Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson yn gweld ymchwil amgylcheddol arloesol yn ystod ei hymweliad â Bangor

Daeth Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson i Fangor (ddydd Iau 27 Tachwedd) i glywed am waith ymchwil cyffrous

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Image

Baroness Randerson at the Centre for Ecology & Hydrology, part of the Natural Environment Research Council.

Bu’r Farwnes Randerson yn ymweld ag Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor a’r Ganolfan Ecoleg & Hydroleg, sydd hefyd ar gampws y Brifysgol.

Roedd y Farwnes Randerson yn arbennig o awyddus i ddysgu am broject ymchwil allweddol bwysig yn yr Ysgol, sy’n mynd i’r afael â sicrwydd bwyd yn India a Nepal. Sicrwydd bwyd yw un o’r prif heriau sy’n wynebu’r byd.

Mae gwyddonwyr ar y project yn gweithio gyda phartneriaid yn Nepal, India a LGC Genomics (cwmni mesur a phrofi rhyngwladol yn y gwyddorau bywyd, sydd yn arwain mewn marchnadoedd sy’n tyfu cnydau mewn modd cynaliadwy) i ddatblygu mathau newydd o reis sy’n fwy abl i wrthsefyll dau glefyd reis enbyd sy’n gallu dinistrio 85-100% o’r cynhaeaf reis mewn llawer o wledydd sy’n tyfu reis a thrwy hynny, sicrwydd bwyd miliynau o bobl.

Mae’r project sy’n cael ei ariannu drwy Grant Dichonoldeb Cyfnod Cynnar Catalyddu Amaeth-Technoleg newydd, sy’n amodol ar gontract, yn un o dri phroject yng Nghymru yn rhannu buddsoddiad o £ 5miliwn gan Innovate UK i fynd i’r afael â heriau amaethyddol mawr ledled y byd.

Yn ystod yr ymweliad cyfarfu’r Farwnes Randerson hefyd â’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol i drafod gwaith arloesol y Brifysgol ym meysydd cynaliadwyedd a gwyddor yr amgylchedd.

Meddai’r Athro John G.Hughes:

Mae ymchwil ym Mhrifysgol Bangor yn cael effaith dda o gwmpas y byd, ac rydym yn arbennig o falch o’n gwaith sy’n gwneud cyfraniad gwirioneddol tuag at wella bywydau, boed yma yng Nghymru neu’n rhyngwladol. Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i drafod hyn a gwaith ymchwil pwysig arall gydag Is-ysgrifennydd Cymru, y Farwnes Randerson.

Meddai’r Farwnes Randerson:

Rwyf wedi gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i drafod eu hymchwil gydag academyddion ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n helpu i roi sylw i ddiogelwch bwyd. Mae’r gwaith hwn o bwysigrwydd rhyngwladol ac, yn arbennig, yn eithriadol bwysig i ddyfodol rhai o’r mannau tlotaf ar ein planed.

Hefyd, bu’r Farwnes Randerson yn ymweld â’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, rhan o Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, sydd hefyd yn gweithio ochr yn ochr â gwyddonwyr amgylcheddol y Brifysgol ei hun yn adeilad Canolfan yr Amgylchedd Cymru.

Cafodd y Farwnes Randerson ei thywys o amgylch y cyfleusterau dadansoddi a chyfarfod staff a myfyrwyr i glywed am brojectau sicrwydd bwyd. Mae’r rhain yn cynnwys Agricultural Sustainable Intensification Platform newydd, rhan o raglen £5M Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) i ddatblygu arferion ffermio dwys sydd yn gwarchod adnoddau naturiol, a chynllun arfarnu amaeth-amgylcheddol Glastir gwerth £9M.

Meddai’r Farwnes Randerson:

Mae adeilad Canolfan yr Amgylchedd Cymru yn enghraifft o ragoriaeth amgylcheddol a chynaliadwy, o ran ei gynllun a’r modd y caiff ei ddefnyddio. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yma gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) o bwysigrwydd mawr i Gymru a thu hwnt. Rwy’n ei chael hi’n ddiddorol iawn dysgu am yr ymchwil o’r radd flaenaf mae CEH yn ei wneud i’r materion a sialensiau hir dymor sy’n wynebu’r amgylchedd.

Mae’r adeilad, sydd wedi ennill gwobrau amgylcheddol, wedi ei ddylunio i ysbrydoli ac adlewyrchu ymchwil amgylcheddol arloesol a wneir gan dros 100 o staff CEH a Phrifysgol Bangor sydd yn gweithio yno.

Meddai’r Dr Bridget Emmett, (Pennaeth CEH Bangor):

Mae gan Ganolfannau Ymchwil Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol hanes cadarn o ganfod atebion i sialensiau amgylcheddol cymhleth. Mae’r broblem o allu cynnig gwell sicrwydd bwyd ac ar y un pryd gallu gwarchod ein hadnoddau naturiol yn un y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hi os ydym am gyflawni datblygu cynaliadwy yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 28 November 2014