Data Trafodiad mis Awst 2014
Mae'r data a gyhoeddir ar y dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am nifer a'r mathau o geisiadau a gwblhawyd gan y Gofrestrfa Tir ym mis Awst 2014.

- Y Gofrestrfa Tir yn cwblhau 1,265,951 o geisiadau
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol gyda 292,914 o geisiadau
- Birmingham ar frig y tabl o geisiadau gan awdurdodau lleol gyda 19,694 o geisiadau
Mae’r Data Trafodiad yn dangos i’r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,265,950 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Awst. Mae hyn yn cynnwys 1,224,587 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 323,351 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 540,916 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 181,540 yn chwiliadau a 85,432 yn drafodion am werth.
Ceisiadau fesul rhanbarth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr | 292,914 |
Llundain Fwyaf | 240,232 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 141,818 |
De Orllewin Lloegr | 127,229 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 106,784 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 99,880 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 89,614 |
Cymru | 58,505 |
Gogledd Lloegr | 57,275 |
Dwyrain Anglia | 51,616 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 59 |
Ynysoedd Sili | 25 |
Cyfanswm | 1,265,951 |
Tri phrif awdurdod lleol
Tri phrif awdurdod lleol | Ceisiadau |
---|---|
Birmingham | 19,694 |
Dinas Westminster | 17,598 |
Leeds | 14,787 |
Tri phrif gwsmer yn ôl trafodion am werth
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited | 1,695 |
Countrywide Property Lawyers | 845 |
O’Neill Patient | 714 |
Tri phrif gwsmer yn ôl chwiliadaau
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact | 6,268 |
Optima Legal Services | 4,807 |
O’Neill Patient | 4,296 |
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir y Data Trafodiad ar bymthegfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Data Trafodiad mis Medi ar ddydd Mawrth 21 Hydref 2014 am 11 y bore.
- Mae’r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Esboniad o’r termau a ddefnyddir
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae’r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i’r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. Rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliad.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion bron 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.gov.uk/land-registry
- Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a’n our blog.
Contact
Swyddfa'r wasg
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
Email HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk
Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565
Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344