Datganiad i'r wasg

Bydd Cyfres y Lludw 2015 yn llwyddiant ysgubol yng Nghymru, medd Cheryl Gillan

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r newyddion y bydd Caerdydd yn llwyfannu un o gemau prawf Cyfres y Lludw 2015. …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r newyddion y bydd Caerdydd yn llwyfannu un o gemau prawf Cyfres y Lludw 2015.

A hithau wrth ei bodd a chriced, dywed Mrs Gillan y bydd y newyddion yn cael ei groesawu’n fawr yng Nghymru ac yn rhoi hwb derbyniol iawn i economi De Cymru.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae hyn yn newyddion rhagorol, ac yn cydnabod llwyddiant Caerdydd wrth gynnal y gem brawf ar gyfer Cyfres y Lludw 2009.  Mae nifer o ddigwyddiadau chwaraeon pwysig wedi cael eu cynnal yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd, a phan fydd Cyfres y Lludw a’i holl gyffro yn dychwelyd i Gymru, bydd yn sicr yn llwyddiant ysgubol. Pan fydd yn dychwelyd, bydd hefyd yn hwb mawr i economi De Cymru, wrth i filoedd o gefnogwyr heidio i’n prifddinas.  Mae hwn yn gyfle arall i Gymru ddangos beth sydd ganddi i’w gynnig, ac edrychaf ymlaen at weld rhai o ser blaenllaw y byd criced yn dangos eu doniau.”

Cyhoeddwyd ar 22 September 2011