Alun Cairns yn galw ar siaradwyr Cymraeg i ‘ysgwyddo cyfrifoldeb fel unigolion’ dros yr iaith
Gweinidog yn rhoi araith ar y Gymraeg a bydd yn pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r iaith.
Bydd hefyd yn galw ar bawb mae’r iaith yn bwysig iddynt i ysgwyddo cyfrifoldeb fel unigolion dros ei dyfodol a’u bod yn ei defnyddio mor aml ag sy’n bosibl.
Deddfwriaeth
Wrth gydnabod pwysigrwydd llwyddiannau gwleidyddol fel pasio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a sefydlu S4C, bydd Mr Cairns yn dadlau na all unrhyw lywodraeth ddeddfu bywyd i iaith. Rhaid i siaradwyr Cymraeg eu hunain ysgwyddo’r cyfrifoldeb os ydy’r iaith yn mynd i ffynnu, bydd yn dweud wrth y gynulleidfa yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd. Bydd yn dadlau y gallai mynd ar drywydd rhagor o ddeddfwriaeth fod yn wrthgynhyrchiol ac yn lle hynny dylid rhoi’r pwyslais ar hybu defnyddio’r Gymraeg:
Ni all unrhyw lywodraeth ddeddfu bywyd i iaith. Nid wyf eisiau gweld trefn o reoleiddio’r iaith sy’n esgeuluso ymdrechion i hybu ei defnyddio.
Rhaid i ni osod y nod o hybu’r iaith yn organig, yn enwedig ar lefel llawr gwlad, ac iddi wreiddio fel iaith gymunedol fyw sy’n ffynnu. Mae ffigurau siomedig Cyfrifiad 2011 yn cadarnhau graddfa’r sialens hon.
Y Gymraeg a’r economi
Bydd Mr Cairns hefyd yn tynnu sylw at y ddolen hollbwysig rhwng y Gymraeg a’r economi, gan adleisio slogan enwog Cymdeithas yr Iaith o’r 70au ‘Dim iaith heb waith’:
Er mwyn rhoi sylw i’r llif rheolaidd o bobl ifanc sy’n gadael y Fro Gymraeg, rhaid i’r naill lywodraeth a’r llall ar bob pen o’r M4 greu cyfleoedd swyddi er mwyn i’n pobl ifanc allu aros yn eu cymunedau, meddai Mr Cairns.
Llawr gwlad
Bydd y Gweinidog hefyd yn talu teyrnged i’r ‘sbardunwyr’ sy’n rhoi bywyd i’r iaith, mudiadau ar lawr gwlad fel yr Urdd, Mentrau Iaith a Merched y Wawr. Mae’r mudiadau hyn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol gwerthfawr i bobl yn hen ac yn ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywed:
Mae’r rheini sy’n ymfalchïo yn yr iaith yn tueddu i fynegi’r iaith mewn diddordebau diwylliannol. Rwyf yn cyhoeddi sialens i greu cyfleoedd tebyg er mwyn i’r iaith ffynnu mewn meysydd eraill – mewn technoleg, peirianneg ac mewn dylunio digidol.
Defnyddio’r iaith
Bydd y Gweinidog hefyd yn sôn am y canfyddiad o elitaeth sydd ynghlwm wrth y Gymraeg:
Rwyf hefyd yn herio pawb i wneud mwy i gofleidio ac i annog dysgwyr Cymraeg ac i fod yn amyneddgar ac yn gefnogol, yn enwedig i’r rheini o gymunedau nad ydynt yn siarad Cymraeg yn draddodiadol.
Yn anffodus mae gormod o lawer o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig cenhedlaeth iau sydd wedi astudio’r Gymraeg nes eu bod yn 16 yn yr ysgol, nad ydynt yn gweld eu hunain fel siaradwyr Cymraeg, neu nid oes ganddyn nhw’r hyder i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth neu fuarth yr ysgol.
Mae gan y Cyfryngau Cymraeg ran bwysig i’w chwarae o ran herio patrymau ieithyddol a meithrin hyder pobl i siarad Cymraeg a’i defnyddio yn eu bywydau bob dydd.