Data Trafodiad mis Awst 2015
Mae'r data a gyhoeddir yma yn rhoi gwybodaeth am y niferoedd a'r mathau o geisiadau a gwblhawyd gan y Gofrestrfa Tir ym mis Awst 2015.

Ym mis Awst 2015:
- y Gofrestrfa Tir yn cwblhau 1,382,803 o geisiadau
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol gyda 317,872 o geisiadau
- Birmingham ar frig y tabl o geisiadau gan awdurdodau lleol gyda 20,837 o geisiadau
Mae’r Data Trafodiad yn dangos i’r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,382,800 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Awst. Mae hyn yn cynnwys 1,350,573 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda:
- 341,213 o geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau)
- 617,196 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
- 189,263 yn chwiliadau
- 87,225 yn drafodion am werth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr | 317,872 |
Llundain Fwyaf | 263,528 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 152,820 |
De Orllewin Lloegr | 139,219 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 120,069 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 107,781 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 97,569 |
Cymru | 64,550 |
Gogledd Lloegr | 63,128 |
Dwyrain Anglia | 56,140 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 96 |
Ynysoedd Sili | 31 |
Cyfanswm | 1,382,803 |
Tri phrif awdurdod lleol | Ceisiadau |
---|---|
Birmingham | 20,837 |
Dinas Westminster | 18,616 |
Leeds | 15,857 |
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited | 1,945 |
Countrywide Property Lawyers | 1,041 |
O’Neill Patient | 912 |
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact | 7,801 |
O’Neill Patient | 5,249 |
Optima Legal Services | 4,779 |
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir y Data Trafodiad ar bymthegfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a Set Ddata pris a dalwyd mis Medi ar ddydd Mercher 21 Hydref 2015 am 11 y bore yn data.gov
- Mae’r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Ar gyfer esboniad o’r termau a ddefnyddir, gweler Byrfoddau a ddefnyddir yn y Data Trafodiad
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol. 4.Mae’r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i’r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.
- Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i https://www.gov.uk/land-registry
- Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov a dewch o hyd i ni ar ein blog, LinkedIn a Facebook
Cysylltu
Swyddfa'r wasg
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
Email HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk
Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565
Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344