Alun Cairns yn ymuno ag Aston Martin i hyrwyddo gyrfaoedd yn STEM i ddisgyblion Sain Tathan
Bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a phrentisiaid peirianneg Aston Martin annog plant i ddod yn arweinwyr y dyfodol yn y diwydiant cerbydau

Welsh Secretary Alun Cairns with Aston Martin apprentices in promoting STEM careers to St Athan Primary pupils
Bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns ymuno â phrentisiaid peirianneg Aston Martin i hyrwyddo gwerth gyrfaoedd STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) i ddisgyblion Ysgol Gynradd Sain Tathan ddydd Llun 25 Medi.
Roedd hyn yn dilyn cyhoeddiad y gwneuthurwr ceir moethus y llynedd y bydd y ceir cyntaf i gael eu gwneud yn y ffatri yn Sain Tathan yn barod yn 2019, gan greu tua 750 o swyddi newydd yn y safle ym Mro Morgannwg, gyda 1,000 o swyddi eraill yn debygol ar draws y gadwyn gyflenwi ac mewn busnesau lleol.
Roedd y disgyblion yn llawn cynnwrf wrth iddynt ddod wyneb yn wyneb â’r model DB11 newydd sbon a Rapide S, a chawsant gyfle i ddysgu mwy am waith y prentisiaid a hanes y cwmni. Mi siaradodd y prentisiaid Luca Freemantle, Varun Mudan ac Adam Hill a anwyd yng Nghastell Nedd gyda’r disgyblion am gynllun bedair blynedd y cwmni, a sut oeddynt yn edrych ymlaen at symud i’r safle yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf.
Bydd y safle newydd yn Sain Tathan yn cynhyrchu dau gar pedwar drws fydd yn unigryw i Gymru; y car trydan Rapide E a’r DVX, cerbyd chwaraeon bob pwrpas cyntaf Aston Martin.
Meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r ffaith y bydd Aston Martin yn symud i Gymru yn eithriadol o arwyddocaol o ran gwneud Sain Tathan yn ganolfan bwysig ar gyfer cyflogaeth, gan ddod â sgiliau gwerthfawr ac etifeddiaeth barhaol i’r rhanbarth cyfan.
Rwy’n gobeithio y bydd disgyblion fel y rhain yn cymryd diddordeb mewn pynciau STEM i ddod yn brentisiaid, gwneuthurwyr ac arweinwyr busnes y dyfodol, gan gyfrannu at hanes cyfoethog y DU o allforio cerbydau, a gwneud Cymru yn lle ardderchog i fuddsoddi arian a gwneud busnes.
Mae penderfyniad Aston Martin i fuddsoddi yng Nghymru yn dangos ein bod yn creu ac yn cefnogi’r amodau cywir ar gyfer buddsoddi yn y diwydiant. Bydd strategaeth ddiwydiannol gynhwysfawr Llywodraeth y DU yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, gan sicrhau bod gennym y seilwaith, y sgiliau a’r cymorth priodol ar waith ar gyfer ein diwydiannau blaenllaw yn ogystal â’r cymorth sydd ei angen er mwyn i sectorau newydd ffynnu.