Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn llongyfarch yr Urdd ar ddigwyddiad llwyddiannus arall

Alun Cairns: "Urdd yn meithrin talentau ein pobol ifainc"

Heddiw fe llongyfarchodd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar gynnal digwyddiad llwyddiannus arall. Pwysleisiodd rôl y sefydliad yn meithrin talent ifanc yng Nghymru ac yn dodi diwylliant Cymru ar y map.

Mae Eisteddfod yr Urdd gynhaliwyd eleni yn Llancaiach Fawr, Caerffili, sy’n dod i ben heddiw, yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop. Mae dros 15,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu ynddi pob Blwyddyn a miloedd o ymwelwyr pellach yn dod I ymweld â’r wyl.

Dywedodd Mr Cairns:

Rydym fel cenedl yn enwog am ein canu, dawnsio, perfformio a barddoniaeth ac mae’r Urdd yn chwarae rhan flaenllaw yn meithrin talentau ein pobl ifanc. Mae llawer o’n perfformwyr. Dechreuodd nifer o’n perfformwyr mwyaf adnabyddus eu gyrfau ar lwyfan yr Urdd.

Mae Eisteddfod yr Urdd yn cynnig cyfle naturiol i bobl ifanc fwynhau defnyddio eu Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog. Mae’n arbennig o galonogol pan fod diwylliant Cymru yn ffynnu fel hyn mewn ardal sydd, fel Caerffili, yn draddodiadol ddi-Gymraeg fel Nghaerffili.

Ar ben hynny, bydd yr economi lleol wedi cael hwb gan gynnal y digwyddiad, felly ei fanteision yn economaidd, yn ogystal â diwylliant.

Llongyfarchiadau i’r holl gystadleuwyr eleni. Byddwn yn amser fod yn gweld llawer ohonynt yn perfformio ar lwyfan y byd.

Cyhoeddwyd ar 30 May 2015