Datganiad i'r wasg

Medical Ethics, cwmni gwyddorau bywyd o Awstralia, yn cyhoeddi ei fod am fuddsoddi £3m yng Nghymru

Ysgrifennydd Gwladol: "Mae’r buddsoddiad yma yn tanlinellu statws cynyddol Cymru fel gwlad llawn arbenigedd ym maes gwyddorau bywyd".

Picture of Dr Meredith Sheil, Technical Director and Co-Founder of Medical Ethics.

Dr Meredith Sheil, Technical Director & Co-Founder of Medical Ethics, has developed a world leading pain mitigation and wound healing technology for humans and animals.

Mae Medical Ethics, cwmni ymchwil a datblygu gwyddorau bywyd o Melbourne, wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi dros £3 miliwn yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf, gan wneud Caerdydd yn bencadlys i’r cwmni yn hemisffer y gogledd.

Mae Medical Ethics yn datblygu cynnyrch sy’n lleddfu poen ac yn lleihau dioddefaint cysylltiedig ag anafiadau a gweithdrefnau llawfeddygol ymhlith anifeiliaid. Fel canolfan sy’n arbenigo mewn gwyddorau bywyd yn y DU, bydd Cymru’n lle delfrydol i’r cwmni ddatblygu ei dechnolegau ar gyfer bodau dynol.

Dewisodd Medical Ethics fuddsoddi yn y DU oherwydd ei harbenigedd mewn sawl maes sy’n angenrheidiol er mwyn masnacheiddio technoleg y cwmni. Mae hyn yn cynnwys materion rheoleiddio, gweithgynhyrchu ac astudiaethau clinigol, yn ogystal â chymorthdaliadau treth a chymhellion blwch patent.

Ar hyn o bryd, mae Medical Ethics yn ymgysylltu â 18 o ddarparwyr gwasanaethau annibynnol ac ymgynghorwyr ledled y DU ac mae ganddo gynlluniau i gynyddu’r nifer hwnnw. Bydd y cwmni hefyd yn awyddus i ddefnyddio ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau eraill yn y DU wrth iddo fynd i’r afael â gofynion masnacheiddio a rheoleiddio yn y dyfodol.

Mae Medical Ethics wedi bod yn gweithio gyda’r Adran Masnach Ryngwladol ers dwy flynedd ac y mae wedi cael cyngor, cymorth i wneud ceisiadau am grantiau a chael ei gyflwyno i randdeiliaid allweddol yn y DU, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Clwyfau Cymru yng Nghaerdydd, sydd ill dau’n cydweithio â’r cwmni erbyn hyn. Heb gymorth yr Adran Masnach Ryngwladol, ni fyddai’r cwmni wedi gallu gwneud y cysylltiadau hyn ac ni fyddai wedi dewis buddsoddi yn y DU.

Dywedodd Alan Giffard, Rheolwr Gyfarwyddwr Medical Ethics:

I ni, Cymru oedd y dewis amlwg yn y DU o ystyried ein sector – Gwyddorau Bywyd. Mae Cymru’n cynnig sgiliau, arbenigedd a seilwaith a fydd yn galluogi’n busnes ni i ffynnu.

Drwy ymwneud â’r Adran Masnach Ryngwladol, rydym wedi cael cyfle i fod yn rhan o’r Rhaglen Fyd-eang i Entrepreneuriaid, sydd wedi’n galluogi ni i oresgyn llawer o heriau cychwynnol. Mae’r Adran Masnach Ryngwladol, ynghyd ag Innovate UK, wedi’n cynorthwyo ni drwy ein cyflwyno ni i arbenigwyr allweddol, gan gynnwys Sefydliad Clwyfau Cymru yng Nghaerdydd – a gafodd ddylanwad sylweddol ar ein penderfyniad i ddewis y DU.

Wrth feddwl am ehangu i fod yn fusnes rhyngwladol, fe wnaethom ystyried nifer o wledydd i ddechrau. Fodd bynnag, rydym yn credu y byddai wedi bod yn broses fwy anodd yn y tiriogaethau hyn gan na ddaethom o hyd i raglenni a fyddai’n darparu’r un lefel o gymorth ag y mae’r DU wedi’i chynnig i ni.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos bod awydd i fuddsoddi yn y DU ym mhob cwr o’r byd ac mae’n dangos bod gan bobl hyder yn statws cynyddol Cymru fel gwlad llawn arbenigedd ym maes gwyddorau bywyd.

Y mae hefyd yn dangos ymrwymiad rhwydwaith o arbenigwyr masnach Llywodraeth y DU ym mhob cwr o’r byd i gysylltu buddsoddwyr rhyngwladol â’r partneriaid sy’n addas ar gyfer eu hanghenion.

Mae cwmnïau fel Medical Ethics yn helpu i newid deinameg y maes iechyd ar raddfa fyd-eang ac maent yn gweld mai Cymru yw’r lle mwyaf poblogaidd i fuddsoddi ynddo er mwyn datblygu, gweithgynhyrchu a masnacheiddio eu cynnyrch arloesol. Mae Llywodraeth y DU yn gwybod hyn ac rydym yn bwriadu meithrin y diwydiant hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cael llwyddiant parhaus yng Nghymru a ledled y DU am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd Graham Stuart, Gweinidog Buddsoddi’r Adran Masnach Ryngwladol:

Gyda rhwydwaith o brifysgolion, clinigwyr a gweithwyr proffesiynol o safon fyd eang yn y diwydiant, mae’n amlwg bod gan Cymru’r gallu i ddarparu’r arbenigedd sydd ei hangen ar gwmnïau gwyddorau bywyd yn y wlad hon ac yn rhyngwladol.

Mae Cymru bellach yn flaenllaw mewn nifer o ddatblygiadau arloesol mewn amrywiaeth eang o feysydd, o ficrobioleg i gynhyrchion fferyllol. Mae buddsoddiad Medical Ethics yng Nghymru yn pwysleisio hyn ac mae’r Adran Masnach Ryngwladol, fel adran economaidd ryngwladol, yn falch iawn o fod wedi helpu i wireddu hyn.

Yn 2016-17, cofnododd yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT) 85 o brosiectau buddsoddi yng Nghymru, gan greu 2,581 o swyddi. Cafodd gwerth £16.4bn o nwyddau eu hallforio gan gwmnïau o Gymru yn 2017. Y DU yw’r brif gyrchfan ar gyfer Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor mewn iechyd a gwyddorau bywyd yn Ewrop.

Cyhoeddwyd ar 22 May 2018