Datganiad i'r wasg

Alun Cairns: Llywodraeth y Deyrnas Unedig "wrth law ac yn barod" i gefnogi gweithwyr Tata a’r gymuned

Ysgrifennydd Cymru yn bresennol yng nghyfarfod Tasglu Tata Steel yng Nghaerdydd

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud popeth o fewn ei gallu yn yr ymgyrch i ddiogelu dyfodol strategol diwydiant dur Prydain, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, heddiw (4 Ebrill).

Mae Mr Cairns yng Nghaerdydd ym mhedwerydd cyfarfod Tasglu Tata Steel.

Wrth siarad cyn y cyfarfod, amlinellodd Mr Cairns ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi’r diwydiant i sicrhau dyfodol hyfyw yn y tymor hir.

Dywedodd:

Blaenoriaeth absoliwt y Llywodraeth hon yw edrych ar ôl y gweithwyr a’r gymuned ehangach drwy weithio gyda Tata Steel a Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ateb hirdymor.

Rydym wedi bod yn gweithio’n helaeth gyda’r diwydiant, a gyda Tata yn benodol, i fynd i’r afael â’r anawsterau mae’n eu hwynebu. Dyna pam rydym wedi cymryd camau pendant i’w digolledu nhw am eu costau ynni a sicrhau hyblygrwydd ynghylch rheoliadau allyriadau’r Undeb Ewropeaidd. Rydym hefyd yn parhau â’n hymdrechion i fynd i’r afael ag arferion masnachu annheg ar lefel yr Undeb Ewropeaidd ac ar lefel ryngwladol. Ers cyflwyno tariffau ar rebar, er enghraifft, mae mewnforion o Tsieina o’r math arbennig hwn o ddur wedi gostwng 99%.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Mae gennyf brofiad uniongyrchol o sut gallai rhai fod yn teimlo ar yr adeg anodd hon. Collodd fy nhad ei swydd yn y gwaith dur ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth fel weldiwr. Rwy’n benderfynol y byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i ddod o hyd i fuddsoddwr hirdymor a diogel yn y gwaith hwn, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth law ac yn barod i gynnig ei chefnogaeth er budd uniongyrchol y gweithwyr a’r gymuned.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2016