Datganiad i'r wasg

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Awst 2015

Data Tueddiadau'r Farchnad y Gofrestrfa Tir ar gyfer prisiau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr.

Heatmap

Mae data mis Awst yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 4.2 y cant sy’n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £184,682. Mae prisiau tai misol wedi codi 0.5 y cant oddi ar fis Gorffennaf 2015.

Mae’r data rhanbarthol yn dangos mai:

  • y rhanbarth welodd y cynnydd mwyaf arwyddocaol o ran ei phrisiau blynyddol oedd Dwyrain Lloegr gyda symudiad o 8.4 y cant
  • yn Llundain y gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 1.7 y cant
  • gogledd Orllewin Lloegr welodd y cynnydd pris blynyddol isaf o 0.2 y cant
  • gogledd Orllewin Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau hefyd gyda gostyngiad o 1.4 y cant

Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol ar gyfer gwerthiannau ac adfeddiannau yn ystod mis Mehefin 2015 yn dangos:

  • i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ostwng 13 y cant i 70,404 o’i gymharu â 80,823 ym mis Mehefin 2014
  • y bu gostyngiad o 17 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr i 1,031 o 1,237 flwyddyn yn gynharach
  • i niferoedd yr adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr ostwng 43 y cant i 498 o’i gymharu â 868 ym mis Mehefin 2014
  • y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd Llundain

Mynediad i adroddiad llawn y Mynegai ar gyfer mis Awst.

Rhanbarth Newid misol oddi ar fis Gorffennaf 2015 Newid blynyddol oddi ar fis Awst 2014 Pris cyfartalog Awst 2015
Llundain 1.7% 6.6% £493,026
De Orllewin Lloegr 1.1% 5.4% £194,088
De Ddwyrain Lloegr 0.8% 7.6% £254,658
Gorllewin Canolbarth Lloegr 0.6% 3.2% £140,417
Dwyrain Lloegr 0.5% 8.4% £210,042
Cymru a Lloegr 0.5% 4.2% £184,682
Gogledd Ddwyrain Lloegr 0.5% 0.4% £100,943
Cymru 0.2% 0.9% £118,899
Dwyrain Canolbarth Lloegr -0.2% 3.5% £136,243
Swydd Gaerefrog a’r Humber -0.3% 1.2% £123,063
Gogledd Orllewin Lloegr -1.4% 0.2% £113,732

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo 2015 i 2014

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Awst 2015 Awst 2014 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £289,507 £276,985 4.5%
Tŷ pâr £175,299 £167,412 4.7%
Tŷ teras £138,975 £133,967 3.7%
Fflat/Fflat deulawr £176,801 £169,940 4.0%
Holl £184,682 £177,174 4.2%

Nifer y gwerthiannau 2014 i 2013

Mis Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 65,214 43,413 50%
Chwefror 65,025 45,289 44%
Mawrth 67,355 54,755 23%
Ebrill 70,271 51,066 38%
Mai 77,492 66,377 17%
Mehefin 80,823 66,180 22%
Gorffennaf 84,673 73,761 15%
Awst 87,839 79,511 10%
Medi 78,794 69,737 13%
Hydref 86,240 76,684 12%
Tachwedd 73,041 82,873 -12%
Rhagfyr 77,720 79,633 -2%
Cyfanswm 914,487 789,279 16%

Nifer y gwerthiannau 2015 i 2014

Mis Gwerthiannau 2015 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 56,530 65,214 -13%
Chwefror 57,458 65,025 -12%
Mawrth 64,182 67,355 -5%
Ebrill 60,148 70,271 -14%
Mai 67,466 77,492 -13%
Mehefin 70,404 80,823 -13%

Adfeddiannau fesul rhanbarth 2015 i 2014

Adfeddiannau fesul rhanbarth Mehefin 2015 Mehefin 2014 Gwahaniaeth
Dwyrain Lloegr 29 54 -46%
Dwyrain Canolbarth Lloegr 51 73 -30%
Llundain 37 86 -57%
Gogledd Ddwyrain Lloegr 18 30 -40%
Gogledd Orllewin Lloegr 115 221 -48%
De Ddwyrain Lloegr 65 99 -34%
De Orllewin Lloegr 30 60 -50%
Cymru 45 62 -27%
Gorllewin Canolbarth Lloegr 41 77 -47%
Swydd Gaerefrog a’r Humber 67 106 -37%
Holl 498 868 -43%

Mae’r Data Pris a Dalwyd yn cynnwys manylion dros 78,750 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i’w cofrestru ym mis Awst 2015. Roedd y gwerthiant drutaf yn ystod mis Awst 2015 yn Llundain SW1 (£15 miliwn). Roedd y gwerthiant rhataf yn ystod mis Awst 2015 yn Lerpwl (£15,000).

Mynediad i’r set lawn o ddata

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau’r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir y Mynegai Prisiau Tai ar gyfer mis Medi am 9.30 y bore ar ddydd Mercher 28 Hydref 2015. Cyhoeddir y Data Pris a Dalwyd am 11 y bore ar yr un diwrnod.

  2. Mae calendr gyda’r dyddiadau rhyddhau y prif ffigur a’r Mynegai llawn ar gael.

  3. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995 yn amodol ar eithrio.

  4. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 19 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros 7 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.

  5. Mae’r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.

  6. Mae’r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i’r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy’n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi’r trafodion hyn, rydym yn tynnu’r wybodaeth pris a dalwyd o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr.

  7. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau’n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler data adfeddiannau i gael rhagor o wybodaeth.

  8. Mae tablau cefndir y Mynegai ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen gan beiriant fel data cysylltiedig. Maent ar gael i’w defnyddio a’i hail-ddefnyddio am ddim o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA).

  9. Mae Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i’w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae’r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo: * y cyfeiriad llawn * y pris a dalwyd * dyddiad y trosglwyddiad * y math o eiddo * ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio * ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo

  10. Gellir llwytho Data Pris a Dalwyd i lawr am ddim ar ffurf txt, csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.

  11. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.

  12. Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.

  13. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.gov.uk/land-registry

  14. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov, ein blog, LinkedIn a Facebook

Cysylltu

Swyddfa'r wasg

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk

Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565

Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344

Cyhoeddwyd ar 28 September 2015