Stori newyddion

Y Lluoedd Arfog i gefnogi gwasanaethau ambiwlans Cymru

Bydd 184 aelod ychwanegol o’r Lluoedd Arfog ar gael i gefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o 4 Ionawr, yn cynyddu’r nifer i 313.

A member of the Armed Forces receives training in Wales in October

A member of the Armed Forces receives training from an ambulance driver in Wales in October

Bydd 184 aelod ychwanegol o’r Lluoedd Arfog ar gael i gefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, i gynyddu gwydnwch ymatebwyr brys yn ystod y gaeaf.

Mae 129 o staff milwrol wedi bod yn cefnogi’r gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru ers mis Hydref a bydd yr ychwanegiad diweddaraf o 184 o staff, a fydd yn cychwyn ar eu gwaith ar 4 Ionawr, yn cynyddu’r nifer i 313. Hefyd, mae’r dasg wedi ei hymestyn hyd ddiwedd Mawrth.

Bydd y staff milwrol - dynion a merched sydd wedi cael hyfforddiant trwyadl - yn cyfrannu at y gwasanaeth trwy weithredu fel gyrwyr ychwanegol. Bydd y gwaith hwn yn helpu i leddfu’r pwysau ar y gwasanaeth o ganlyniad i’r pandemig a sicrhau y gall yr ymddiriedolaeth ambiwlans barhau i ddarparu ei gwasanaeth hanfodol, yn cynnwys ymdrin â galwadau lle mae bywydau unigolion yn y fantol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace:

Dros gyfnod yr Ŵyl, bydd ein staff milwrol yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i’n gwasanaethau brys pwrpasol ledled y DU i helpu i gadw cymunedau yn ddiogel.

Bydd cefnogaeth gan 184 aelod o staff milwrol ychwanegol yn sicrhau y gall gwasanaethau ambiwlans Cymru barhau i ddarparu gwasanaethau sy’n achub bywydau ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.

Dyma’r trydydd tro i’r Lluoedd Arfog gefnogi Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ers i’r pandemig gychwyn ym Mawrth 2020. Yn Ebrill 2020, lleolwyd 68 aelod o staff yng Nghymru ac yn Rhagfyr 2020, roedd 120 aelod o staff milwrol yn cefnogi staff Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yn cynnwys meddygon o’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Lluoedd Arfog y DU yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn Covid-19 ac rwy’n ddiolchgar iawn am eu hymroddiad a’u harbenigedd, gan eu bod unwaith eto yn cefnogi gwaith allweddol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Trwy gydol y pandemig, mae nifer mawr o staff milwrol wedi camu i’r adwy i gefnogi gwasanaethau iechyd ledled Cymru drwy ddosbarthu cyfarpar diogelu personol (PPE), gyrru ambiwlansau, cynorthwyo unedau profi cymunedol, a rhoi’r rhaglen frechu ar waith. Mae hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiwallu anghenion holl wledydd y Deyrnas Unedig.

Meddai Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:

Rydym yn ddiolchgar iawn y byddwn yn parhau i gael cefnogaeth y staff milwrol sydd eisoes wedi gwneud gwaith anhygoel yn ein cefnogi ar ddau achlysur blaenorol. Bydd cael cefnogaeth ein cydweithwyr o’r Lluoedd Arfog yn ein helpu i sicrhau bod mwy o ambiwlansau yn weithredol, fel y gallwn gyrraedd mwy o gleifion, a hynny’n gyflymach, tra bod y pwysau dwys iawn ar ein gwasanaethau yn parhau.

Y gaeaf yw ein cyfnod prysuraf a bydd cael cefnogaeth staff milwrol yn rhoi hwb i’n capasiti ac yn ein rhoi yn y sefyllfa orau bosibl i ddarparu gwasanaeth diogel i bobl Cymru.

Daw’r cynnydd diweddaraf yn y gefnogaeth filwrol wedi i 98 o staff milwrol gael eu rhyddhau i gefnogi’r rhaglen brechlynnau atgyfnerthu yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf. Bydd y Lluoedd Arfog yn gweithio i gefnogi’r Adran Iechyd a Llywodraeth Cymru i gyflymu’r rhaglen frechu Covid-19 ymysg ton o heintiau Omicron.

Bydd y staff yn ffurfio 14 tîm o frechwyr a fydd yn rhoi hwb sylweddol i gynyddu capasiti. Byddant yn gymysgedd o weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd a phersonél sy’n cyflawni dyletswyddau cyffredinol. Byddant yn gweithio i gefnogi staff a gwirfoddolwyr GIG Cymru, gan weinyddu brechlynnau a darparu arbenigedd cynllunio

Daw’r staff o unedau ledled y tri gwasanaeth – y Llynges Frenhinol, Y Fyddin Brydeinig a’r Llu Awyr Brenhinol – a byddant yn cael eu lleoli ym mhob un o’r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru, gyda dau dîm wedi eu neilltuo i bob Bwrdd Iechyd.

Mae rhai staff wedi bod yn cyflawni tasgau eraill yng Nghymru ers i’r pandemig gychwyn, yn cynnwys cynnal unedau profi cymunedol a dosbarthu cyfarpar diogelu personol.

Bellach mae 411 o staff milwrol ar gael i gefnogi tasgau Operation Rescript yng Nghymru, yr enw gweithredol a roddwyd i ddisgrifio gwaith y Weinyddiaeth Amddiffyn i gefnogi’r ymateb i’r pandemig ledled y DU.

Darperir y gefnogaeth trwy’r broses Cymorth Milwrol i Awdurdodau Sifil (MACA). Ers Mawrth 2020, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ymateb i dros 440 o geisiadau MACA ledled y DU.

Mae’r Lluoedd Arfog yn barod i gefnogi awdurdodau sifil, gwledydd datganoledig a chymunedau fel sy’n ofynnol yn ystod y misoedd nesaf lle mae’r ceisiadau’n bodloni egwyddorion MACA.

Cyhoeddwyd ar 23 December 2021