Stori newyddion

Alun Cairns i weld sut mae cyflwyno Credyd Cynhwysol yn trawsnewid bywydau ledled Cymru

Alun Cairns: Nod ein cynlluniau i ddiwygio lles yw creu system decach lle mae pobl bob amser yn well eu byd pan fyddant yn gweithio yn hytrach nag ar fudd-daliadau.

Bydd un o Weinidogion Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn gweld sut mae dros 4,000 o bobl yng Nghymru yn elwa o Gredyd Cynhwysol wrth ymweld â Chanolfan Waith Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno mewn 20 o ganolfannau gwaith eraill yng Nghymru ar ddydd Llun 2 Tachwedd. Mae Credyd Cynhwysol nawr ar gael mewn tri chwarter y canolfannau gwaith ledled Cymru.

Yn ystod yr ymweliad, bydd y Gweinidog yn cwrdd â’r staff a’r hawlwyr yn y ganolfan waith i glywed sut mae’r budd-dal newydd chwyldroadol yn helpu i sicrhau cymdeithas â llai o bwysau o ran lles a threthi, ond gyda chyflogau uwch.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Nod ein cynlluniau i ddiwygio lles yw creu system decach lle mae pobl bob amser yn well eu byd pan fyddant yn gweithio yn hytrach nag ar fudd-daliadau.

Am rhy hir o’r hanner, mae dibyniaeth ar fudd-daliadau lles wedi bod yn broblem mewn nifer o gymunedau yng Nghymru. Ond mae hynny’n newid. Mae Credyd Cynhwysol yn rhoi’r hyder i bobl symud yn rhwydd o fudd-daliadau i fyd gwaith, ar hyd a lled y DU.

Rwyf wrth fy modd bod Credyd Cynhwysol nawr yn cael ei gyflwyno mewn rhagor o leoliadau ledled Cymru, er mwyn gallu cefnogi hyd yn oed mwy o bobl i gefnu ar ddibyniaeth ar fudd-daliadau lles ac elwa o sicrwydd cyflog rheolaidd.

Dywedodd y Gweinidog Diwygio Lles, yr Arglwydd Freud:

Mae Credyd Cynhwysol yn chwyldro ym maes lles - system sy’n cefnogi pobl yn y gwaith a’r tu allan, am y tro cyntaf. Mae pobl ledled y wlad yn elwa o’r mwy o hyblygrwydd hwn yn barod.

O dan Gredyd Cynhwysol, rydyn ni’n creu cymdeithas â llai o bwysau o ran lles a threthi, ond gyda chyflogau uwch, gyda phobl yn symud i swyddi yn gyflymach ac yn gallu ennill mwy, gan wybod eu bod yn well eu byd pan fyddan nhw’n gweithio.

Cyhoeddwyd ar 2 November 2015