Alun Cairns yn croesawu lansio gwasanaeth HD newydd @S4C
Alun Cairns yn croesawu lansio gwasanaeth HD newydd @S4C – gan gynnwys gemau Cymru yn Ewro 2016

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ni fu erioed unrhyw amheuaeth am ymrwymiad S4C i ddarlledu cynnwys o safon uchel, ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych i wylwyr ledled Cymru.
Wrth i ni baratoi ar gyfer haf rhagorol o chwaraeon, rwy’n falch bod S4C yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn i gefnogwyr allu mwynhau’r profiad gwylio gorau posib - a chanlyniadau da hefyd gobeithio.