Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn cymryd rhan yn yr Her Cymryd Drosodd

Swyddfa Cymru yn agor ei drysau i bobl ifanc ar Ddiwrnod yr Her Cymryd Drosodd

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn ildio ei gadair boeth heddiw (dydd Mawrth, 1 Rhagfyr) wrth i blant ymgymryd â nifer o brif swyddi’r DU yn ystod Her Cymryd Drosodd eleni.

Bydd bron i 50,000 o blant yn gwneud swyddi oedolion yn yr Her Cymryd Drosodd eleni, a bydd plant a phobl ifanc yn dangos eu doniau wrth fynd i’r afael â rhai o’r prif swyddi yn y llywodraeth ac mewn busnesau a sefydliadau eraill.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Ar y Diwrnod Cymryd Drosodd byddwn yn agor drysau Swyddfa Cymru i ddangos i bobl ifanc y gwaith pwysig rydyn ni’n ei wneud yma – yn cynrychioli Cymru yn Whitehall ac fel wyneb cyhoeddus Llywodraeth y DU yng Nghymru.

Mae’n gyfle gwych i ddangos sut mae llywodraeth ganolog yn gweithio ac i’w hysbrydoli nhw i ddilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth neu yn y gwasanaeth sifil.

Rwy’n annog sefydliadau ledled Cymru a’r DU i gymryd rhan yn yr Her Cymryd Drosodd yn y dyfodol. Mae’r rhaglen hon yn ysbrydoli’r plant sy’n cymryd rhan ac mae arweinwyr ym meysydd gwleidyddiaeth a busnes yn dysgu drwy weld y safbwynt gwahanol y mae pobl ifanc yn ei gyflwyno.

Dywedodd Jack Gillum:

Roedd yn ddiddorol iawn gweld agweddau gwahanol ar waith y Gweinidog - roedd yn llawer mwy amrywiol nag oeddwn i wedi’i ddychmygu.

Cefais wneud bob mathau o bethau, o fynychu cyfarfod uwch dîm rheoli, i sesiwn am drafnidiaeth.

Mae gen i ddiddordeb mewn gweithio yn y Senedd rhyw ddydd, felly mae’n ddifyr gweld â’m llygaid fy hun sut mae pethau’n gweithio yn Whitehall!

Yn ogystal â chymryd yr awenau yn Swyddfa Cymru, mae plant wedi bod yn darlledu’n fyw ar wahanol raglenni’r BBC fel rhan o’r Her eleni. Hefyd, bydd Maer Llundain a nifer o feiri eraill wedi trosglwyddo eu cyfrifoldebau, yn ogystal â Gweision Sifil, cyfarwyddwyr y GIG a Chomisiynwyr yr Heddlu yn yr Her Cymryd Drosodd fwyaf eto.

Mae’r Her Cymryd Drosodd wedi tyfu bob blwyddyn – yn 2014 bu dros 44,000 o blant a 1,200 o sefydliadau yn cymryd rhan. Mae’r twf mewn poblogrwydd wedi galluogi mwy a mwy o bobl ifanc i gymryd rhan.

Cyhoeddwyd ar 1 December 2015