Datganiad i'r wasg

Alun Cairns: "Mae ein cynhyrchwyr teledu annibynnol yn llwyddiant mawr"

Gweinidog Swyddfa Cymru i bwysleisio pwysigrwydd cynhyrchwyr annibynnol Cymru heddiw yn ei araith

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd gweinidog yn Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn brif siaradwr heddiw yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru), y gymdeithas fasnach ar gyfer cynhyrchwyr teledu Cymraeg. Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Bydd hefyd yn ymweld â set y gyfres lwyddiannus ar S4C, Y Gwyll/ Hinterland, i weld y diwydiant ar waith.

Yn ei anerchiad i TAC, bydd Mr Cairns yn cydnabod pwysigrwydd aruthrol y diwydiannau creadigol yng Nghymru, diwydiant sy’n cyflogi oddeutu 50,000 yn y wlad ac sy’n cael effaith wirioneddol ar yr adferiad economaidd yng Nghymru.

Bydd yn siarad hefyd am gefnogaeth barhaus Llywodraeth y DU i S4C – derbyniodd y darlledwr £6.8m eleni gan y llywodraeth ganolog – a’i hymrwymiad i’r iaith Gymraeg yn gyffredinol.

Dywedodd Mr Cairns:

Mae ein cynhyrchwyr annibynnol yn llwyddiant mawr yng Nghymru, gan greu swyddi a chyfleoedd i filoedd o bobl. Rydw i am iddyn nhw barhau i hybu eu gwaith rhagorol a helpu i ddatblygu’r sector – sydd â throsiant blynyddol o £1 biliwn eisoes – i roi hwb i economi Cymru.

Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC:

Mae’n bleser gan TAC groesawu Mr Cairns i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ni, i ddangos cefnogaeth y Llywodraeth i’r sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru.

Mae’r sector yn chwarae rhan gwbl allweddol mewn sbarduno’r economi yng Nghymru, nawr ac ar gyfer y dyfodol. Bydd TAC yn parhau i weithio’n galed er mwyn cydweithio gyda phawb fedr helpu i ddatblygu economi greadigol Cymru ymhellach.

Bydd Mr Cairns yn canolbwyntio ymhellach ar ddiwydiannau creadigol y wlad, ac yn dyst i’r gwaith sy’n cael ei wneud ar y tir, pan fydd yn mynd i weld cyfres hynod lwyddiannus ddiweddaraf S4C, Y Gwyll/Hinterland, yn cael ei ffilmio heddiw.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

Mae’n bleser croesawu’r Gweinidog i weld y gwaith sy’n mynd rhagddo ar Y Gwyll/Hinterland. Mae ymrwymiad a chefnogaeth ariannol barhaus Llywodraeth y DU i S4C yn hynod bwysig i ni.

Mae eu cefnogaeth yn galluogi i ni barhau i gymryd risg greadigol a buddsoddi mewn prosiectau fel Y Gwyll/Hinterland, sydd wedi rhoi proffil rhyngwladol newydd i Gymru.

Prosiectau fel yr un yma sy’n ein helpu ni i sicrhau’r effaith economaidd fwyaf posib yn sgil gwaith S4C – gan ddarparu swyddi a buddsoddiad mewn cymunedau ledled Cymru.

Wrth i ni edrych ymlaen at raglen afaelgar nesaf Y Gwyll/ Hinterland ar S4C ar Ddydd Calan, rydym yn falch iawn o allu dangos y gwaith rhagorol sy’n digwydd yma yng Ngheredigion ac ar gynyrchiadau eraill ledled Cymru.

Cyhoeddwyd ar 27 November 2014