Datganiad i'r wasg

Alun Cairns i arwain ymgyrch fasnach a buddsoddi Cymru-Asia

Ysgrifennydd Cymru i fynychu’r GREAT Festival of Innovation yn Hong Kong

Dim ond cryfhau all y berthynas fasnach a buddsoddi rhwng y DU a Hong Kong, yn ôl Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wrth iddo fynychu gŵyl sy’n dangos y gorau o arloesedd y DU yn Asia yn y GREAT Festival of Innovation yn Hong Kong yr wythnos hon (21-24 Mawrth).

Wedi ei threfnu gan Lywodraeth y DU fel rhan o’i hymgyrch GREAT, bydd yr Ŵyl yn dangos sut y gall technoleg newydd newid ein ffordd o weithio, dysgu a chwarae yn y dyfodol.

Bydd hefyd yn gyfle gwych i’r goreuon o blith buddsoddwyr Prydeinig ac Asiaidd greu cysylltiadau masnach newydd a chryfhau cysylltiadau presennol â channoedd o arweinyddion busnes a buddsoddwyr rhyngwladol.

Yn ystod ei ymweliad, bydd Alun Cairns yn traddodi araith gerbron cynulleidfa o 300 o fusnesau ar y rôl bwysig fydd gan arloesi i’w chwarae yn llwyddiant masnachu byd- eang Prydain yn y dyfodol.

Bydd hefyd yn cynnal cyfarfodydd dwyochrog â chynrychiolwyr busnesau a fydd yn cynnwys BT, Detroit Electrical a Sanpower cyn croesawu cynrychiolwyr busnes o Gymdeithas Dewi Sant Hong Kong.

Meddai Alun Cairns, a fydd yn ymuno â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol Liam Fox yn yr Ŵyl:

Nid oes amheuaeth ynglŷn â phwysigrwydd Hong Kong i Brydain. Y gornel hynod hon o’r byd yw ail bartner masnach mwyaf y DU yn Asia. Ac fel un o’n buddsoddwyr tramor uniongyrchol pwysicaf, mae’n bartneriaeth sy’n creu miloedd o swyddi ac sy’n cynnal teuluoedd ledled y DU.

Ac mae’n rhan o’r farchnad Asiaidd sy’n cynnig cymaint o gyfleoedd i fusnesau Cymru dyfu ac i ganfod cwsmeriaid newydd y tu allan i’r UE. Rwyf yn edrych ymlaen at edrych ar y cyfleoedd hyn yno, i adeiladu ar y berthynas bwysig hon a helpu i greu mwy o gyfleoedd buddsoddi ac allforio i gwmnïau o’r ddwy diriogaeth.

Bydd rhai cannoedd o fusnesau a sefydliadau mwyaf creadigol y DU yn bresennol, gan gynnwys busnesau o Gymru – a bydd pob un yn cymryd rhan mewn rhaglen lawn a fydd yn edrych sut y gall arloesedd a thechnoleg fod yn ddylanwad pwysig ar ein cysylltiadau masnach a buddsoddi ag Asia yn y dyfodol.

Un o’r cwmnïau a fydd yn teithio i Hong Kong fydd IQE o Gaerdydd – un o’r prif gyflenwyr byd-eang o gynnyrch a gwasanaethau haenellau lled-ddargludo, a phartner blaenllaw yn y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd sy’n cael ei gefnogi gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n werth £1.2 biliwn.

Yn ystod yr Ŵyl, bydd cyfle unigryw iddynt i gwrdd â phartneriaid busnes newydd posibl a hefyd i godi eu proffil hwy ymhlith rhwydwaith ehangach sy’n cynnwys asiantaethau llywodraeth a’r gymuned fuddsoddi.

