwylliannol. Hi oedd Cadeirydd Adolygiad Stephens i Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae wedi bod yn Gadeirydd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, yn Llywodraethwr Sefydliad Ffilm Prydain a bu’n Gadeirydd S4C, Sianel Pedwar Cymru, am ddau dymor. Mae’n Aelod o Awdurdod S4C tan 31 Hydref 2018. Am y chwe blynedd diwethaf tan ddiwedd y Siarter, bu’n Ymddiriedolwr Cymru ar gorff llywodraethu’r BBC, Ymddiriedolaeth y BBC. Mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol uwch Fwrdd Ysgrifennydd Parhaol Cymru ac mae wedi cadeirio Pwyllgor Archwilio a Risg y Bwrdd ers 2008. Mae hefyd wedi cadeirio Bwrdd Adfer Cyngor Sir Ynys Môn. Derbyniodd y Warant Frenhinol i weithredu fel Comisiynydd Etholiadol Cymru o fis Ebrill 2017.

Cymraeg yw iaith gyntaf Elan. Fe’i maged yn Nyffryn Nantlle yng ngogledd Cymru a graddiodd o Goleg Somerville, Rhydychen. Derbyniodd CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2001 am wasanaethau i ddarlledu a’r iaith Gymraeg.

Mae’r penodiadau hyn wedi cael eu gwneud yn unol â Chod Llywodraethu Swyddfa’r Cabinet ar Benodiadau Cyhoeddus. Fel y nodir yn y Cod, rhaid datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol sylweddol a gyflawnwyd gan benodai yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn unol â’r diffiniad, mae hyn yn cynnwys dal swydd, siarad yn gyhoeddus, rhoi rhodd cofnodadwy, neu bod yn ymgeisydd mewn etholiad. Nid yw Elan Closs Stephens wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol o’r fath.

O dan delerau Siarter Brenhinol y BBC, y Frenhines sy’n penodi Cadeirydd y BBC ac aelodau’r bwrdd yn unol ag argymhellion Gweinidogion (yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, drwy’r Prif Weinidog).

Cyhoeddwyd ar 20 July 2017