Datganiad i'r wasg

Alun Cairns “Mae’r iaith Gymraeg yn chwarae rôl hollbwysig i’n hunaniaeth a’n diwylliant’

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dangos ymrwymiad llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r iaith mewn cyfarfod â’r Comisiynydd newydd

Ailddatganodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r Iaith Gymraeg pan gyfarfu â Chomisiynydd newydd yr iaith Gymraeg Aled Roberts ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.

Ysgrifennodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd i bob un o adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ofyn am eu cefnogaeth i helpu Llywodraeth Cymru i wireddu eu nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi’r uchelgais hwn drwy wreiddio’r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o’i gwaith; yn cefnogi Gweision Sifil i ddysgu Cymraeg, ariannu cynnyrch creadigol sydd wedi ennill gwobrau, darparu gwasanaethau dwyieithog a datblygu mentrau ble mae’r iaith yn chwarae rôl annatod.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Alun Cairns:

Fel adran sydd â’r prif gyfrifoldeb dros y Gymraeg yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rwyf yn deall yn iawn y rôl hollbwysig y mae’r iaith Gymraeg yn ei chwarae yn ein hunaniaeth a’n diwylliant.

Fy rôl i fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw sicrhau fod adrannau ar draws Whitehall yn ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf i siaradwyr Cymraeg. Dyna pam rwy’n falch o gael gweithio gydag adrannau ar draws y llywodraeth ganolog i sicrhau fod eu gwaith yn adlewyrchu amrywiaeth cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 29 May 2019