Yn ymuno ag IQE fel rhan o’r garfan o Gymru fydd Hydro Industries, Snowdonia Cheese Company a CS Catapult – gyda phob un ohonynt yn gwneud cyfraniad pwysig at werth allforion Cymru, a oedd werth £16.4 biliwn y llynedd – cynnydd o 12.3% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Er hynny, bydd Alun Cairns yn dweud bod cyfle enfawr i fwy o fusnesau Cymreig i gyrraedd cwsmeriaid newydd yn sgil ymadael â’r UE trwy ddiwallu’r angen mawr yn rhyngwladol am nwyddau a gwasanaethau o’r DU.

Meddai:

Bydd y GREAT Festival of Innovation yn dangos sut y gall y cysylltiadau sydd gennym ledled y byd fod yn fwy amrywiol, a datblygu i fod yn gryfach ac yn fwy deniadol wrth i ni adael yr UE.

Heb amheuaeth, mi fydd y pedwar diwrnod nesaf yn helpu i agor y drysau i fusnesau Cymreig sy’n chwilio am gyfleoedd i ehangu ac i ffynnu mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Mae gan Gymru nifer o fusnesau ardderchog sydd wedi cael llwyddiant mawr ar ôl teithio’r byd â’u cynnyrch. Rwyf yn gobeithio y gallant fod yn ysbrydoliaeth i eraill ac y bydd y daith fasnach hon yn helpu i feithrin cysylltiadau newydd y gall busnesau Cymreig fanteisio arnynt yn y dyfodol.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

The GREAT Festival of Innovation

The Great Festival of Innovation Hong Kong fydd y drydedd o’i math, a bydd yn dilyn digwyddiadau llwyddiannus eraill yn Istanbul (2014) a Shanghai (2015). Ei gweledigaeth yw creu partneriaethau tymor hir sy’n creu dyfodol masnach rydd a ffyniant rhwng y DU ac Asia.

Bydd rhai cannoedd o wahoddedigion yn bresennol yn y digwyddiad yn Hong Kong, sy’n cael ei gynnal yn yr Asia Society Hong Kong Centre a bydd yn cynnwys mwy na 60 o banelau a digwyddiadau yn ystod y 4 diwrnod. Am ragor o wybodaeth, ewch i great.gov.uk/innovation neu dilynwch yr hashnod #GREATinnovation.

Y Rhaglen E-Exporting

Mae Rhaglen E-Exporting yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT) yn helpu cwmnïau o’r DU i dyfu’n gyflymach ym mhob rhan o’r byd trwy e-fasnach. Mae’r rhaglen yn cynnwys mynediad i’r Pecyn Gwerthu Dramor Ar-lein ar great.gov.uk. Mae’n wasanaeth ar-lein, am ddim sy’n galluogi busnesau i glicio, cysylltu, paratoi a gwerthu mewn marchnadoedd byd-eang fel MyMM, Goxip a ttHigo. Mae’r pecyn yn cynnig mynediad at ostyngiadau a manteision, fel comisiwn is a phecynnau marchnata arbennig.

Yr Adran Masnach Ryngwladol

Adran Masnach Ryngwladol (DIT) y DU sydd â’r prif gyfrifoldeb am hyrwyddo masnach y DU ledled y byd ac am ddenu buddsoddiad rhyngwladol i’n heconomi. Rydym yn gorff arbenigol o fewn y llywodraeth sydd â chyfrifoldeb am negodi polisi masnach ryngwladol, cynorthwyo busnesau, yn ogystal â chynhyrchu strategaeth ddiplomyddiaeth masnach allanol.

Yr Ymgyrch GREAT Britain

Yr ymgyrch GREAT Britain yw ymgyrch farchnata ryngwladol fwyaf uchelgeisiol y llywodraeth erioed, ac mae’n dangos y gorau o’r hyn sydd gan Brydain i’w gynnig. Ei nod yw annog cynulleidfaoedd i ymweld, astudio, buddsoddi a masnachu â’r DU, gan gynhyrchu swyddi a thwf gartref. Mae’r ymgyrch wedi cynhyrchu £2.7 biliwn mewn buddion i economi’r DU hyd yma, gyda £2.6 biliwn arall yn yr arfaeth ac mae wedi’i chanmol gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Cyhoeddwyd ar 21 March 2018