Stori newyddion

Y Lluoedd Arfog i gefnogi’r rhaglen brechu yng Nghymru

Mae 98 o staff wedi cael eu darparu i gefnogi’r rhaglen pigiad atgyfnerthu brechlyn Covid-19 yng Nghymru.

A member of the Armed Forces administers a vaccine in Wales earlier this year

A member of the Armed Forces administers a vaccine in Wales earlier this year

Mae 98 o staff wedi cael eu darparu i gefnogi’r rhaglen pigiad atgyfnerthu brechlyn Covid-19 yng Nghymru. Bydd y Lluoedd Arfog yn gweithio i gefnogi’r Adran Iechyd a Llywodraeth Cymru i gyflymu’r broses o gyflwyno’r brechlyn yng nghanol ton o heintiau Omicron.

Bydd y staff yn ffurfio 14 tîm o frechwyr a fydd yn darparu cymorth ychwanegol i gynyddu capasiti. Mae’r staff yn cynnwys cymysgedd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff dyletswyddau cyffredinol a fydd yn gweithio i gefnogi staff a gwirfoddolwyr GIG Cymru, drwy roi brechlynnau a darparu arbenigedd cynllunio.

Bydd y staff yn gweithio yn saith Bwrdd Iechyd Cymru, gyda dau dîm yn cael eu neilltuo i bob bwrdd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace:

Rydyn ni nawr yn cefnogi’r rhaglen brechu Covid-19 hon sy’n flaenoriaeth genedlaethol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.   Mae ein Lluoedd Arfog yn cefnogi ein gwasanaethau iechyd o’r radd flaenaf i gyflymu’r broses o gyflwyno’r brechlyn a darparu amddiffyniad hanfodol i bobl ac i gymunedau. Rwy’n annog unrhyw un sy’n gymwys i fanteisio ar y cynnig o frechlyn.

Mae 129 aelod o staff amddiffyn yn parhau i gefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae’r rheini sy’n cael eu defnyddio, ac sydd wedi cael hyfforddiant priodol, yn helpu’r gwasanaeth ambiwlans gyda gyrwyr nad ydynt yn rhai brys. Maen nhw’n mynd i alwadau â blaenoriaeth is i helpu i ryddhau adnoddau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer galwadau brys lle mae risg i fywyd ar y pryd.

Meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’n hanfodol bod cynifer o bobl â phosibl yn cael y brechlyn yn ein brwydr yn erbyn Covid-19 ac rwy’n ddiolchgar iawn i Luoedd Arfog y DU am gefnogi’r ymdrech hon yng Nghymru yn ogystal â pharhau i gefnogi gwaith Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Ers dechrau’r pandemig, mae’r fyddin wedi camu i’r adwy i gefnogi gwasanaethau iechyd ledled Cymru drwy ddosbarthu cyfarpar diogelu personol, adeiladu ysbyty dros dro yng Nghaerdydd a chynorthwyo profion cymunedol yng nghymoedd De Cymru, gan ddangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiwallu anghenion y Deyrnas Unedig gyfan.

Daw’r staff dan sylw o unedau ar draws y tri gwasanaeth – y Llynges Frenhinol, Byddin Prydain a’r Awyrlu Brenhinol. Mae rhai staff wedi bod yn gweithio ar dasgau eraill yng Nghymru ers dechrau’r pandemig, gan gynnwys profion cymunedol a darparu cyfarpar diogelu personol.

Erbyn hyn, mae 227 o staff ar gael i gefnogi tasgau Ymgyrch Rescript yng Nghymru, yr enw gweithredol a roddwyd i waith Amddiffyn i gefnogi’r ymateb i’r pandemig ledled y DU.

Mae’r gefnogaeth yn cael ei darparu drwy broses Cymorth Milwrol i’r Awdurdodau Sifil (MACA). Ers mis Mawrth 2020, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ymateb i dros 440 o geisiadau MACA ledled y DU.

Mae’r Lluoedd Arfog yn barod i gamu i’r adwy a chefnogi awdurdodau sifil, gwledydd datganoledig a chymunedau fel sy’n ofynnol yn ystod y misoedd nesaf pan fydd y ceisiadau’n bodloni egwyddorion MACA.

Cyhoeddwyd ar 16 December 2021