Datganiad i'r wasg

Bydd Bil Cymru diwygiedig yn cyflawni setliad datganoli cryfach

Stephen Crabb yn cyhoeddi newidiadau i Fil Cymru

Secretary of State Rt Hon Stephen Crabb

Heddiw, cyhoeddodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru newidiadau i Fil Cymru i gael gwared â biwrocratiaeth gyfansoddiadol a chyflawni setliad datganoli cryfach i Gymru.

Wrth siarad mewn cynhadledd o’r wasg ym Mae Caerdydd, blwyddyn ar ôl Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi, cyhoeddodd Stephen Crabb y bydd yn:

  • Cael gwared â’r hyn sy’n cael ei alw yn ‘brawf angenrheidrwydd’, fel y bydd y Cynulliad yn gallu newid y gyfraith i helpu gorfodi ei ddeddfwriaeth heb ddefnyddio’r prawf yn gyntaf
  • Lleihau’r nifer o gymalau cadw yn y Bil
  • Cael gwared â’r cyfyngiad cyffredinol ar y Cynulliad gan addasu swyddogaeth Gweinidogion y Goron mewn meysydd datganoledig

Mae’r newidiadau hyn yn dilyn cyfnod o bedwar mis o graffu cyn y broses ddeddfu yn ystod yr hyn y mae Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yng Nghynulliad Cymru wedi clywed tystiolaeth ar sut bydd model cadw pwerau yn gweithio yng Nghymru.

Angenrheidrwydd

Ar y “prawf angenrheidrwydd” fel y’i gelwir fel y mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer egwyddorion cyffredinol y gyfraith, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei fod wedi ystyried cynrychioliadau i’w ddisodli gyda phrawf gwahanol, ond daeth i’r casgliad mai’r ffordd orau ymlaen yw cael gwared â’r cyfyngiad yn gyfan gwbl.

O gofio mai nod allweddol yw lleihau cymhlethdod, bydd cael gwared â’r “prawf angenrheidrwydd” yn cael gwared â biwrocratiaeth gyfansoddiadol sydd mewn perygl o lesteirio gallu’r Cynulliad i addasu’r gyfraith er mwyn gorfodi ei ddeddfwriaeth y mae’n gyfrifol amdani.

Caniatadau

Pan mae Llywodraeth Cymru yn dymuno i’r Cynulliad ddeddfu ar faterion sy’n effeithio ar gorff neilltuedig (corff y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano), maen nhw’n gofyn am ganiatâd Llywodraeth y DU i wneud hynny.

Ar hyn o bryd, mae angen caniatâd yn ogystal i’r Cynulliad ddeddfu ynglŷn â swyddogaethau Gweinidogion y Goron mewn meysydd datganoledig o ganlyniad i gyfyngiad cyffredinol ar yr hyn a elwir yn “swyddogaethau cyn-gychwyn”. Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol y bydd yn cael gwared â’r cyfyngiad hwnnw ac edrych ar bob un o’r swyddogaethau hyn, gyda golwg ar ddatganoli cymaint ohonyn nhw ag sy’n bosibl.

Awdurdodaeth Gyfreithiol

Yn ogystal, mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ystyried galwadau am “awdurdodaeth unigryw” neu “awdurdodaeth ar wahân”. Wrth gael pwerau deddfu llawn yn 2011, ceir yn awr gorff cynyddol o gyfraith sy’n amlwg yn perthyn i Gymru. Ar hyn o bryd, mae hyn yn rhan fechan iawn o gorff cyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr yn gyffredinol sydd wedi datblygu dros 500 mlynedd o hanes cyfreithiol. Heddiw, eglurodd yr Ysgrifennydd Gwladol nad oes achos ar hyn o bryd ar gyfer rhannu awdurdodaeth sengl Cymru a Lloegr, sydd wedi gweithio’n dda dros bobl y wlad hon ac sy’n parhau i wneud hynny.

Fodd bynnag, cyhoeddodd heddiw fod angen eglur i edrych ar sut y mae cyfiawnder yn cael ei gyflawni yng Nghymru ac ystyried y corff amlwg a chynyddol o gyfraith Cymru sydd yn ein system gyfreithiol. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol felly yn sefydlu gweithgor gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, swyddfa’r Arglwydd Brif Ustus a Llywodraeth Cymru er mwyn ystyried pa drefniadau penodol sydd eu hangen i gydnabod anghenion Cymru oddi mewn i awdurdodaeth Cymru a Lloegr pan mae’r model cadw pwerau yn cael ei weithredu.

Cymalau Cadw

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi cyfarwyddyd i swyddogion yn Swyddfa Cymru i weithio ar restr o gymalau cadw gyda chydweithwyr o’r Cabinet, er mwyn gweld lle y gellir lleihau’r nifer o gymalau cadw a symleiddio’r rhestr.

Dywedodd Stephen Crabb:

Y llynedd, amlinellais fy ngweledigaeth am setliad datganoli i Gymru a fydd yn dal prawf amser drwy gyflawni model cadw pwerau i Gymru a rhoi pwerau pellach i’r Cynulliad ac i Lywodraeth Cymru.

Mae’r craffu hwn cyn y broses ddeddfu wedi arwain at ddadl fywiog ar y manylder ac rydw i’n ddiolchgar i’r Pwyllgor Materion Cymreig a Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad, yn ogystal â’r rhai hynny a roddodd dystiolaeth o gymdeithas ddinesig, sydd wedi helpu i arwain y penderfyniadau yr wyf wedi’u gwneud.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn helpu i gyflawni’r ymrwymiadau a wneuthum flwyddyn yn ôl i gyflwyno cyllid gwaelodol hanesyddol, datganoli mwy o bwerau a chael gwared â biwrocratiaeth gyfansoddiadol a chyfreithiol er mwyn creu datganoli cryfach a chliriach i Gymru.

Rydw i’n ffyddiog y gallwn ni yn awr gyflawni Bil gwell, a setliad gwell, o ganlyniad.

Cyhoeddwyd ar 29 February 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 March 2016 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.