Datganiad i'r wasg

Alun Cairns: "Gall Cymru arwain y ffordd yn ein chwyldro peirianyddol"

Ysgrifennydd Cymru'n ymweld â'r cwmni peirianneg enfawr Renishaw ym Meisgyn

Ysgrifennydd Cymru’n ymweld â’r cwmni peirianneg enfawr Renishaw ym Meisgyn

Gallai peirianneg yng Nghymru chwyldroi’r economi a rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo yn y byd modern. Hyn fydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei ddweud heddiw wrth iddo gwrdd â chynrychiolwyr o gwmni peirianneg Renishaw ym mhentref Meisgyn (dydd Iau 25 Hydref).

Mae’r cwmni byd-eang hwn, sydd â 80 o swyddfeydd mewn 36 o wledydd, yn arbenigo mewn mesur trachywir a gofal iechyd, gan gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau a ddefnyddir at ddibenion mor amrywiol â gwneud injans jet a thyrbinau gwynt, deintyddiaeth a llawdriniaeth ar yr ymennydd.

Mae’r safle ym Meisgyn yn cyflogi dros 400 o staff gan gynnwys prentisiaid sy’n astudio tuag at gymwysterau STEM. Bydd Mr Cairns yn mynd o gwmpas y safle, sy’n arbenigo mewn gweithgynhyrchu trachywir ac argraffu metel 3D, a hefyd o amgylch Canolfan Rhagoriaeth Gofal Iechyd Renishaw, sy’n cynnwys cynhyrchu strwythurau deintyddol a mewnblaniadau i ail-greu wynebau. Bydd Ysgrifennydd Cymru hefyd yn clywed drosto’i hun sut y mae Renishaw yn paratoi pobl ifanc am yrfa mewn peirianneg pan fydd yn cwrdd â Stephen Pickles, Technegydd Datblygu Prosesau a Phrentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru yn 2017.

Daw’r ymweliad yn ystod ymgyrch Blwyddyn o Beirianneg Llywodraeth y DU, sy’n dathlu byd a rhyfeddod peirianneg gyda’r nod o roi hwb i beirianneg ym mhob rhan o’r DU a sicrhau bod gan bawb y sgiliau sydd ei angen arnynt i ffynnu mewn economi fodern.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Drwy adeiladu ar gryfderau Cymru, mae Llywodraeth y DU eisiau gweithio’n agos â busnesau a’r diwydiant i gefnogi a datblygu ein galluoedd peirianyddol a sicrhau bod gennym y sgiliau yn eu lle i gynnal economi gref a gwydn sy’n barod am y dyfodol. Dyna pam ein bod yn buddsoddi yn sgiliau, diwydiannau a seilwaith y dyfodol drwy’r Strategaeth Ddiwydiannol. Bydd hyn yn adeiladu ar sylfeini cynhyrchedd diwydiant, gan gynnwys annog arloesi a sicrhau swyddi da gan ysgogi uwchraddio sylweddol ar seilwaith y DU a denu buddsoddiad fel mai’r DU yw’r lle gorau i gychwyn a datblygu busnes. Mae gan hyn i gyd y capasiti i greu cymunedau ffyniannus ym mhob rhan o’r wlad, ac mae cwmnïau fel Renishaw yn ein helpu i wireddu’r uchelgais hwn drwy hyfforddi cannoedd o bobl yn ne Cymru i gyflawni eu potensial a gwneud cyfraniad gwerthfawr i’n heconomi.

Meddai William Lee, Prif Weithredwr Renishaw:

Mae Renishaw wedi buddsoddi dros £45 miliwn yn ein cyfleusterau ger Caerdydd ers 2011 fel rhan o ymrwymiad tymor hir i ddatblygu ein presenoldeb yng Nghymru.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweld sut y mae’r buddsoddiad hwn o fudd i bobl ar draws de Cymru gan gynnwys drwy raglen allgymorth addysg helaeth mewn canolfan ddynodedig i ysgolion cynradd ac uwchradd ar y safle. Mae hyn i gyd yn rhan o sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau angenrheidiol i helpu i ddatblygu ein busnes dros y blynyddoedd nesaf, fel y gallwn gynnal twf y cwmni ar gyfer y dyfodol.

Dysgwch fwy am ymgyrch Blwyddyn o Beirianneg Llywodraeth y DU a chofrestrwch i fod yn bartner

Cyhoeddwyd ar 25 October 2018