Datganiad i'r wasg

Y Farwnes Randerson: Mae partneriaethau’n allweddol i lwyddiant twristiaeth

Partneriaethau cadarn yn hanfodol i lwyddiant parhaus y diwydiant twristiaeth yng Nghymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae partneriaethau’n allweddol i lwyddiant twristiaeth, yn ôl y Farwnes Randerson wrth ymweld â Gorllewin Cymru Mae partneriaethau cadarn rhwng y Llywodraeth, y diwydiant twristiaeth a chyrff marchnata yn hanfodol i lwyddiant parhaus y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, yn ôl y Farwnes Randerson heddiw.

Bydd hefyd yn manteisio ar y cyfle i gwrdd â rheiny yn y gorllewin sydd wedi elwa o gyllideb yr wythnos hon; ffermwyr, rheiny sydd yn prynu tŷ am y tro cyntaf a phensiynwyr yn arbennig.

Roedd y gweinidog yn siarad wrth ymweld â Phlas Llanelly, ble bydd yn gweld drosti ei hun sut mae’r ymddiriedolaeth wedi gweithio ar y cyd ag eraill yn y diwydiant ac wedi creu 12 o swyddi llawn amser newydd.

Mae gwesty eiconig y dref, Gwesty Parc y Strade, yn croesawu ymwelwyr Plas Llanelly ac mae tafarn hanesyddol y Thomas Arms yn cael ei hyrwyddo yn ystod teithiau o amgylch y plas.

Mae’r dafarn a’r gwesty’n dweud wrth eu cwsmeriaid am Blas Llanelly hefyd.

Mae Plas Llanelly a Thŷ Aberglasne sydd gerllaw, yn hyrwyddo ei gilydd i’w hymwelwyr.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Mae’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru’n llwyddiant enfawr i’n gwlad; yn denu buddsoddiad ac yn creu swyddi ar hyd a lled y wlad. Mae miliynau o bobl yn teithio i Gymru bob blwyddyn i fwynhau ein golygfeydd godidog, ymweld â’n hadeiladau hanesyddol a blasu ein bwyd a’n diod arobryn.

Ond mae ein llwyddiant yn dibynnu ar ba mor dda rydyn ni’n dod at ein gilydd er mwyn sicrhau bod ein hymdrech ar y cyd yn well na’r ymdrechion unigol.

Yma ym Mhlas Llanelly, mae eu dull arloesol o gydweithio wedi arwain at ganlyniadau gwych, ac rwy’n dymuno gweld hyn yn digwydd ledled Cymru.

Twristiaeth yw ail ddiwydiant mwyaf Cymru, a chynhyrchodd y diwydiant £2.3 biliwn o wariant yn 2013.

O’r 96.72 miliwn o deithiau ym Mhrydain Fawr rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2014, roedd 8.9 y cant o’r rhain i Gymru - cynnydd o’r un cyfnod yn 2013.

Roedd cyfanswm y nosweithiau a dreuliwyd yng Nghymru yn ystod deg mis cyntaf 2014 1.5 y cant yn uwch o gymharu â’r un cyfnod yn 2013.

Mae’r gwariant yn ystod ymweliadau â Chymru yn ystod deg mis cyntaf 2014 wedi cynyddu o gymharu â’r un cyfnod yn 2013.

Bydd y Farwnes Randerson yn ymweld ag atyniadau twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ar ddydd Iau 19 a dydd Gwener 20 Mawrth.

Yn ogystal ag ymweld â’r adeilad 300 oed, Plas Llanelly, yn dilyn prosiect adnewyddu 10 mlynedd, bydd y Farwnes Randerson yn ymweld â’r lleoliadau canlynol; Canolfan Ddarganfod Llanelli, lle gall ymwelwyr ddysgu am atyniadau twristiaeth yr ardal; harbwr Porth Tywyn, marina mwyaf newydd Cymru sy’n cynnwys cyfleuster 450-angor; caffi arfordir Flanagan’s yn Llanelli, sy’n enwog am ei hufen iâ; siop fferm a chaffi Cwmcerrig yng Ngorslas a Chastell Aberteifi, sydd newydd ailagor yng Ngheredigion.

Cyhoeddwyd ar 19 March 2015