Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson, yn galw ar fwy o fenywod i ymuno â byd busnes

Yr wythnos hon, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson, yn galw ar fwy o fenywod i ymuno â byd busnes.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yr wythnos hon, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson, yn galw ar fwy o fenywod i ymuno â byd busnes. Bydd yn cwrdd â menywod busnes o bob cwr o Gymru, i ysbrydoli menywod i fentro i fyd busnes a dathlu eu cyfraniad i economi Cymru ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Bydd y Farwnes Randerson yn cwrdd â menywod llwyddiannus sy’n gweithio mewn amrywiol ddiwydiannau o arlwyo a chrefftau i ddiogelwch a gwyddoniaeth. Bydd yn manteisio ar y cyfle hwn i hyrwyddo busnes fel gyrfa i fenywod, yn nodi sut mae llywodraeth y DU yn cefnogi menywod ym myd busnes ac yn clywed straeon ysbrydoledig am sut y maent wedi sicrhau llwyddiant.

Mae ffigurau’n dangos bod mwy o fenywod nag erioed yn gweithio yng Nghymru nawr – mae oddeutu 650,000 o fenywod yn gweithio yng Nghymru – cynnydd o 17,000 er mis Mai 2010.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Rydyn ni’n helpu menywod yn y gwaith drwy leihau costau gofal plant, mynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y ddau ryw, cyflwyno mwy o gyfleoedd gweithio’n hyblyg ac absenoldeb i rieni ar y cyd.

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw ‘Ewch Amdani’ – ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gwrdd â rhai o fenywod anhygoel Cymru sydd wedi gwneud hynny – gwneud i bethau ddigwydd.

Mae’r menywod hyn yn gaffaeliaid i Gymru ac yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni gyda gwaith caled a dyfalbarhad.

Ond mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb – i gefnogi, annog ac addysgu menywod i’w helpu i ymdrechu, a chyflawni eu breuddwydion. Dyma beth yw diben Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Bydd y Farwnes Randerson yn mynd i siop goffi a thŷ bwyta The Green yng Nghaerllion ar 6 Mawrth. Emma Evans, a dysgodd ei hun i fod yn gogydd, sy’n rhedeg y busnes. Sefydlodd Emma Glwb Swper Cyfrinachol hefyd – digwyddiadau ciniawa dros dro – a rhwydwaith ar gyfer mamau o Gymru sydd ym myd busnes, Welsh Mums in Business, i gefnogi menywod sydd â phlant i fentro i fyd busnes.

Bydd y Gweinidog yn cwrdd â Lisa Standley - un o aelodau’r rhwydwaith Welsh Mums in Business a sylfaenydd Cottage Coppicing yng Nghaerllion, sy’n creu cynnyrch crefftau coed gwledig gan ddefnyddio offer a dulliau traddodiadol a choed lleol cynaliadwy.

Bydd y Farwnes Randerson yn galw heibio IDS Security Systems Ltd – sy’n arbenigo yng ngwaith dylunio, gosod a chynnal a chadw systemau diogelwch ac amddiffyn rhag tân – i gwrdd â’r rheolwr-gyfarwyddwr Julie Halton a’r cyfarwyddwr gweithrediadau Jennifer Horan.

Bydd hefyd yn cwrdd ag Abi Carter, sylfaenydd Forensic Resources Ltd - cwmni ymgynghorwyr gwyddoniaeth fforensig sy’n darparu gwasanaethau tyst arbenigol i dimau cyfreithiol a chwmnïau yswiriant ledled y DU.

Bydd y Farwnes Randerson yn tynnu sylw at lwyddiannau busnes menywod ledled Cymru mewn Digwyddiad Menywod mewn Busnes yng Nghwmni Bragu Tomos Watkins ar 9 Mawrth.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Conni Parrie, Prif Swyddog Gweithredol Bragdy Hurns ac enillydd Cymraes y Flwyddyn yn y gorffennol, a Rachel Fleri - sylfaenydd a rheolwr-gyfarwyddwr Specialist Security, a fydd yn rhannu eu profiadau o sefydlu a rhedeg busnes mewn diwydiant lle mae dynion amlycaf.

Cyhoeddwyd ar 6 March 2015